| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Cefn Gwlad Cymru |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae aber Afon Dyfi’n arbennig oherwydd maint, amrywiaeth a safon ei chynefinoedd ac am ei diddordeb botanegol, entomolegol ac adaregol. Er bod llawer iawn o’r diddordeb hwn yn canolbwyntio ar y gors halen eang a’r system o dwyni ar ochr ddeheuol yr aber, ar yr ochr ogleddol mae llawer iawn o’r pethau sy’n werth eu harchwilio, o Bennal draw i Dywyn. O edrych ar yr adar yn unig, mae’r ardaloedd o goetir a phrysgwydd yn dangos yn dda yr amrywiaeth o rywogaethau a geir mewn coetiroedd derw yng Nghymru, gyda’r Tingoch, y Gwybedog Brith, Telor y Coed (ymwelwyr haf i gyd) a Thelor y Cnau i gyd yn amlwg. Yn yr ardaloedd gwlypach ceir rhywogaethau fel y Troellwr Bach a Thelor yr Hesg (ymwelwyr yn yr haf) a Bras y Cyrs, ynghyd â phoblogaeth fechan o Delor y Cyrs (ymwelydd yn yr haf). Mae’r porfeydd gwlyb gerllaw’r aber yn bwysig yn rhanbarthol am eu niferoedd o adar rhydio’n magu, yn arbennig y Gornchwiglen, ond hefyd y Pibydd Coesgoch, y Gylfinir a’r Gïach Gyffredin. Mae Hwyaid Brongoch a Hwyaid yr Eithin yn magu o amgylch yr aber a hefyd mae niferoedd mawr o adar rhydio ac adar gwyllt yn ei defnyddio yn y gaeaf ac wrth fynd heibio, yn cynnwys bron i 5,000 o’r Chwiwell yn gaeafu. Mae’r gofod parcio ar ochr y ffordd yn gyfyngedig.
| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Gwynedd |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae lagŵn llanwol Broadwater a rhan isaf Afon Dysynni’n darparu cynefinoedd arfordirol o ddiddordeb sylweddol, yn cynnwys cors halen, esgair o ro mân, fflatiau llaid, corslwyni, ffosydd a’r afon ei hun. Mae’r gors halen yn llawn Morfrwyn ond mae ynddi nifer o rywogaethau anghyffredin, fel Seleri Gwyllt, y Ganrhi Leiaf a Morfrwyn Main. Ychydig o lystyfiant a geir ar yr esgair o ro mân ond mae’n cynnwys y Pabi Corniog Melyn anghyffredin. Mae gan y ffosydd, y pyllau a’r dyfroedd bâs i gyd gyfoeth o blanhigion gyda stondinau bychain o Gynffon y Gath Fwyaf a Chlwbfrwyn Llwydlas. Ceir clytiau da o Gawn Cyffredin ar ynysoedd yr afon ac ar lan y lagŵn, lle mae adar fel y Cwtiar a Thelor yr Hesg yn magu. Ar y gro mân ceir un o’r ychydig boblogaethau yng Nghymru o’r Forwennol Fach yn magu. Mae’r fflatiau llaid a rhannau hallt y lagŵn yn cefnogi niferoedd da o hwyaid yn gaeafu, yn enwedig yr Hwyaden Wyllt, y Gorhwyaden a’r Chwiwell, gyda niferoedd llai o’r Hwyaden Lostfain, yr Hwyaden Frongoch a’r Hwyaden Gynffon Hir. Ceir yr Wyach Fach yn rheolaidd yma ac mae adar rhydio fel y Gylfinir a Phioden y Môr yn gyffredin yma drwy gydol y flwyddyn. Ceir nythaid anferth o wylanod yma hefyd, yn cynnwys Gwylanod y Penwaig, y Gwylanod Cyffredin a’r Gwylanod Penddu’n bennaf.
| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Gwynedd |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae’n haws cyrraedd Carreg y Defaid o bentref Llanbedrog ar hyd y traeth, wedi edrych ar y pyllau creigiog rhagorol oddi tan Fynydd Tir-y-Cwmwd ac edmygu’r cytiau ar y traeth yn agos at y clogwyn. Mae Carreg y Defaid yn ynys fechan oddi ar y lan gyda phentir cysylltiedig, y ddau wedi’u ffurfio o greigiau folcanig sydd i’w gweld yma ac acw ar hyd y clogwyni llifwaddodol meddalach. Ceir darn o rostir arfordirol gwael ar y pentir a bydd Clochdar y Cerrig a’r Llinos yn ymweld ag o. Rownd y trwyn, ceir clogwyni creigiog isel gyda chen prin arnynt, yn cynnwys y Cen Heuldan Morol sy’n oren llachar a’r Cen Tar Du. Ar y cerrig mawr o amgylch y pentir ac ymhellach i’r dwyrain ceir gorchudd cymharol isel o Gwymon Codog. Y gaeaf yw’r amser gorau i wylio’r môr o bosibl, i chwilio am adar môr ac adar y lan yn gori. Mae haid o’r Cwtiad Aur i’w gweld yn aml ar y caeau cyfagos o lifogydd.
| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Gwynedd |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae’r harbwr ym Mhwllheli’n hudo adar ac yn werth ymweld ag o. Mae yma fynediad hwylus ac mae’r adar yn rhesymol agos ac yn hawdd i’w gweld gyda sbienddrych. Mae pwll y cob i’r gorllewin o fynedfa’r harbwr a’r marina’n arbennig o ddiddorol. Mae’r gwastadedd lleidiog yn gysgodol a gall gynnig golygfeydd rhagorol o adar rhydio fel Pioden y Môr, y Pibydd Coesgoch, y Pibydd Coeswerdd, y Rhostog Gynffonfrith, y Cwtiad Bach a Phibydd y Mawn. Mae’r pwll yn rhan o Warchodfa Natur Leol, sydd hefyd yn cynnwys dolydd o flodau gwyllt a chorslwyni. Mae’r cyrs yn cynnig cysgod i Regen gyfrinachol y Dŵr ac yn denu Telor yr Hesg a Bras y Cyrs. Mae llwybr pren yn cynnig mynediad da i rannau gwlypach pwll y cob ger y mewnlif o Afon Rhyd-hir. Mae Glas y Dorlan a’r Siglen Lwyd i’w gweld yn aml ar yr afon. Gall gwylio’r môr o Bwllheli fod yn gynhyrchiol hefyd.
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
|---|
Mae Mynydd Mawr yn cynnig cyfleoedd rhagorol i weld bywyd gwyllt o leoliad amlwg ac ardal gwbl hygyrch. Mae hefyd yn gartref i gynefinoedd helaeth o rostir a glaswelltir arfordirol, yn cynnwys llethrau clogwyni môr. Mae’r rhostir arfordirol yn dangos lliwiau gwych ddiwedd yr haf, o Rug Clochog i Eithin Gorllewinol. Mae hefyd yn safle ar gyfer rhywogaethau prin, yn cynnwys y Cor-Rosyn Rhuddfannog a dau gen arbennig. Ymhlith yr adar yr ydych yn debygol o’u gweld yn agos mae’r Frân Goesgoch, yr Hebog Tramor, Clochdar y Cerrig, Corhedydd y Waun a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf). Mae’r traeth creigiog yn cynnig enghreifftiau da o gymunedau sydd wedi’u hysgubo i mewn gan y llanw, parthau llanwol a phyllau creigiog. Mae Mynydd Mawr hefyd yn darparu safle gwylio rhagorol ar gyfer gwylio symudiadau’r adar môr oddi ar y lan (ar eu gorau yn y gaeaf), adar yn mudo a dolffiniaid. Ymhlith yr adar môr mae Huganod, Adar Drycin Manaw, Gwylogiaid, Llursod a Phalod. Gwelir Dolffiniaid Trwyn Potel yma’n rheolaidd (ar eu gorau yn yr haf) a Dolffiniaid Risso weithiau. Mae Llamhidyddion yr Harbwr yn ymwelwyr rheolaidd ond yn anodd i’w gweld yn y dŵr, sy’n arw yn aml.
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
|---|
Mae’r safle arfordirol hwn o ddiddordeb am ei ddaeareg, ei lystyfiant arfordirol ac fel lleoliad i wylio’r môr. Mae clogwyni môr noeth rhagorol yn datgelu manylion y prosesau a fu wrth i’r graig hon oeri pan gafodd ei ffurfio gyntaf o weithredoedd folcanig. Mae’r rhostir arfordirol yn rhoi lliw da ddiwedd yr haf. Ymhlith yr adar yn canu a geir yma mae Clochdar y Cerrig, Corhedydd y Waun a’r Ehedydd. Efallai mai’r Frân Goesgoch sydd o ddiddordeb pennaf ar y lan; mae’n nythu ar glogwyni’r môr ac yn bwydo ar y rhostir a’r glaswelltir. Yr adar môr yr ydych yn debygol o’u gweld yn agos yma yw Adar Drycin y Graig. Ceir tri rhywogaeth anghyffredin o blanhigion ar glogwyni’r môr yma, sef Sampier y Geifr, Gorfanadl Eiddew a Phig y Crëyr Arfor. Oddi ar y lan, mae Mynydd Penarfynydd yn cynnig cyfleoedd i wylio symudiadau adar y môr, yn cynnwys Adar Drycin Manaw a Huganod a mamaliaid y môr (sydd ar eu gorau yn yr haf), yn cynnwys y Dolffin Cyffredin, y Dolffin Trwyn Potel ac, mewn dŵr tawel, Llamhidydd yr Harbwr. Sylwer bod y gofod parcio gerllaw’n brin iawn a gallwch greu rhwystr.
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Porth Dinllaen ei hun yn fae bychan atyniadol a phoblogaidd iawn gyda chyfleusterau da i ymwelwyr. Mae hefyd yn ganolbwynt y diddordeb ar hyd y rhimyn o arfordir sy’n ymestyn tua’r dwyrain o Borth Wen. Mae arfordir Trwyn Porth Dinllaen yn greigiog gyda chymunedau yn y cilfachau, yn cynnwys Sampier y Graig a Throellig y Clogwyn, a hefyd llystyfiant o laswellt morol, yn cynnwys Peiswellt Coch, Clustog Fair a Seren y Gwanwyn. Mae’r clogwyni meddal ym Mhorth Dinllaen yn eithaf ansefydlog. Maent yn gartref i fosáig o laswelltir morol, twyni tywod a chymunedau o brysgwydd, yn dibynnu ar y cyfraddau erydu. Ceir poblogaeth o Wenoliaid y Glennydd ar y clogwyni. Mae gan yr ardal hon gynefinoedd rhynglanwol amrywiol tu hwnt. Mae’r pyllau creigiog ym Mhorth Wen yn rhyfeddol i’w harchwilio. Mae enghreifftiau clir o barthu rhynglanwol i’w gweld yn Nhrwyn Porth Dinllaen. Mae gwlâu o Wellt y Gamlas, planhigyn morol sy’n blodeuo, yn bresennol ar ochr orllewinol Porth Dinllaen. Mewn rhannau eraill o’r bae, ceir poblogaethau amrywiol a lluosog o wymon yn gysylltiedig â’r riff, y creigiau a’r traeth tywodlyd. Mae boddhad i’w gael o wylio adar o Drwyn Porth Dinllaen (ar eu gorau yn y gaeaf) a hefyd gwylio morloi o’r lleoliadau amrywiol yn lleol (ar eu gorau yn yr haf).
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
|---|
Mae’r safle hwn mewn gwirionedd yn ddarn bychan o lwybr troed arfordirol sy’n cynnwys eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorth Gwylan. Yn ogystal â’r traeth yn Nhraeth Penllech ac atyniad golygfaol yr arfordir creigiog, mae’r diddordeb ynddo’n deillio o’r ardaloedd o rostir arfordirol ac o gyfleoedd rhagorol i wylio’r môr – mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer troi eich traed a gwylio’r awyr a’r môr. Mae’r ardaloedd o ros yn cynnig lliwiau da ddiwedd yr haf ac yn denu llawer o bryfed. Ymhlith yr adar yr ydych yn debygol o’u gweld yma mae’r Frân Goesgoch, Aderyn Drycin y Graig a Chorhedydd y Graig. Oddi ar y lan, gallant gynnwys Huganod, Adar Drycin Manaw, Mulfrain a Gwylogiaid. Mae’r clogwyni’n cynnig golygfeydd da’n aml o Lamhidyddion yr Harbwr (mewn dŵr tawel), Dolffiniaid Cyffredin, Dolffiniaid Trwyn Potel ac, yn llai aml, Dolffiniaid Risso (ar eu gorau i gyd yn yr haf).
| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Gwynedd |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae hon yn ardal gyda chyfoeth o fywyd gwyllt ac mae’n hawdd ei chyrraedd o Gricieth. Mae’n ymestyn tua’r dwyrain i Forfa Bychan ac mae twyni tywod, gwlybdiroedd a safleoedd morol diddorol i’w cael yma. Gellir gweld y parthau morol yn y cymunedau o fflatiau tywod (Traeth y Graig Ddu) ac ar y traethau creigiog (Craig Ddu). Mae parthu hefyd yn nodwedd o’r twyni tywod tua Morfa Bychan. Gerllaw’r traeth, mae twyni arloesol yn datblygu ar linell y traeth, yn gartref i Ferfaen y Twyni a Hel-lys Ysbigog. Yn nes at y tir oddi wrth y rhain, mae’r twyni’n sefydlogi, diolch i’r Moresg yn bennaf. Ymhellach i mewn eto, mae twyni sefydlog yn gartref i’r Rhosyn Bwrned, Hesg y Tywod a Thag yr Aradr. Mae Gwellt y Gamlas Culddail, planhigyn prin iawn, i’w ganfod pan fo lefel y dŵr yn eithriadol isel, rhwng Cricieth a Graig Ddu. Mae’r mathau amrywiol o Wellt y Gamlas yn bwysig fel cynefin ac fel bwyd i amrywiaeth eang o rywogaethau. Mae’r pyllau creigiog a’r riff crwybr yn rhyfeddol i’w harchwilio. Ceir cyfleoedd da i wylio’r môr yma drwy gydol y flwyddyn, yn arbennig ar gyfer Môr-Hwyaid Duon a deifwyr yn y gaeaf. Gellir cyrraedd gwlybdir Llyn Ystumllyn ar hyd llwybr troed o’r traeth. Mae’n gartref i lystyfiant eang o gawn a brwyn ac felly adar fel Telor yr Hesg a Thelor y Cyrs (ymwelwyr yn yr haf) a Bras y Cyrs.
| Sefydliad / Cwmni | Cyngor Gwynedd |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae’r Foryd yn Warchodfa Natur Leol i’r de orllewin o Gaernarfon. Mae’n cynnig tua 300 hectar o gynefinoedd o laid rhynglanwol, tywod, gro mân a chorsydd halen i amrywiaeth eang iawn o adar yn gaeafu. Mae’r darn mwyaf canolig yn llawn Cordwellt y Môr, sy’n cynnig cysgod da ar gyfer adar gwyllt a rhydwyr. Fodd bynnag, mae’r Alarch Dof, Crëyr y Gwartheg a Hwyaden yr Eithin yn amlwg yn gyffredinol. Mae heidiau o’r Chwiwell yn nodwedd arbennig yn ystod y gaeaf, gyda’r Hwyaden Llygad Aur a’r Hwyaden Frongoch fel rheol. Ymhlith yr adar rhydio rheolaidd i’w gweld yma mae’r Pibydd Coeswerdd a’r Rhostog Gynffonfrith (ymwelwyr yn y gaeaf), y Cwtiad Torgoch, Cwtiad y Traeth, y Pibydd Coesgoch a’r Gylfinir (drwy gydol y flwyddyn). Mae gan y gors halen ar yr ochr orllewinol arddangosfa dda o Serenllys y Môr yn blodeuo tua diwedd yr haf. Ceir cuddfan gyhoeddus ar y traethlin dwyreiniol ond mae angen gwneud trefniadau ar gyfer cael gafael ar yr allwedd.
| Sefydliad / Cwmni | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae’r ardal i gyd y gellir ei chyrraedd o’r maes parcio o ddiddordeb amgylcheddol mawr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhagorol i wylio adar ac mae’n borth i lwybr cerdded hynod ddiddorol ar hyd yr arfordir yn cynnig golygfeydd da ar draws wastadeddau rhyng-lanwol helaeth Traeth Lafan. Mae hefyd yn cysylltu gwarchodfa Spinnies gerllaw â’r gwarchodfeydd natur eraill i gyfeiriad Llanfairfechan. Mae’r cuddfannau yn Spinnies ei hun yn cynnig golygfeydd rhagorol ar draws aber Ogwen, lle mae’r Hwyaden Frongoch a’r Hwyaden Lygad Aur yn ymwelwyr gaeaf rheolaidd, a thros lagŵn cysgodol, hallt, lle mae’r Gorhwyaden, y Pibydd Coeswerdd, y Crëyr Bach a Glas y Dorlan yn ymwelwyr cyson. Gellir gweld Rhegen y Dŵr yma hefyd. Mae mwy na 185 o rywogaethau o adar wedi cael eu cofnodi yn y warchodfa neu o’i hamgylch. Mae’r cynefinoedd amrywiol o goetir, gwlybdir, arfordir a thir amaethyddol yn yr ardal yn union o amgylch yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, yn cynnwys tua 45 o rywogaethau o adar yn magu.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau