Lleoliad Arbennig Coedwigoedd ac Afonydd

Coed Ganllwyd

Sefydliad / CwmniCyngor Cefn Gwlad Cymru
GwefanCliciwch Yma

Mae Coed Ganllwyd yn ardal o dderw yn yr ucheldir ar yr Afon Gamlan. Mae strwythur y coetir yn amrywio rhwng coetir trwchus heb ei bori gyda chanopi wedi’i gau i borfa goediog agored sy’n cael ei phori ymhellach i mewn yn Stad Dolmelynllyn. Derw Digoes yw’r canopi’n bennaf, gyda rhyw faint o Fedw Cyffredin ac ychydig o Ynn a Gwerni. Mae Suran y Coed a Chlychau’r Gog i’w gweld yng nghanol y perlysiau sydd ar y ddaear. Fodd bynnag, y prif ddiddordeb botanegol yng Nghoed Ganllwyd yw’r mwsoglau a’r llysiau’r afu niferus, amrywiol a moethus sydd i’w cael yno. Mae’r rhain yn ffynnu yn yr amodau clos cyson sydd i’w cael dan ganopi caëedig y coetir mewn ardaloedd o hinsawdd fwyn gyda glawiad uchel, yn arbennig o amgylch ac yng ngheunentydd yr afonydd. Mae’r Rhaeadr Ddu atyniadol, yn arbennig, yn helpu i gynnal y closrwydd uchel. Mae’r rhestr o rywogaethau’n faith ac yn cynnwys sawl un prin. Ymhlith adar y gwanwyn a’r haf a geir yma mae’r Tingoch, Telor y Coed, Corhedydd y Coed, y Gnocell Fraith Fwyaf, y Gwybedog Brith a’r Gwybedog Mannog. Mae glöyn byw y Brwmstan i’w weld yn lleol, yn cadw’n agos at y planhigyn y mae’n bwydo arno, sef y Breuwydd.

Tingoch / Redstart Clychau'r Gog / Bluebell Cnocell Fraith Fwyaf / Great Spotted Woodpecker

Manylion Ewch i'r map

Coedydd Aber

Sefydliad / CwmniCyngor Cefn Gwlad Cymru
GwefanCliciwch Yma

Coedydd Aber yw’r enghraifft orau o goedwig dderw orllewinol ar hyd arfordir Gogledd Gwynedd. Mae’n dangos newid graddol o fod yn ganopi coed trwchus ar lefel y môr i gynnwys Drain Gwynion ar wasgar ac yna glaswelltir asid agored uwch ben. Ar lawr y dyffryn, mae coed Gwerni ac Ynn i’w gweld yn y mannau glwypaf, gyda Derw Digoes ar y llethrau creigiog sychach. Ceir tyfiant cyfoethog o gen yma, yn enwedig ar y coed derw. Mwsoglau’n bennaf yw’r planhigion ar y llawr, a glaswelltau gyda dail main, ond ceir pocedi o bridd cyfoethog ei sylfaen sy’n gartref i berlysiau fel Craf y Geifr, Bresych y Cŵn a Mwsglys. Ceir cynrychiolaeth dda o bob grŵp fertebrata yma, yn cynnwys Moch Daear a Dyfrgwn. Mae nifer o rywogaethau o adar yn magu yn y coetir, yn cynnwys y Tingoch, Telor y Cnau a Thelor y Coed. Mae’r Gwybedog Brith o ddiddordeb arbennig iawn. Gellir gweld yr Ehedydd, Clochdar y Cerrig, Corhedydd y Waun a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf) ar y borfa uwch ben y coetir. Mae’r rhaeadrau’n atyniad arbennig iawn ac, yn yr afon, ceir Brithyll a Llysywod, gyda niferoedd bychain o Sewin ac Eogiaid. Mae cyfoeth o infertebrata yn y coetir, yn enwedig gwyfynnod.

Telor y Cnau / Nuthatch  Ehedydd / Skylark / Bwncath / Buzzard

Manylion Ewch i'r map

Coetir Abercorris

Sefydliad / CwmniYmddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
GwefanCliciwch Yma

Ceir mynediad o gilfan ar yr A487, 350 metr o Ganolfan Grefftau Corris. Un o’r ychydig ardaloedd o goetir llydanddail sydd ar ôl yng Nyffryn Corris. Derw Digoes ac Ynn a geir yn bennaf yn y canopi o goed, gydag isdyfiant o Gelyn a Chyll. Mae’r llethrau coediog serth, y glawiad uchel ac Afon Deri ar waelod y dyffryn i gyd yn helpu i ddal aer llaith sy’n galluogi i fwsoglau a rhedyn ffynnu. Yn y mannau sychach yn y warchodfa, lle mae Fioled y Cŵn yn tyfu o dan y Rhedyn, mae’r microhinsawdd yn ddelfrydol ar gyfer siani flewog y Fritheg Berlog Fach. Ymhlith yr adar sy’n magu a geir yma mae’r Tingoch, Telor y Coed, Telor y Cnau, y Dringwr Bach, y Gwybedog Mannog a’r Titw Cynffon Hir. Mae’r Siglen Lwyd a’r Trochydd yn dod i’r afon yn aml, ac felly hefyd Ddyfrgwn, Brithyll, Sewin ac Eogiaid. Er bod y warchodfa ei hun yn gymharol fach, mae gan yr ardal o amgylch lawer o bethau eraill i’w cynnig.

Tingoch / Redstart Dyfrgi / Otter Delor y Cnau / Nuthatch

Manylion Ewch i'r map

Cors y Sarnau

Sefydliad / CwmniYmddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
GwefanCliciwch Yma

Mae Cors y Sarnau’n wlybdir dirgel yn gorwedd ar hyd dyffryn cul. Os ydych mewn car, parciwch yn y pentref, gan osgoi’r ysgol, a chroeswch y ffordd. Mae’r fynedfa 30m i’r gogledd. Cerddwch at y bont droed ac yna trowch i’r dde i’r warchodfa natur, gan gadw at y llwybrau troed bob amser. Mae Cors y Sarnau’n gors yng nghanol y dyffryn, cynefin sy’n brin erbyn hyn ar dir isel Prydain. Fe’i ffurfiwyd wedi i fawn gael ei adael yma dros gyfnod o ganrifoedd, gan raddol lenwi llyn, a ffurfiwyd yn sgil gweithredu rhewlifol. Mae Mwsoglau’r Gors yn gorchuddio darn helaeth o’r basn sydd wedi’i lenwi. Mae eu gweddillion marw’n cronni at ei gilydd i ffurfio mawn. Ceir coetir gwlyb, Gwerni a Helyg yn bennaf, gerllaw’r gors ac mae’n llawn ffwng. Mae mwy na 30 o rywogaethau o adar wedi’u cofnodi yma. Ymhlith yr ymwelwyr rheolaidd mae Corhedydd y Coed a’r Waun, y Dryw Eurben, y Llinos Bengoch, y Troellwr Bach a Thelor yr Hesg (ymwelwyr yn yr haf). Ymhlith y planhigion nodedig a geir yma mae: Llugaeron, Chwys yr Haul Crynddail sy’n dal gwybed a Llafn y Bladur, planhigyn gyda lliwiau cwbl ryfeddol.

Chwys yr Haul / Sundew Llinos Bengoch / Redpoll Cors y Sarnau

Manylion Ewch i'r map

cwm Porth Meudwy

Sefydliad / CwmniYmddiriedolaeth Genedlaethol

Cwm bychan yn cynnig cysgod prin, i’w groesawu, ar hyd yr arfordir hynod agored fel arall. Mae’r prysgwydd a’r glaswelltir ar hyd y darn uchaf yn atyniadol i amrywiaeth eang o adar sy’n ceisio cysgod rhag y tywydd drwg ac yn cynnig lle da i chwilio am fudwyr ar y tir. Ymhlith y rhai rheolaidd mae Corhedydd y Waun, Corhedydd y Graig, yr Ehedydd a Chlochdar y Cerrig. Mae hefyd yn un o’r mannau gorau’n lleol i weld glöynnod byw, yn cynnwys y Brith Gwyrdd, sy’n tueddu i ffafrio cynefin cysgodol yn wynebu tua’r de. Mae’r glaswelltir ar hyd y prif lwybr i’r bae bychan yn gatref i nifer o Bryfed Tân, sydd i’w gweld orau yn y gwyll yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf (peidiwch â tharfu arnynt os gwelwch yn dda). Mae’r pridd yn gymharol gyfoethog mewn calchfaen mewn mannau ac felly’n gartref i blanhigion sy’n hoff o galch, fel Pig yr Aran Ruddgoch, planhigyn rhwysgfawr tu hwnt. Arferai Porth Meudwy fod yn safle ble gallai ymwelwyr niferus ddal cwch i deithio i Enlli ond mae’n dal yn fae bychan prysur ar gyfer pysgota cimwch. Mae’r ardal yn cynnig golygfeydd da o ynysoedd Gwylan.

Clochdar y Cerrig / Stonechat Ehedydd / Skylark Gwybedog Mannog / Flycatcher

Manylion Ewch i'r map

Gwarchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur Gwaith Powdwr

Sefydliad / CwmniYmddiriedolaeth Natur Gogledd Natur
GwefanCliciwch Yma

Mae’r Gwaith Powdwr, hen safle gwaith ffwydron Cooke’s/ICI, yn enghraifft ragorol o’r modd y mae bywyd gwyllt yn gallu ffynnu mewn safle wedi i ddiwydiant ei reoli.    Mae amrywiaeth eang o gynefinoedd, o goetiroedd derw a helyg gwlyb i rostir a dŵr agored, yn gartref i adar cyffredin ac arbenigwr y coetir, fel telor yr helyg, corhedydd y coed, telor ar ardd, y llinos bengoch fechan a, thros y rhostir, y troellwr mawr yn ymweld.     Mae’r pwll trochi’r cynnwys llyffantod, brogaod a medfyll. Gwelir gweision y neidr a mursennod yn gwau eu ffordd rhwng marchrawn.   Mae nifer o famaliaid, yn cynnwys saith rhywogaeth o ystlumod, i’w canfod yn y warchodfa. Mae moch daear a llwynogod yn ymweld yn aml.    Yn hafan i fywyd gwyllt ac yn safle hanesyddol pwysig gyda hen adeiladau niferus, mae’r golygfeydd o’r safle uchaf yn ny warchodfa’n ffantastig. Gallwch weld Aber Afon Dwyryd, Portmeirion a’r Wyddfa.

Tingoch/Redstart Cigfran/Raven Gwybedog Mannog/Flycatcher

Ewch i'r map

Llwybr Clywedog

Sefydliad / CwmniCyngor Cefn Gwlad Cymru
GwefanCliciwch Yma

Saif Torrent Walk oddi mewn i goetir Coed Maes yr Helmau. Mae’n un o’r teithiau cerdded mwyaf poblogaidd yn ne Gwynedd, wedi’i chynllunio ar gyfer y perchennog gwreiddiol fel estyniad ar ei ardd. Mae ceunant cul a serth yn arwain Afon Clywedog i gyfres o byllau a rhaeadrau, gan greu amodau cyson glos. Mae’r rhain yn gartref i amrywiaeth hynod gyfoethog o redynnau, mwsoglau, llysiau’r afu, cen a ffwng sydd, gyda’i gilydd, yn rhoi cymeriad arbennig i’r coetir yma o Dderw Digoes. Ymhlith y coed eraill a geir yma mae Bedw Cyffredin, Gwerni a Chriafol tra bo’r isdyfiant yn cynnwys Celyn a Chyll prin yn bennaf. Ceir Brigwellt Main, un o laswelltau brodorol mwyaf atyniadol Prydain pan yn ei flodau, yn y safle i gyd, a hefyd Maeswellt Cyffredin a Melynwellt. Ymhlith y rhedyn o ddiddordeb sydd yma mae’r Rhedyn Ffawydd, y Rhedyn Derw a dau rywogaeth o redynach main sydd ond yn goroesi mewn amodau hynod glos oherwydd y dail main iawn sydd ganddynt. Ymhlith yr adar sydd i’w gweld yma mae’r Tingoch, y Gwybedog Brith, Telor y Coed a’r Penddu (ymwelwyr yn yr haf i gyd), Telor y Cnau a’r Gnocell Fraith Fwyaf.

Tingoch / Redstart Gnocell Fraith Fwyaf / Great Spotted Woodpecker  Delor y Cnau / Nuthatch

Manylion Ewch i'r map

Llyn Mair / Coedydd Maentwrog

Sefydliad / CwmniCyngor Cefn Gwlad Cymru
GwefanCliciwch Yma

Mae Llyn Mair yn llyn hardd wedi’i amgylchynu gan goetir cymysg sy’n ffurfio rhan o goedwig dderw orllewinol helaeth iawn ar hyd nifer o’r llethrau sy’n wynebu tua’r de ym Mro Ffestiniog. Mae’r ffordd yn rhedeg ar hyd ei hochr a cheir safle picnic gerllaw. Mae gorsaf reilffordd Tan-y-Bwlch ymhellach i fyny’r bryn; mae mynd ar drên drwy’r coetir yn rhoi argraff ragorol o’r cynefin a golygfeydd gwych. Mae sawl rhywogaeth o hwyaid yn ymweld ag ardal y llyn yn rheolaidd, yn ogystal â’r Crëyr, y Siglen Felen a’r Siglen Fraith, mursennod a gweision y neidr. Mae lili’r dŵr yn creu sioe ragorol yn ystod yr haf. Mae llwybr natur Coed Llyn Mair gerllaw’n troelli i fyny drwy goetir gyfagos Maentwrog. Mae’r Derw Digoes yn tyfu ar dir creigiog serth ar y pridd teneuaf. Mae ceunant dwfn yn rhedeg drwy’r coed ac mae’r amodau cyson glos yno’n gartref i amrywiaeth eang iawn o fwsoglau, llysiau’r afu, cen a rhedyn. Ymhellach oddi wrth y ceunant, glaswelltau sydd amlycaf ymhlith planhigion y tir, cawn a pheiswellt yn bennaf. Ymhlith yr adar nodedig yn magu yn y coetir mae’r Tingoch, Telor y Coed, Telor y Cnau a’r Gwybedog Brith.

Tingoch / Redstart  Telor y Cnau / Nuthatch Llusen / Bilberry

Manylion Ewch i'r map

Llyn Tegid

Sefydliad / CwmniCanolfan Gwybodaeth Twristiaeth Bala
GwefanCliciwch Yma

Yn 6.4 km o hyd a 1.5km o led, Llyn y Bala yw’r corff naturiol mwyaf o ddŵr yng Nghymru. Mae’n llyn rhewlifol dwfn iawn ar lwybr Afon Ddyfrdwy, gyda thref y Bala yn ei ben gogleddol. Mae ei draethlin yn hawdd ei gyrraedd gyda char ac mae rheilffordd gul boblogaidd yn rhedeg ar hyd ei ymyl deheuol. Mae dŵr y llyn yn glir iawn ac yn gartref i boblogaethau da o bysgod, fel Draenogiaid, Penhwyaid, Rhugellod, Brithyll a Llysywod. Mae hefyd yn gynefin unigryw i’r Gwyniad, pysgodyn gwyn sy’n perthyn i’r Pennog. Y planhigion arbennig a geir yma yw Llyriad y Dŵr, sy’n brin iawn. Mae mwy na 120 o rywogaethau o adar wedi’u cofnodi yma, yn cynnwys Alarch Bewick, y Trochwr Gyddfddu a’r Pibydd Gwyrdd. Y rhai yr ydych fwyaf tebygol o’u gweld yw’r Fulfran, yr Wyach Fawr Gopog a’r Wyach Fach Gopog, y Cwtiar a’r Crëyr, a sawl rhywogaeth o hwyaden.

Fulfran / Cormorant Wyach Fach Gopog / Little Grebe Llyn Tegid / Bala Lake

Manylion Ewch i'r map

Parc Dudley

Sefydliad / CwmniCyngor Gwynedd
GwefanCliciwch Yma

Mae Parc Dudley yn Warchodfa Natur Leol ar lethrau isaf Moel Smytho ac mae’n safle cyffredinol dda ar gyfer bywyd gwyllt. Ceir yma safle picnic a llwybrau cerdded ar ffurf cylch, un byr ac un hir, gyda’r olaf yn arbennig o ddiddorol, ond gall fod yn serth ac yn llithrig mewn mannau. Mae llwyni a glaswelltir asid yn y pen isaf yn ildio’u lle’n fuan iawn i’r coetir i fyny’r llethr, gan ddangos llawer o gymeriad coed derw ucheldir y gorllewin, yn cynnwys cyfoeth o blanhigion mwsoglaidd ar y ddaear a nifer o goed Derw Digoes unigol rhagorol. Mae nifer o adar cyfarwydd y coetir a’r ardd yn defnyddio’r parc ac ymhlith y rhai arbennig o nodedig mae’r Tingoch a’r Gwybedog Brith (ymwelwyr yn yr haf ill dau). Gellir clywed y Gnocell Werdd yn yr ardal hefyd. Ymhlith yr infertebra diddorol yma mae glöynnod byw fel y Porthor, Brith y Coed, Llwyd y Ddôl a’r Iâr Fach Amryliw.

Fach Amryliw / Small Tortoiseshell Llwyd y Ddôl / Meadow Brown Cnocell Fraith Fwyaf / Great-spotted Woodpecker

Manylion Ewch i'r map

Parc Glynllifon

Sefydliad / CwmniCyngor Gwynedd
GwefanCliciwch Yma

Mae stad hanesyddol Glynllifon bellach yn Barc Gwledig yn cynnig amrywiaeth eang o atyniadau a gweithgareddau, yn cynnwys y plasdy a’r adeiladau allanol, y gerddi a’r tiroedd coediog. Mae’r cofnodion am reoli coedwig y stad yn arbennig o ddiddorol. Ymhlith y bywyd gwyllt diddorol a geir yno mae poblogaeth o’r Ystlum Pedol Lleiaf, sydd â safleoedd nythu yn yr haf a gaeafgysgu yno, yn y tŷ a’r gerddi. Ceir hefyd gysylltiadau â safleoedd eraill ar gyfer y rhywogaeth hwn yn yr ardal. Ymhlith y rhywogaethau eraill o ystlumod sydd wedi’u cofnodi yma mae: yr Ystlum Wisgerog, yr Ystlum Clonclyd, Ystlum Daubenton, y Cor-Ystlum Cyffredin, yr Ystlum Eurfrown Mawr a’r Ystlum Clustiog Brown. Mae’r tiroedd coediog eang yn bwysig er mwyn i’r ystlumod allu chwilio am fwyd a gellir eu gweld yn dilyn llinellau hedfan nodedig wrth iddi dywyllu yn yr haf. Ceir Dyfrgwn a Llygod Dŵr yn Afon Llyfni hefyd.

Dyfrgi / Otter Llygod y Dŵr / Water Vole Ystlum Lleiaf / Pipistrelle Bat

Manylion Ewch i'r map

Parc Gwledig Padarn

Sefydliad / CwmniCyngor Gwynedd
GwefanCliciwch Yma

Mae’r parc yn gorchuddio’r rhan helaethaf o Lyn Padarn a llawer iawn o’r coetir ar y lan ogleddol. Mae’n hawdd ei gyrraedd ac yn cynnwys amrywiaeth eang o atyniadau. Mae’r llyn ei hun yn lle rhagorol ar gyfer gweld yr Hwyaden Ddanheddog tua’r pen gogleddol, a Mulfrain, Cwtieir a niferoedd bychain o hwyaid, yn cynnwys yr Hwyaden Gopog a’r Hwyaden Bengoch. Yma ceir un o ddim ond ychydig iawn o boblogaethau o’r Torgoch yng Nghymru, rhywogaeth cysylltiedig â’r rhewlifau ac yn perthyn i’r brithyll a’r eogiaid. Dim ond mewn llynnoedd dyfn ac oer iawn mae’n gallu byw. Derw Digoes a geir yn bennaf yn y coetir, yn codi i fyny’n ddramatig uwch ben y llyn. Ceir coed Criafol, Celyn a Chyll yn yr isdyfiant, ac ambell ardal o Fedw Cyffredin. Nid yw’r coetir yn cael ei bori ac felly mae ganddo haen wedi datblygu’n dda o gae, yn cynnwys Grug Clochog, Llus a Choedfrwyn Mawr. Mae’r adar yn nodweddiadol o goed derw yn yr ucheldir ac yn cynnwys y Tingoch, y Gwybedog Brith (ymwelydd yn yr haf) a Thelor y Cnau.

Hwyaden Ddanheddog - Ceiliog / Goosander - Male Hwyaden Ddanheddog - Iar / Goosander - Female Cigfran / Raven

Manylion Ewch i'r map

Parc y Borth & Pen y Banc

Sefydliad / CwmniCyngor Gwynedd
GwefanCliciwch Yma

Mae’r ddwy Warchodfa Natur Leol yma’n agos iawn at bentref poblogaidd Borth y Gest. Mae Parc y Borth yn goetir ar ochr y bryn gyda dolydd bychain o flodau gwyllt yn edrych draw dros yr aber tra bo Pen y Banc yn gymysgedd o goetir a chynefinoedd arfordirol yn ymestyn ar hyd y traethlin ac yn cynnwys cilfachau cysgodol sy’n ffurfio ffocws y pentref. Mae coetir Parc y Borth yn dderw wedi’u plannu’n bennaf, gyda chonwydd tua’r brig. Mae’r adar yn cynnwys y Gwybedog Brith (ymwelydd yn yr haf) a’r Gnocell Fraith Fwyaf. Mae’r dolydd cyfagos yn cynnwys amrywiaeth da o flodau gwyllt. Mae Pen y Banc yn cynnig lleoliad gwylio da ar gyfer gwylio adar dros yr aber. Ymhlith y rhywogaethau mae: y Forwennol Bigddu, y Gylfinir, y Pibydd Coesgoch, Pioden y Môr, Hwyaden yr Eithin a’r Crëyr Bach, gydag ambell Grëyr Gyddfddu yma ac acw a’r Pibydd Du, y Fôr-Hwyaden Ddu a’r deifwyr yn y gaeaf. Ymhellach oddi wrth yr arfordir, ceir gweddillion rhos yn y warchodfa, yn newid yn gyflym i goetir a phrysgwydd cymysg.

Pioden y Môr / Oystercatcher  Gylfinir / Curlew Mulfran / Cormorant

Manylion Ewch i'r map

Planhigfa Cwm-gwared

Mae Coed Cwmgwared yn goetir hynafol ar ochrau serth dyffryn Afon Hen, ger Clynnog-fawr ac islaw Bwlch Mawr. Mae amodau’r pridd yn amrywio, gan gynnig amrywiaeth o fathau o goetir nad ydynt i’w canfod yn unman arall yng ngorllewin Gwynedd. Y prif fath yw Derw Digoes, Bedw Cyffredin, Ynn a Llwyfain Llydanddail, gyda Gwerni ar y tir gwlypach. Ceir coed Criafol a Chyll yn yr isdyfiant hefyd. Bu plannu sylweddol oddi tanodd gyda chonwydd. Mae planhigion y ddaear wedi datblygu’n dda am nad yw’r ardal wedi cael ei phori ryw lawer. Mae’n cynnwys Coedfrwyn Mawr, Marchredyn Benyw, Gwyddfid a Marchredyn Llydan. Mae’r amodau clos yn y dyffryn yn dda i Redynach Wilson a sawl mwsogl anghyffredin sydd angen amodau gwlyb a chlaear cyson. Mae copa cyfagos Bwlch Mawr yn cynnig golygfeydd da ar draws gogledd orllewin Gwynedd a Bae Caernarfon. Mae’r gofod parcio ar ochr y ffordd yn gyfyngedig.

Gwern / Alder  Bwncath / Buzzard Flycatcher

Manylion Ewch i'r map

Flickr