Mae map rhyngweithiol, hawdd i’w ddefnyddio, Darganfod Gwynedd yn eich helpu i gynllunio eich ymweliad â Gwynedd ac yn eich galluogi i gael y gorau o’r amser sydd gennych yn yr ardal.
Gellir gweld Gwynedd gyfan yn fanwl yma. Ceir gwybodaeth am ble i fwyta, y mannau golygfaol arbennig, beth sy’n digwydd yma a manylion am y chwedlau lleol hyd yn oed gan ddefnyddio’r map. Gellir cael hyd i bopeth o arlunwyr lleol ac atyniadau mawr i dwristiaid a siopau coffi arbenigol yn rhwydd iawn, dim ond drwy glicio ar eich llygoden.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw ticio’r categori y mae gennych ddiddordeb ynddo yn y blwch mordwyo ar y chwith. Er enghraifft, os hoffech gynllunio diwrnod yn edrych ar ddetholiad o arlunwaith gan grefftwyr lleol, ticiwch y dewisydd ‘celf a chrefft’. Bydd eiconau’n ymddangos ar y map yn dangos lleoliad y crefftwyr lleol niferus yng Ngwynedd. Gellir gweld gwybodaeth fanylach am bob crefftwr unigol drwy glicio ar eu heicon unigol.
Mae’r cyfleuster hwn yn eich galluogi i weld pa weithgareddau, gweithdai a digwyddiadau arbennig sy’n digwydd yn ystod eich ymweliad. I’w ddefnyddio, ticiwch ddewisydd y ‘digwyddiadau’ i ddechrau. Yna nodwch ddyddiad dechrau a gorffen y cyfnod y mae gennych ddiddordeb ynddo. Bydd clicio ar y botwm ‘chwilio’ wedyn yn dangos eiconau ar y map yn cynrychioli’r holl ddigwyddiadau yng Ngwynedd rhwng y dyddiadau a nodwyd gennych chi. Gellir gweld rhagor o fanylion am bob digwyddiad drwy glicio ar unrhyw rai o’r eiconau.
I weld y tywydd ar gyfer yr ardal hon yn fanylach, cliciwch ar Ragolygon y Tywydd. Rhagolygon Tywydd
Paid â methu |
![]() |
|
17th Mehefin Parti Penrhyn(deudraet … |
||
20th Mehefin Crwydro’r Coed … |
||
20th Mehefin Taith Gerdded y Troell … |
||
26th Mehefin Taith Gerdded y Troell … |
||
29th Mehefin Dathlu ein Dolydd Gwai … |
||
12th Gorffennaf Dyfrgwn Swil a Bywyd A … |
||
15th Gorffennaf Archwilio Cyfrinachau … |
||
27th Gorffennaf Ffair Hen Bethau … |
||
31st Gorffennaf Diwrnod Detectif Natur … |
||
13th Awst Ffair Hen Bethau … |
||
![]() |
||
Mae Cwm Idwal, Gwarchodfa Natur Genedlaethol ym mynyddoedd Eryri, yn gyflwyniad rhagorol i ddaeareg rewlifol. Mae llwybr ag arno arwyddbyst clir yn eich arwain i fyny i fyd ucheldirol a grugog y gigfran, gyda phlanhigion arctig alpaidd, nentydd byrlymus y mae bronwen y dwr yn ymwelydd cyson â hwy ac aruthredd a mawredd anhygoel yr amffitheatr rewlifol.
Mae gwarchodfa natur Gwaith Powdwr ar aber afon Dwyryd yn borth i'r coetiroedd derw crog a geir ym Mro Ffestiniog. Mae'r coedwigoedd cnotiog, hynafol sydd wedi'u gorchuddio gan fwsoglau, llysiau'r afu a chen yn gartref i'r gwybedog brith a'r tingoch ac yn yr afonydd a'r nentydd ceir dyfrgwn a sewin (brithyll môr).
Un o'r mannau gorau i brofi môr ac arfordir Gwynedd yw Uwchmynydd. Yn sefyll ar y pentir ym mhen draw un Llŷn, rydych yn siwr o deimlo grym y môr yno, yn ogystal ag aruthredd y clogwyni a gwerth y rhostiroedd arfordirol i adar allweddol fel y frân goesgoch a chlochdar y cerrig.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau