Mae'r afonydd chwim a'r nentydd sydd yn llifo lawr o'r mynyddoedd wedi denu naturiaethwyr ers amser maith. Ar furiau llawn mwsog yn llwch dŵr y rhaeadrau sy'n disgyn i byllau dyfn, clir, tyfa'r gwhanol redyn prin a thlws y gwirionai casglwyr oes Fictoria â hwynt: mae'r rhedynach , y marchredyn gweir-aroglus a'r rhedyn gwrychog eithriadol o brin oll i'w canfod yn yr ardal, a hynny mewn mannau o brydferthwch dirdynnol.

Wrth i'r afonydd gyfarfod y môr mae amrywiaeth rhyfeddol arall o gynefinoedd yn amlygu eu hunain. Ewch lawr i warchodfa'r Spinneys yn Aberogwen, neu'r Gwaith Powdwr ar aber bendigedig Afon Dwyryd, i weld glas y dorlan, rhegen y dŵr, yr hwyadwydd a'r wyach fawr gopog. Efallai y gwelwch drwyn a wisgars dyfrgi wrth iddo chwilota ei ffordd fyny'r afon, neu'r gweilch y pysgod sy'n nythu ar Afon Glaslyn ac Afon Dyfi yn pysgota yn sianelau'r llanw. Mae gwiberod yn cynhesu eu hunain wedi oerni'r gaeaf ar grawiau llechfaen y Gwaith Powdwr ac mae morloi yn aml yn nofio i fyny'r afon ger Borth y Gest i mewn i'r harbwr ei hun ym Mhorthmadog. Yng nghoedwigoedd y derw digoes – ceinciog a llawn mwsog, mor llawn o ddirgelwch â straeon y dewiniaid sy'n tarddu ohonynt – mae yna amrywiaeth gwych o adar. Pan ddaw'r gwanwyn daw'r teloriaid, yr awyr yn llawn o gân y penlöyn, a'r gwybedog yn dawnsio ar y pelydrau haul wedi'u hidlo sy'n goleuo clychau'r gog a'r blodau'r gwynt gwelw ar lawr y goedwig. Mae'n hawdd, ar adegau fel hyn, gweld sut roedd storiau hud a lledrith yn gweddu'r taleithiau bychain yma o harddwch naturiol a rhyfeddod .


Jim Perrin, ysgrifennwr

{page_title_{county_code}}
{page_title_{county_code}}

© Prif Lun / Main image: © Damian Hughes - dphphotography.co.uk. Lluniau bach / Small images: Ganllwyd; Lôn Las Peris © Ray Wood

Gwaith Podwr

Mae gwarchodfa natur Gwaith Powdwr ar aber afon Dwyryd yn borth i’r coetiroedd derw crog a geir ym Mro Ffestiniog. Mae'r coedwigoedd cnotiog, hynafol sydd wedi’u gorchuddio gan fwsoglau, llysiau’r afu a chen yn gartref i’r gwybedog brith a’r tingoch ac yn yr afonydd a’r nentydd ceir dyfrgwn a sewin (brithyll môr).

 

I weld y tywydd ar gyfer yr ardal hon yn fanylach, cliciwch ar Ragolygon y Tywydd. Rhagolygon Tywydd

Flickr