Gwynedd: Cyfuniad trawiadol o fynyddoedd, cefn gwlad ac arfordir - mae'r lleoedd llydan agored yma yn llefydd perffaith ar gyfer cynhyrchu bwyd a diod naturiol, ffres a blasus. Mae'r cynhyrchwyr i gyd yn llwyddo i wneud y mwyaf o'r holl sydd gan Wynedd i'w gynnig. Mae gan bawb stori ddiddorol i'w hadrodd.

Mae Gwynedd, fel Cymru gyfan, yn llawn trysorau cudd ac nid yw'r cynhyrchwyr bwyd yn eithriad. Nid yw ansawdd y cig eidion a chig oen yr ardal gyda porfeydd ffrwythlon yn gyfrinach, ac mae agosrwydd at y môr yn rhoi cymeriad unigryw i'r cig a gydnabyddir gan y Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

Mae'r rhanbarth hwn I lawer yn hanfod cynnyrch Cymreig. Mae Cig oen Cymru yn enwog ledled y byd ac ni ddaw'n unrhyw felysach nag o borfeydd uchaf ffres Eryri, i flas mwy cain o'r arfordir, gyda tarddiad cig oen y glastraeth sydd yn cael eu cynhyrchu ar aber y Fawddach, Dwyryd a'r Glaslyn. Mae cig eidion Gwartheg Duon Cymreig a gynhyrchwyd yn arbennig ar lethrau bryniau fel yn ardal Ardudwy, Meirionnydd hefyd yn enwog. Ceir hefyd blas y môr - gellir dewis o wystrys blasus a chregyn gleision y Fenai, cranc a chimwch Aberdaron a phob math o bysgod gan gynnwys mecryll, draenog y môr, eog a sewin. Mae Gwynedd wedi ei amgylchynu gan y môr o Fangor yn y Gogledd draw i Ben Llŷn ac i lawr i Aberdyfi.

Mae gennym ddigon o gyfleoedd i brofi blas naturiol llawer o flodau gwyllt a pherlysiau: llugaeron ar gorsydd Eifionydd, llus ar fynyddoedd Rhiniog a mêl o'r rhostiroedd grug. Mae Penrhyn Llŷn yn haeddiannol yn enwog am ei fwyd môr, gyda bwytai ffurfiol ac anffurfiol tymhorol yn gweini'r gorau o'r ddalfa leol. Ond nid yn unig cynnyrch traddodiadol sy'n rhagori yng Nwynedd; mae cynhyrchwyr o fwydydd mwy prin megis madarch egsotig hefyd yn ffynnu yma, fel mae yr Ardd Fadarch, Nantmor yn tystio. O'r cyfarwydd a thraddodiadol i'r newydd ac amgen, mae ansawdd ac ystod bwyd Gwynedd yn anhygoel.

Gall cogyddion lletygarwch bwyd da. ddewis o ystod eang o gynnyrch lleol sy'n cynnwys cig oen, cig eidion, porc, pysgod, pysgod cregyn, llysiau, cawsiau, jamiau, cyffeithiau, teisennau, siocled, diod a chwrw. Mae cogyddion dawnus sy'n darparu ar gyfer pob chwaeth gan weini popeth o seigiau modern soffistigedig wedi'i goginio mewn arddull ysgafnach i ffefrynnau mwy traddodiadol. Mae siopau, marchnadoedd a cheginau ledled yr ardal wedi ymrwymo i roi gwir flas i'r cwsmer. Mae Peter Jackson, Cogydd prechennog a chadeirydd Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru, sy'n rhedeg Gwesty Maes-y-Neuadd ger Harlech, yn enghraifft flaenllaw. Mae'n newid ei bwydlen yn ddyddiol er mwyn cynnwys y cynnyrch lleol tymhorol sydd ar gael. Cewch flasu ei brydau eich hun ac ymweld â'r nifer o gaffis / bwytai sy'n gweini prydau lleol megis Caban Brynrefail a Pen-y-Pass, Tafarn y Plu Llanystumdwy, Tafarn Yr Eryrod Llanuwchllyn, Bwyty Mawddach Llanelltyd, Taro Deg Pwllheli, Caffi Gwynant Nant Gwynant a'r Daflod Llithfaen.

Ble i Brynu:

Gallwch brynu cynnyrch lleol yn uniongyrchol o rai o'r cynhyrchwyr neu o:

© Prif lun / Main image © Ray Wood Lluniau bach / Small images: Mêl Mawddach; Village Veg © J Euron Jones

Rhesymau i fwyta Bwyd Lleol:

Ymwybyddiaeth o darddiad bwyd: Mae gwybod fod y cynnyrch wedi ei fagu neu dyfu o fewn ychydig filltiroedd yn ychwanegu rhywfaint at y boddhad. Pan fyddwch yn siopa yn y farchnad ffermwr, gallwch ofyn cwestiynau pwysig am sut mae'r bwyd yn cael ei dyfu a sut gafodd ei gludo i'r farchnad.

Bwyta gyda'r tymhorau: Mae prynu a choginio gyda'r tymhorau yn golygu blasu y bwyd pan fydd ar ei orau, gyda mwy o ddaioni. Bwyd tymhorol yn tueddu i fod yn fwy ffres ac felly yn fwy blasus a maethlon. Gall ansawdd bwyd amrywio'n ddramatig hyd yn oed pan mae bwyd yn ei dymor. Mae bwyd a gynhyrchir yn lleol, e.e. prynu o farchnadoedd ffermwyr, yn debygol o fod yn fwy ffres o lawer na'r hyn sy'n cyfateb yn yr archfarchnad. Mae'n anochel bod cig a gynhyrchir gyda pharch tuag at anifeiliaid yn llawer gwell na chig anifeiliaid a ddwys-fagwyd, sy'n debygol o dreulio bywydau o dan amodau gwrthun.

Yr hyn yr ydym am ei gyflawni: Gallwch gael gwybod ble i brynu rhai o gynnyrch lleol Gwynedd gan ddefnyddio'r ddolen cynnyrch lleol ar y dudalen map. Mae'n gymorth i ganfod ystod eang o fwyd a diod lleol led led y sir sydd wedi bod yn rhagweithiol yn hyrwyddo eu cynnyrch ers 2009 drwy Cynllun Datblygu Gwledig y sir . Efallai y cewch eich temtio i brynu cynnyrch a chymryd rhan o Wynedd adref gyda chi. Rhoddir blaenoriaeth hefyd i enillwyr Gwobrau Blas a Dawn Gwynedd. Mae'r gwobrau yn anelu at hyrwyddo'r bobl sydd y tu ôl i'r bwyd, diod, celf a chrefft gorau yng Ngwynedd - o'r ffermwr a'r bragwr at y crochenydd a'r artist.

Flickr