| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Cefn Gwlad Cymru |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Cader Idris o ddiddordeb arbennig yn fiolegol ac yn ddaearegol ac o ran y nodweddion tir sydd yma. Mae hefyd o bwysigrwydd diwylliannol. Ceir peiranau, esgeiriau copaon, llethrau sgri serth a chlogwyni ar y massif ei hun. I’r de, ceir dyffryn rhewlifol mawr siâp U. Cader Idris yw un o’r mynyddoedd deheuol uchaf yn y DG ac mae llawer o rywogaethau’r ucheldir yn cyrraedd eu terfyn deheuol yn y fan hon, yn cynnwys y Gorhelygen fechan ar esgair y copa. Mae’r ardal yn gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd yr ucheldir, yn cynnwys gorgors, rhostir ucheldirol, coetir llydanddail ac amrywiaeth o laswelltiroedd. Mae rhostir o gor-brysgwydd yn helaeth yma gyda Grug, Llus a Grug Croesddail yn gyffredin. Mae Gwellt y Gweunydd, Peiswellt y Defaid a’r Maeswellt yn gyffredin yn y glaswelltiroedd. Mae Llyn Cau yn nodweddiadol o lyn asid heb lawer o faethynnau ynddo, fel a geir yn ucheldir Prydain a heb gynnwys llawer o rywogaethau, ond mae’r Gwair Merllyn diddorol yn helaeth yma. Mae’r clogwyni a’r sgrîs yn gartrefi i glytiau o Redyn Persli gwyrdd llachar ac ymhlith y mamaliaid sydd i’w gweld yma mae’r Pathew, y Dyfrgi, yr Ysgyfarnog, y Llygoden Ddŵr a’r Ystlum Pedol Lleiaf. Ymhlith adar yr ucheldir sy’n magu yma mae Tinwen y Garn a Mwyalchen y Mynydd (ymwelwyr yn yr haf), yr Hebog Tramor, y Gigfran, yr Ehedydd a Chorhedydd y Waun.
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae’r gyfres yma o gaeau bychain i’w gweld ar lethr gogledd ddwyreiniol Bwlch Mawr. Mae’n un o’r ychydig enghreifftiau sy’n weddill o borfeydd caëedig a reolir mewn ffordd draddodiadol ar Benrhyn Llŷn, caeau sydd heb gael eu gwella’n amaethyddol gan wrtaith artiffisial na’u hailhadu’n ddiweddar. Ymhlith y glaswelltau yma mae Cawn Ymledol, Melynwellt, Rhonwellt y Ci Cribog a Pheiswellt Coch. Ymhlith y planhigion nodedig yma mae Clych y Meirch, Ytbys y Waun, Mantell y Forwyn, y Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf a Thafod y Neidr. Mae’r caeau uchaf o laswelltir niwtral yn ildio’u lle i fign a reolir gan frwyn, yn enwedig y Brwyn Blodeufain. Ceir clustogau mawr o Fwsogl y Gors yma, yn gartref i goesynnau egwan o Lugaeron. Mae Marchrawn y Coed yn eithriadol gyffredin yn y cynefin hwn. Ymhlith yr adar magu mae’r Troellwr Bach ac mae’r glöynnod byw’n cynnwys y Fritheg Berlog Fach a’r Iâr Fach Fodrwyog.
| Sefydliad / Cwmni | Tir mynediad |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Saif Cefn Du islaw Moel Eilio a dyma’r tir uchel cyntaf i’r de o Afon Menai, gan gynnig golygfeydd draw yn ôl am arfordir gogledd orllewin Gwynedd, o Ddinas Dinlle i’r ardal i’r gorllewin o Fangor yn y dwyrain. O’r herwydd, mae ym mhen gogledd orllewinol eithaf y tir mynediad agored sy’n cynnwys Yr Wyddfa ei hun. Mae’r bryn yn llystyfiant rhos sych drosto, Grug yn bennaf ond gyda pheth Llus a glaswelltau, yn arbennig Peiswellt y Defaid. Ceir sawl ardal heb ddraeniad da’n gartref i amrywiaeth ehangach o rywogaethau, yn cynnwys Plu’r Gweunydd, Brwyn Meddal a Bwlbaidd a mwsoglau. Rheolwyd y rhos fel rhos i rugieir ar un adeg ac roedd mast trosglwyddo radio’n arfer bod ar Gefn Du, a ddefnyddiwyd gan Marconi ar gyfer y darllediad cyntaf ar draws Môr yr Iwerydd. Ymhlith yr adar a geir yma mae Corhedydd y Waun, yr Ehedydd, Tinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf) ac mae’r Bwncath a’r Gigfran yn debygol o fod uwch ben. Mae’r gofod parcio ar ochr y ffordd yn gyfyngedig.
| Sefydliad / Cwmni | Llechweddd Slate Caverns |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Blaenau Ffestiniog yn gartref i weithgarwch diwydiannol aruthrol, gan adael treftadaeth helaeth o chwareli a thomenni llechi. Er bod hyn, i rai, yn hagr ac yn ymyrryd â thirlun mynyddig sydd fel arall yn hardd, cyflwynir i fywyd gwyllt gyfleoedd diddorol i’w gwylio. Mae Llechwedd yn cynnig cyfle rhagorol i archwilio’r prosesau coloneiddio’n hamddenol braf. Efallai mai’r defnydd o’r chwareli gan y Frân Goesgoch yw’r nodwedd fwyaf trawiadol. Mae’r adar hyn i’w gweld yn yr ardal yn rheolaidd, gan nythu yn y ceudyllau hyd yn oed. Gosodir camerâu i wylio’r Frân Goesgoch yn ei nyth rhwng canol mis Ebrill a chanol mis Gorffennaf. Ymhlith yr adar eraill yma mae Corhedydd y Waun, y Cudyll, y Gigfran, Bwncath yn nythu a Barcud Coch achlysurol. Mae twf y llystyfiant dros y tomenni llechi’n broses boenus o araf ond gellir ei gweld ar waith ym mhob man, gan ddechrau gyda’r cen a’r mwsoglau ac yna rhywogaethau o goed fel y Bedw Cyffredin. Yn eironig, y Rhododendron hynod ymledol a niweidiol yw un o’r rhywogaethau cyntaf i gyrraedd. Mae ei flodau hardd yn cuddio’i effeithiau niweidiol yn y cynefinoedd mwy naturiol yng Ngogledd Cymru.
| Sefydliad / Cwmni | Tir comin |
|---|
Mae Gwaun Gyfni’n ardal eang iawn o orgors yn bennaf gydag ardaloedd o ros a glaswelltir ucheldirol yn cyfuno i roi cynefin da ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau’r ucheldir. Mae llystyfiant yr orgors yn cynnwys llawer o Fwsoglau Cors a llawer iawn o rywogaethau tebyg i laswellt fel: Plu’r Gweunydd a Phlu’r Gweunydd Unben, gyda’u plu hadau gwyn nodedig; Glaswellt main y Ceirw; Brwyn y Rhos, gyda’r tro nodedig yn ei goesynnau; Llafn y Bladur, sy’n hynod atyniadol; a Chwys yr Haul Crynddail. Mae Brwyn, Gwellt y Gweunydd a’r Tresgl llusg yn tueddu i fodoli mewn ardaloedd lle ceir dŵr yn symud. Ymhlith yr adar yn yr ardal mae’r Ehedydd, Corhedydd y Waun a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf), gyda’r Bwncath a’r Gigfran uwch ben fel rheol. Mae llyffantod yn gyffredin yma hefyd. Diwrnod heulog braf yw’r diwrnod gorau ar gyfer ymweld â’r safle, gan gymryd digon o amser i archwilio.
| Sefydliad / Cwmni | Tir mynediad |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Moel y Ci’n cynnig golygfeydd cyffredinol rhagorol o gopa cymharol fychan, yn ogystal â bod yn gartref i rostir helaeth sy’n lliwgar iawn ddiwedd yr haf. Mae’r bryn wedi cael ei blannu gyda chonwydd yn yr hanner gogleddol, gan gynnig cynefin cwbl wahanol. Yr adar yr ydych yn debygol o’u gweld yma yw’r Titw Penddu a’r Dryw Eurben. Grug yw’r rhostir yn bennaf, gyda pheth Grug Clochog ac Eithin Gorllewinol, mewn mosáig gyda’r glaswelltir asid. Mae ardal wlypach yn gartref i ddarn o orgors i’r de o’r copa. Mae gweddillion carnedd gladdu, o Oes yr Efydd mae’n bur debyg, i’w gweld i’r gogledd ohono. Ar y rhos, mae’r adar yn cynnwys Corhedydd y Waun, y Llinos, Tinwen y Garn a Chlochdar y Cerrig, gyda Bwncath a Chigfran uwch ben fwy na thebyg. Mae’r Madfall Cyffredin a gwiberod yn bresennol yma hefyd.
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
|---|
Mae Mynydd Cilan yn gartref i rostir, glaswelltir morol a chynefinoedd o glogwyni ac yn lleoliad gwylio rhagorol ar gyfer edrych ar y môr, yn codi i 117 metr. Ymhlith y cynefinoedd gerllaw mae porfa barhaol heb ei gwella fawr ddim. Mae’r pentir cyfan yn ddiddorol i’w archwilio, yn rhannol drwy gyfrwng mynediad agored ac yn rhannol ar hyd llwybrau troed cyhoeddus. Mae’r rhostir yn llawn Grug ac Eithin Gorllewinol gyda phocedi bychain o Eithin Cyffredin a Llus a rhyw faint o Rug Croesddail yn y mannau gwlypach. Mae’r rhostir a’i byllau cysylltiedig yn cynnwys planhigion nodedig iawn, fel Camri, y Fioled Welw a Phelenllys. Mae’r clogwyni’n gartref i Hesg Mannog, Llaethlys Portland a Gorfanadl Eiddew. Mae’r ardal yn darparu cynefin magu a gaeafu pwysig ar gyfer y Frân Goesgoch. Mae clogwyni’r môr a’r ogofâu yn safleoedd magu tra bo’r clogwyni, y rhostir, y glaswelltir morol a’r borfa’n darparu safleoedd bwydo drwy gydol y flwyddyn. Ceir coloni o garfilod ar hyd yr ymyl orllewinol, gyda Llursod a Gwylogiaid. Ymhlith yr adar magu nodedig eraill a geir yn yr ardal hon mae’r Fulfran Werdd, y Fulfran, yr Wylan Goesddu, Aderyn Drycin y Graig a Chorhedydd y Graig. Mae’r rhostir a’r tir amaethyddol gerllaw yn gartref i boblogaethau’n magu o Gorhedydd y Waun, Llinos, Clochdar y Cerrig a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf). Mae Dolffiniaid Cyffredin a Dolffiniaid Trwyn Potel i’w gweld yn aml oddi ar y lan (ar eu gorau yn yr haf). Parcio cyfyngedig yn lleol.
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Efallai mai Nant Ffrancon yw’r dyffryn rhewlifol sydd wedi’i wella leiaf ar gyfer amaethyddiaeth yng Ngwynedd ac mae’n werth ei archwilio am fywyd gwyllt o Fethesda i fyny at Lyn Ogwen. Mae’r ffordd fechan ar yr ochr orllewinol yn darparu llwybr cyfleus a diogel. Gellir gweld Bronwen y Dŵr, Pibydd y Dorlan a’r Siglen Lwyd ar yr afon ac, weithiau, yr Hwyaden Ddanheddog. Mae’r coed pinwydd a’r llwyni helyg gerllaw’n cynnig cysgod ar gyfer amrywiaeth da o adar eraill, yn cynnwys y Llinos Bengoch, Telor yr Helyg a’r Troellwr Bach (ymwelwyr yn yr haf ill dau). Ymhellach i fyny’r dyffryn, ar dir mwy agored, mae Clochdar y Cerrig, Corhedydd y Waun a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf) i’w gweld yn aml. Mae llwyni isel, persawrus o Helyg Mair yn ymestyn ar draws rhan helaeth o ran isaf y dyffryn, gan roi gwawr borffor i’r glaswelltir yn y gaeaf. Ceir llwybr natur gerllaw pen draw’r nant, yn cynnig mynediad hwylus i’r afon, ble gwelir Dyfrgwn a Llygod Dŵr yn aml. Mae’r coetir bychan ger Bwthyn Ogwen yn arbennig o dda ar gyfer adar, gyda’r Tingoch a’r Gwybedog Mannog (ymwelwyr yn yr haf ill dau) a’r Pila Gwyrdd.
| Sefydliad / Cwmni | Tir mynediad |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae’r mynydd eiconig hwn gyda’i 3 chopa o ddiddordeb o ran ei blanhigion a’i adar, yn ogystal ag am fod yma ymdeimlad diwylliannol cryf. Mae i fryngaer cynhanes Tre’r Ceiri arwyddocâd arbennig iawn. Mae’r golygfeydd yn ymestyn o Cumbria i Wicklow ac ar draws Bae Ceredigion. Amrywia’r cynefinoedd o draethau creigiog, chwareli, allgreigiau naturiol a sgrîs i rostir eang a chopaon noeth. Mae Grug, Grug Clochog ac Eithin Gorllewinol yn rheoli’r rhostir sychach, tra bo Grug Croesddail, Glaswellt y Ceirw, Gwellt y Gweunydd a Mwsogl y Gors yn rheoli’r ardaloedd gwlypach. Mae Tafod y Gors a Swp-Hesg y Fawnog i’w gweld yn y llaciau gwlyb lle mae’r pridd yn llai asidig. Mae ochr y copa gogleddol sy’n wynebu tua’r môr yn llethr gyli clogwynog i lawr i lefel y môr. Y prif ddiddordeb adaregol yw’r boblogaeth o’r Frân Goesgoch sy’n magu ar wynebau naturiol ac artiffisial y graig ar y rhostiroedd. Ymhlith yr adar eraill a geir yma mae’r Bwncath, Corhedydd y Waun, y Gigfran a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf). Mae praidd o eifr gwyllt yn bresennol yma hefyd.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau