| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Cefn Gwlad Cymru |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Cader Idris a’r ucheldir o amgylch o ddiddordeb am eu daeareg, eu tirffurf a’u bioamrywiaeth. Ceir peiranau, esgeiriau copa, llethrau sgri serth a chlogwyni ar y massif ei hun. I’r de ddwyrain, ceir dyffryn rhewlifol mawr siâp U sy’n cynnwys llyn Tal-y-llyn. Mae ardal Cader Idris a Thal-y-llyn yn eithriadol bwysig ar gyfer tirffurfiau rhewlifol. Maent yn cynnwys nifer o beiranau, yn cynnwys Cwm Cau, sydd wedi’i ddisgrifio fel y gorau ym Mhrydain (mae peiranau a chymoedd yn enwau ar gyfer y ceunentydd tebyg i bowlen o dan gopaon, a ffurfiwyd gan erydiad a achoswyd yn ystod y prosesau ffurfio rhew sy’n bwydo rhewlifau). Heddiw, ceir llynnoedd gyda lefel wael o faethynnau mewn nifer o’r cymoedd hyn, a Llyn Cau yw’r mwyaf.
Mae’r safle’n gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd yr ucheldir, gyda glaswelltir asid yr ehangaf ei ddosbarthiad o bosibl. Ymhlith y cynefinoedd eraill mae corgors, rhostiroedd gwlyb a sych, rhostir o gen / bryoffytau, coetir llydanddail ac amrywiaeth o fathau o laswelltir. Mae’r ardal yn nodweddiadol o ucheldir Cymru am ei bod yn cael ei phori’n gymharol drwm gan ddefaid.
Ceir datblygiad eang ond clytiog o orogors yma, yn llawn Plu’r Gweunydd Unben, gyda Glaswellt y Ceirw, llawer o Wellt y Gweunydd ac ychydig o Rug a Grug Croesddail. Grug Croesddail yw’r prif rywogaeth coediog mewn rhostir gwlyb, gyda Thresgl fel rheol. Nodweddir y rhostir sych gan lawer o Rug, Grug Clochog yn aml, a rhywogaethau coediog eraill fel Llus a Chreiglus, gyda Pheiswellt y Defaid neu Gawn Duon fel rheol, neu weithiau Frigwellt Main hardd. Ceir Eithin Gorllewinol gyda Grug ar y llethrau sychach.
Ar ymylon gogleddol a dwyreiniol Cader Idris ceir coetiroedd gwasgarog gyda gylïau a cheunentydd. Mae’r coetiroedd hyn, gylïau’r nentydd a’r gymysgedd o greigiau sylfaen ac asidig, ynghyd â’r glawiad trwm a’r aer glân, wedi cynhyrchu amodau delfrydol ar gyfer amrywiaeth o blanhigion a rhedyn is. Yn gyffredinol, y prif rywogaeth o goed yw Derw Digoes ond ceir Derw Coesynnog (neu Seisnig) weithiau ac mae’r ddau’n creu hybrid i roi amrywiaeth parhaus bron rhwng y rhieni. Ceir derw gyda llawer o Fedw Cyffredin, Criafol a Chelyn a chlytiau aml o Gyll a Drain Gwynion. Ceir Gwerni’n lleol hefyd yn yr ardaloedd gwlypach o goetir.
Cader Idris yw un o’r mynyddoedd uchel mwyaf deheuol yn y DG ac mae llawer o rywogaethau’r ucheldir yn cyrraedd eu terfyn deheuol yn y DG yma. Mae’r cymoedd trawiadol, y caeau clogfaen a’r llethrau sgri’n gartref i gymunedau bregus a phwysig yn fioddaearegol o lystyfiant, yn y cilfachau ac ar y siliau a’r creigiau.
Mae poblogaeth o’r Ystlum Pedol Lleiaf yn defnyddio mwyngloddiau Cader Idris ar gyfer gaeafgysgu. Mae’r Cyll niferus yn y coed yn cynnig cynefin da ar gyfer poblogaeth o’r Pathew Cyffredin, a lle iddo fagu a chwilio am fwyd. Mae Dyfrgwn, Ysgyfarnogod a Llygod Dŵr yn gwneud defnydd rheolaidd o’r safle. Mae Lamprai’r Nant a’r Afon wedi’u cofnodi yma hefyd. Mae’r afonydd i fyny ac i lawr yr afon o Dal-y-llyn yn safleoedd bwrw sil ar gyfer Eogiaid. Ymhlith adar magu’r ucheldir agored mae Mwyalchen y Mynydd, Tinwen y Garn (dau ymwelydd haf), yr Hebog Tramor, y Gigfran, Corhedydd y Waun a’r Ehedydd. Mae’r coetir a’r ffridd (yr ardal uwch ben terfyn y tir sydd wedi’i wella’n amaethyddol) yn gartref i rywogaethau nodweddiadol fel Telor y Coed, y Gwybedog Brith, y Gwybedog Mannog, y Tingoch a Chorhedydd y Coed (ymwelwyr yn yr haf i gyd). Mae’r infertebrata yng Nghader Idris yn cynnwys nifer o rywogaethau anghyffredin.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau