Safbwynt

Caer Gai

Sefydliad / CwmniCanolfan Gwybodaeth Twristiaeth Bala
GwefanCliciwch Yma

Mae Caer Gai yn safle i gaer Rufeinig ategol ar esgair uwch ben yr Afon Ddyfrdwy, gan gynnig golygfeydd da, hwylus i’w cyrraedd ar draws gorlifdir yr afon ac yn ôl ar hyd Llyn Tegid ei hun. Mae cynllun sgwâr i’r gaer, sy’n cynnwys yr adeiladau fferm presennol yn y pen gogledd orllewinol. Fodd bynnag, mae’r hanner deheuol yn laswelltir agored, gyda rhagfur wedi’i warchod yn dda’n ei amgylchynu a ffos sy’n werth ei harchwilio ar gyfer planhigion cyfoethocach nag yn y glaswelltir o’i hamgylch. Ceir tystiolaeth archeolegol o ddefnydd helaeth o’r tir y tu hwnt i’r rhagfur, yn ymestyn i lawr i’r ffordd bresennol. Rydych yn debygol o weld Bwncathod a Chigfrain yn cylchu o’r bryniau y tu ôl ac adar gwyllt yn symud rhwng y llyn a’r gorlifdir oddi tanodd, gyda Chorhedydd y Waun, Llinos ac adar cyfarwydd y coetir a’r ardd o amgylch y gaer ei hun.

Bwncath / Buzzard Raven / Cigfran

Ewch i'r map

Craig y Bwlch

Sefydliad / CwmniTir mynediad
GwefanCliciwch Yma

Mae Craig y Bwlch mewn ardal ble ceir brigiad creigiog ar y llwybr i Gribin Fawr. Mae’r ardaloedd is i lawr yn laswelltir asid yn gyffredinol, gyda Thresgl a Briwydd y Rhostir, ond wrth i’r tir godi o amgylch y clogwyni, mae cymeriad y llystyfiant yn debycach i rostir a chors, gyda rhyw faint o Rug a Brwyn Troellgorun.  Mae’r hanes am adferiad y Barcud Coch yng Nghymru’n un ysbrydoledig i’r rhai sydd wrth eu boddau gydag adar.  Yn raddol iawn mae’r adar rhyfeddol a hynod ddiddorol hyn wedi bod yn lledu eu hadenydd. Fodd bynnag, ceir rhai lleoliadau o hyd yng Ngwynedd lle mae’r siawns o’u gweld yn uwch na ‘phosibl’. Mae ardal Craig y Bwlch yn un o’r rhain ac felly mae’n werth cadw llygad amdanynt yn ystod y gwanwyn a’r haf tra yn yr ardal. Yr adar eraill yr ydych yn debygol o’u gweld yma yw Corhedydd y Waun, Tinwen y Garn, y Gigfran a’r Bwncath. 

Heather Meadow Pipit Buzzard Raven

Ewch i'r map

Craig yr Aderyn

Sefydliad / CwmniTir mynediad
GwefanCliciwch Yma

Mae clogwyn uchel Craig yr Aderyn, yn codi o lefel y môr i fwy na 250 metr, yn nodwedd trawiadol ar y tirlun ar ochr ddeheuol Dyffryn Dysynni. Dyma graidd anticlin mawr lle ceir yr allgreigiau Ordofigaidd. Mae’r safle’n lleoliad magu pwysig ar gyfer y Frân Goesgoch a’r Fulfran ac yn safle nythu ar gyfer y Frân Goesgoch drwy gydol y flwyddyn. Credir bod y safle’n gartref i’r unig boblogaeth fagu reolaidd ar y tir yng Nghymru ar gyfer y Fulfran – mwy na 60 o barau. Mae’r clogwyni a’r llethrau sy’n wynebu tua’r gogledd yn gartref i amrywiaeth da o rywogaethau o fwsoglau a chen. Mae’r glaswelltir heb ei wella i’r gogledd a’r dwyrain o’r clogwyni’n fan bwydo pwysig i’r Frân Goesgoch, sydd angen tyweirch byr a phridd gyda chyfoeth o infertebrata ynddo.

Bran Goesgoch / Chough Craig yr Aderyn / Bird Rock

Ewch i'r map

Dinas Dinlle

Sefydliad / CwmniYmddiriedolaeth Genedlaethol

Mae Dinas Dinlle’n safle bryngaer ar godiad tir sydd ynddo’i hun o ddiddordeb daearegol ar gyfer dehongli rhewlifau Gogledd Cymru. Mae’r olygfa’n cael ei hawlio gan Yr Eifl ar Fae Llŷn a Chaernarfon ond ceir hefyd olygfeydd mewndirol pellach tuag Eryri. Mae’r olygfa tua’r môr yn cynnig cyfle i weld Dolffiniaid Trwyn Potel (ar eu gorau yn yr haf). Gellir gweld Llamhidyddion yr Harbwr yma hefyd, yn enwedig ar dywydd llonydd iawn. Yn y gaeaf, gellir gweld nifer o’r Trochyddion Mawr yn nofio oddi ar y lan. Gwaddodion rhewlifol yw gwneuthuriad y bryn yn bennaf, yn amrywio o gleiau i raean mân. Er bod llawer o’r bryn gwreiddiol wedi’i erydu, mae gweddillion y gaer i’w gweld yn glir o hyd. Mae natur y bryn yn ei wneud yn hawdd iawn i’w erydu. Cadwch draw oddi wrth yr ymyl os gwelwch yn dda ac osgowch ddifrodi arwyneb y pridd.

Bottlenose Dolphin / Dolffin Trwyn Potel Cormoant / Mulfran

Ewch i'r map

Foel Benddin

Sefydliad / CwmniTir mynediad
GwefanCliciwch Yma

Mae Foel Benddin ym mhen draw deheuol cefnen yr Aran, yn edrych draw dros Ddinas Mawddwy a gyda golygfeydd rhagorol ar hyd Afon Dyfi.  Yn 543 metr o uchder, mae’n uwch na’r bryniau cyfagos i gyd i’r de ac eithrio Maesglase, sydd bron i’r gorllewin. Mae’n anodd iawn cyrraedd y copa o gychwyn o’r cymoedd islaw ond gall fod yn rhan o lwybr cerdded seiliedig ar Glasgwm i’r gogledd. Glaswelltir asid yw’r llystyfiant yma’n bennaf, weithiau mewn mosáig gyda rhywogaethau fel Grug a Llus yn ffurfio rhostir sych yr ucheldir, nad yw’n helaeth fel arall yma. Ceir rhostir gwlyb gyda Grug Croesddail yn y ceudyllau a’r ardaloedd eang o redyn ar y llethrau sychach. Ymhlith yr adar a geir yma mae’r Barcud Coch, y Bwncath, y Gigfran, Clochdar y Cerrig, Corhedydd y Waun, Llinos a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf).

Heather Bilberry Buzzard Raven Stonechat Meadow Pipit Linnet

Ewch i'r map

Garn Boduan

Sefydliad / CwmniTir mynediad
GwefanCliciwch Yma

Mae’r dringo cymharol serth ac anodd yma i gopa Garn Boduan yn cael ei wobrwyo nid yn unig gyda golygfeydd helaeth ond hefyd â safle archeolegol cyfoethog. Mae’r safle gwylio’n rhy bell i mewn am y tir i ddarparu cyfleoedd da i wylio’r môr ond i bob cyfeiriad ceir pethau o ddiddordeb, yn enwedig tuag am Nefyn a Phorth Dinllaen gerllaw ac i’r gogledd orllewin dros Fynydd Nefyn. Mae’r llystyfiant uwch ben yr ardal o goedwig yn rhostir sych ac yn cynnwys Grug yn bennaf, a glaswelltir asid. Rydych yn debygol o weld y Bwncath a’r Gigfran ar yr ymyl. Ymhlith yr adar eraill a welwch yma mae Clochdar y Cerrig, Corhedydd y Waun a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf). Mae gwiberod a’r Madfall Cyffredin yn cael eu gweld yma’n rheolaidd hefyd. Ymhlith y glöynnod byw mae Iâr Fach y Ffridd. Ar y copa ceir gweddillion un o’r bryngeyrydd mwyaf ym Mhrydain a llawer o adeiladau cerrig cynnar, yn cynnwys mwy na 160 o anheddau.

Buzzard / Bwncath

Ewch i'r map

Gwersyll Rhufeinig, Bangor

Sefydliad / CwmniCyngor Gwynedd

Y safle gwylio gorau o bosibl a’r un agosaf at ddinas Bangor. Gellir ei gyrraedd o’r blwch post wrth gyffordd Lôn y Cariadon a Ffordd Garth Uchaf. Mae’n cynnig golygfa banoramig ragorol o’r llethrau coediog deheuol o Ynys Môn, heibio i Fiwmares ac Ynys Seiriol, draw dros y mannau bwydo cyfoethog i adar ar Draeth Lafan ac i fyny am fryniau Eryri. Mae Bangor ei hun i’w gweld yn llawer is mewn dyffryn bychan cul, gyda Mynydd Bangor, safle gwylio arall da, ymhellach i ffwrdd. Credir bod y safle hwn yn setliad Normanaidd, er gwaethaf ei enw. Mae ganddo amrywiaeth da o fywyd gwyllt ac mae diffyg pori wedi arwain at blanhigion da ar y ddaear yn y goedwig ar y cyrion, a’r planhigion mwyaf nodedig ymhlith y rhain yw Clychau’r Gog a’r Goedfrwynen Fawr niferus. Ymhlith adar y coetir sydd i’w canfod yma mae’r Dylluan Frech, y Siff-Saff a Thelor yr Helyg. Mae’r glaswelltir sydd wedi’i led-wella ar y safle’n gartref i amrywiaeth da o ffwng.

Tawny Owl / Tylluan Frech

Ewch i'r map

Moel Gron & Cytir Mynytho

Sefydliad / CwmniTir comin

Mae’r safle uchaf yn y fan hon, Foel Gron, yn cynnig golygfeydd da o’r cefn gwlad o amgylch ac, i’r de, ar draws pen gogleddol Bae Ceredigion. Mae’r safle o ddiddordeb daearegol a botanegol. Mae Foel Gron ym ymwthiad igneaidd o siâp cromen (ymwthiad folcanig) y gellir ei weld yn amlwg yng nghanol y chwareli segur bychain. Rhostir yr iseldir yw’r llystyfiant yma’n bennaf, gyda Grug Clochog yn amlwg iawn ar y pridd teneuach ar Foel Gron ac Eithin Gorllewinol, gyda Grug a Grug Clochog ar briddoedd dyfnach Comin Mythyno. Ceir ardaloedd o Lus ar y pridd sychach o amgylch yr allgreigiau a chlytiau bychain o Wellt y Gweunydd ar y mawn glwyb. Ceir Rhedyn ac Eithin ar y priddoedd dyfn, yn enwedig o amgylch y cyrion. Ymhlith yr adar a geir yma mae Clochdar y Cerrig, Corhedydd y Waun, yr Ehedydd a Thinwen y Garn (ymwelydd yn yr haf). Cafwyd cofnodion am wiberod yma.

Skylark / Ehedydd

Ewch i'r map

Pen y Cil

Sefydliad / CwmniYmddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r pentir hwn ym mhen de orllewinol Penrhyn Llŷn yn cynnig golygfeydd rhagorol draw am Ynysoedd Enlli a Gwylan ac ymhellach i ffwrdd tua Chader Idris a Thywyn yn ne’r sir. Sylwer bod y gofod yn brin iawn yn y maes parcio cyfagos. Llystyfiant y pentir yw grug a glaswelltir arfordirol ar briddoedd eithaf tenau, yn plymio i lawr i draeth creigiog ac anhygyrch. Mae llosg halen difrifol yn digwydd yma’n achlysurol. Mae Clustog Fair a Gludlys Arfor yn darparu lliw ar hyd y llwybr ac ar waliau. Ymhlith yr adar yma mae’r Ehedydd, Clochdar y Cerrig a’r Bras Melyn, a bydd y golygfeydd allan i’r môr yn aml iawn yn cynnwys Huganod, Mulfrain, Adar Drycin Manaw a Gwylogiaid. Gellir gweld Dolffiniaid Trwyn Potel a Dolffiniaid Rosso ar Swnt Enlli hefyd (ar eu gorau yn yr haf). Ymhlith y glöynnod byw mae’r Brith Gwyrdd a’r Glöyn Llwyd. Gellir gweld Ysgyfarnogod ar y caeau cyfagos.

Bottlenose Dolphin/Dolffin Trwyn Potel Bottlenose Dolphin/Dolffin Trwyn Potel

Ewch i'r map

Pen-ychain

Sefydliad / CwmniTir preifat

Er mai dim ond ryw 23 metr uwch ben lefel y môr ydyw, mae Pen-ychain yn cynnig golygfeydd da i’r dwyrain, y gorllewin a’r de. Ymhlith y safleoedd agos ar hyd yr arfordir mae aber yr afon Glaslyn, Harlech a Phwllheli, tra bo Tywyn ac Abersoch ymhellach i ffwrdd. Mae gwylio am symudiad adar y môr yn briodol, yn cynnwys Adar Drycin Manaw, Morwenoliaid Pigddu a Mulfrain. Gellir gweld niferoedd da o’r Cwtiad Torgoch. Mae modd hefyd gweld Llamhidyddion yr Harbwr a Dolffiniaid Cyffredin a Thrwyn Potel (ar eu gorau yn yr haf). Ceir gweddillion rhos ar y pentir, sy’n cael defnydd trwm. Ceir gwell enghreifftiau ychydig i’r dwyrain. Mae llwybr troed yn cynnig mynediad i ro mân gyda llystyfiant arno i mewn tua’r tir o’r traeth. Mae’r gymysgedd o rostir twyni (Grug yn bennaf gyda llawer iawn o Hesg y Tywod), glaswelltir a chlytiau o brysgwydd yn adlewyrchiad o’r pridd gwael oddi tanodd a’r rheolaeth yn y gorffennol. Ceir rhimyn tenau o dwyni tywod tua’r môr o’r rhos.

Heather / Grug Cormoant / Mulfran Sandwich Tern / Morwennol Bigddu

Ewch i'r map

Pont Croesor

Sefydliad / CwmniRSPB

Mae’r golygfeydd hyn ‘ar gyfer adar yn unig’, boed yn Alarch y Gogledd yn ymweld yn y gaeaf neu’n Walch y Pysgod yn magu yn y gwanwyn a’r haf. O Ffestiniog, dilynwch yr A487(P) i lawr y Cwm a throwch i’r dde yn Nhan y Bwlch ar y B4410. Croeswch yr A4085 yng Ngharreg ac edrychwch i’r caeau cyfagos am elyrch neu ewch yn eich blaen i Bont Croesor ar gyfer y safle i wylio Gweilch y Pysgod. Fel arfer gellir gweld Gweilch y Pysgod o’r safle gwylio rhwng dechrau’r gwanwyn a chanol i ddiwedd yr haf. Mae eu llwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’u hymgais i fagu ymhellach i’r de’n hynod galonogol. Fel rheol, mae Alarch y Gogledd yn dychwelyd o safleoedd magu yng Ngwlad yr Iâ ddiwedd yr hydref ac yn dychwelyd ddechrau’r gwanwyn. Mae’r daith yn tua 900 cilometr i lawer o’r adar sy’n gaeafu yn y DG, y daith sengl hiraf i unrhyw rywogaeth o elyrch.

Whooper Swan/Alarch y Gogledd

Ewch i'r map

Prosiect Gweilch y Dyfi

Sefydliad / CwmniYmddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn

Pob cyfle i gael golygfa agos, ragorol o Walch y Pysgod yn nythu. Cafodd yr adar hyn eu herlid nes iddynt ddiflannu yn y DG ond yna fe wnaethant ddychwelyd i’r Alban yn y 1950au. Mae magu rheolaidd wedi’i ddiogelu yng Nghymru erbyn hyn yn ôl pob tebyg. Mae’r cyfleuster gwych hwn gydag offer rhagorol yn cynnig golygfeydd da o guddfan uchel neu ar sgriniau plasma yn y ganolfan ymwelwyr.  Mae’r safle nythu wedi cael ei adeiladu er mwyn sicrhau ei fod yn hawdd i’w weld a hefyd er mwyn sicrhau na ellir tarfu ar yr adar.  Mae wedi’i leoli mewn planhigfa o goed conwydd ieuainc yn un o warchodfeydd natur yr Ymddiriedolaeth Natur. Yn 2009, er i wryw gyrraedd a gofalu am y nyth fis Ebrill, ni ddaeth benyw tan fis Mehefin, yn rhy hwyr i ddodwy wyau. Fodd bynnag, mae Gweilch y Pysgod wedi cael eu cofnodi’n rheolaidd ar yr Afon Dyfi yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly croeswn ein bysedd ar gyfer dyfodol yr adar godidog hyn. Mae’r cyfleuster ar agor rhwng mis Ebrill a mis Medi.     

Ewch i'r map

Flickr