Wedi’u lleoli ar hyd a lled Gwynedd yn rhai o’n cymunedau mwyaf diddorol, mae’r safleoedd gwybodaeth hyn yn cael cartref gan berchnogion busnesau sydd eisiau eich helpu chi i ddarganfod y mannau gorau yng Ngwynedd. Mae’r busnesau hyn wedi creu gofod penodol er mwyn i chi allu ei ddefnyddio i edrych ar y pethau gorau yng Ngwynedd. Dewch draw i ddefnyddio’r gofod di-wifr rhad ac am ddim neu edrychwch yng ngwefan Darganfod Gwynedd ar y derfynell benodol ar y we. Diben DarganfodGwynedd.com yw eich helpu i gynllunio eich ymweliad a chael y gorau o fod yng Ngwynedd. Cliciwch ar unrhyw leoliad ar y map am ragor o wybodaeth am bob un o’r safleoedd gwybodaeth.
Gellir cael hyd i’r rhwydwaith ehangach o Ganolfannau Croeso ledled Gwynedd, sydd â staff yn gweithio ynddynt, drwy ddefnyddio cyfleuster canfod y Safleoedd Gwybodaeth ar dudalen y map.
Safle gwybodaeth Darganfod Gwynedd/Discover Gwynedd Info point, Brigands Inn © Ray Wood
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau