Ychydig o ardaloedd sydd ag arfordir mor urddasol ac amrywiol a Gogledd Cymru. Yn y gaeaf mae heidiau mawr o wyddau ac adar hirgoes yn cyrraedd Traeth Lafan ac aberoedd Afon Dwyryd, Afon Mawddach ac Afon Dyfi. Edrychwch hefyd am nythfa'r creyrod gwynion ger Porth Penrhyn ym mhen dwyreiniol Afon Menai. Nythant yno ochr yn ochr â'r creyrod cyffredin.
Mae dwy ynys fechan ger Aberdaron – Ynysoedd Wylan – yn gartref i'r palod doniol a'u pigau amryliw yn cario llymrïaid yn gwingo i'w cywion a fegir mewn tyllau yn y ddaear. Ychydig tu hwnt i fae Aberdaron, â'i bentref bach hudol, mae'r penrhyn gwych yn ymwthio allan i'r Môr Celtaidd. Dyma ben draw Pen Llyn. Yma yn Uwchmynydd mae Braich y Pwll, trwyn uchel yn edrych ar draws y ddwy filltir o rythr y llanw at Enlli. Ffynnon Fair, ychydig uwch ben pen llanw ar y clogwyn is law, yw un o'r ffynhonnau sanctaidd a berchir fwyaf ym Mhrydain, ac mae'n debygol mai hi yw'r un anoddaf i fynd ati hi. Roedd Enlli ei hun yn fan hollbwysig yn hanes cynnar Cristionogaeth ym Mhrydain. Mae nawr yn gartref i un o'n gwylfeydd adar pwysicaf a mwyaf difyr. Mae yna sawl nythfa o adar drycin Manaw ar yr ynys, a'u udo yn y nos yn sain arallfydol; ac mae'r morloi hwythau'n canu oddi ar y creigiau yng nghorllewin yr ynys. Dyma hefyd un o gadarnleoedd y fran fechan brin a thlws honno, y fran goesgoch. Wedi ei drwytho mewn hanes ac wedi ei daenu â golau ac awyrgylch y gorllewin mae Pen Llyn yn fan y dychwelwch iddo dro ar ôl tro.

Jim Perrin, ysgrifennwr
© Prif Lun / Main image: Porth Dinllaen © Ben Stammers Lluniau bach / Small images: Porth Dinllaen © Geraint Thomas; Trwyn Cilan / Cilan Head © Simon Panton
Un o’r mannau gorau i brofi môr ac arfordir Gwynedd yw Uwchmynydd. Yn sefyll ar y pentir ym mhen draw un Penrhyn Llŷn, rydych yn siwr o deimlo grym y môr yno, yn ogystal ag aruthredd y clogwyni a gwerth y rhostiroedd arfordirol i adar allweddol fel y frân goesgoch a chlochdar y cerrig. Yr hyn sy’n anodd ei weld a’i werthfawrogi’n llawn yw’r cyfoeth o fywyd gwyllt cwbl ryfeddol sy’n byw o dan y môr a’i donnau. Bydd .
I weld y tywydd ar gyfer yr ardal hon yn fanylach, cliciwch ar Ragolygon y Tywydd. Rhagolygon Tywydd
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau