Llwybr Beics

Lôn Eifion

Taith hyfryd yn llawn golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri, i lawr am Benrhyn Llŷn a draw am Ynys Môn. Mae’r llwybr yn rhedeg tua’r de o dref hanesyddol Caernarfon i bentref bychan Bryncir. Mae Lôn Eifion yn rhan o Lôn Las Cymru ac yn llwybr rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, fel a ddangosir ar fapiau OS.

Dyma lwybr beicio gwastad yn bennaf, sydd wedi’i wella’n ddiweddar, gydag arwyneb caled rhagorol bob cam o’r ffordd. Gellir beicio fersiwn lai o’r llwybr drwy dorri’r siwrnai yn amgueddfa a chaffi Inigo Jones ac yna dychwelyd – byddwch wedi beicio 16km o wneud hyn. Hefyd, mae modd ymuno â’r llwybr mewn sawl lle ar y ffordd, i gynnig taith addas i’ch diwrnod chi.

Manylion Ewch i'r map

Lôn Las Menai

Llwybr beicio hyfryd yn rhedeg tua’r de o bentref Y Felinheli i dref hanesyddol Caernarfon. Mae’r llwybr yn rhedeg ochr yn ochr ag Afon Menai ac yn mynd heibio Canolfan Chwaraeon D_r Genedlaethol Plas Menai. Mae’r llwybr beicio’n darmac ar ei hyd yn awr ac nid oes unrhyw giatiau ar ôl arno. Ceir un darn serth o ffordd wrth adael Y Felinheli ond fel arall, mae hwn yn llwybr pleserus, addas i bob gallu a ffitrwydd. Mae’r llwybr yn cysylltu’n dda â Lôn Eifion, llwybr beicio 20km (40km y ddwy ffordd) sy’n rhedeg o’r de i Gaernarfon i Fryncir.

Manylion Ewch i'r map

Lôn Las Ogwen

Siwrnai ddramatig o Borth Penrhyn ym Mangor, heibio’r chwarel lechi fwyaf yn y byd, Chwarel y Penrhyn ym Methesda, ac i fyny ceunant rhewlifol eang Nant Ffrancon i gyrraedd Bwthyn Ogwen yng nghanol rhai o’r golygfeydd mynyddig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Mae hon yn daith hyfryd ar gefn beic gyda thirluniau gwrthgyferbyniol a llawer o fywyd gwyllt diddorol i’w gweld ar y ffordd. Mae’r llwybr yn dilyn hen drac rheilffordd heb unrhyw draffig arno i bentref Tregarth ac yna ceir cymysgedd o rannau ar ac oddi ar ffordd i fyny at Fwthyn Ogwen. Wedi dweud hynny, nid yw’r ffyrdd y teithir arnynt yn rhai prysur iawn. Does dim gwaith dringo caled ar y dechrau, ond mae ail ran y llwybr yn cynnwys tir eithaf serth. Mae’r daith yn ôl yn un braf iawn, wrth gwrs, i lawr allt yn bennaf! Gall y rhai heb ddigon o amser neu’r rhai sydd eisiau taith lai heriol droi’n ôl yn Nhregarth – bydd y daith hon yn daith gylch o 12km.

Manylion Ewch i'r map

Lôn Las Peris

Taith feicio bleserus a chymharol fyr o bentref mynyddig poblogaidd Llanberis ar hyd glan Llyn Padarn i bentref tawel Brynrefail. Mae’r llwybr beicio’n dilyn llwybr yr hen reilffordd ac yn cynnig taith braf ar hyd rhodfa gysgodol gyda choed ar y naill ochr iddi. Tua’r diwedd mae’n agor allan i’r hen ffordd ac yn cyrraedd pen draw’r llyn. Yma, ym Mhen Llyn, mae’r golygfeydd i fyny Dyffryn Peris a draw am gopa’r Wyddfa’n gwbl drawiadol. Mae digon o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y ffordd ac, ym Mrynrefail, wrth gwrs, ceir lle delfrydol i ymlacio ac ail-lenwi gydag egni’n barod ar gyfer y siwrnai’n ôl i Lanberis: caffi bendigedig Caban. (DS. Ceir un gamfa ffrâm A y mae’n rhaid mynd drosti ac fe allai hon beri anhawster i rywun yn beicio ar ei ben ei hun.)

Lon Las Peris

Manylion Ewch i'r map

Llwybr Mawddach

Mae Llwybr Mawddach yn llwybr beicio clasurol ar hyd ymyl deheuol aber trawiadol afon Mawddach. Mae’r llwybr yn cysylltu tref dlos Dolgellau â glan môr hardd tref Abermaw, drwy gyfrwng trac rheilffordd segur.

Ar wahân i ddarnau serthach yn agos at Ddolgellau, mae’r llwybr yn wastad yn bennaf, ond fe all ei hyd ysgogi rhai i ddewis fersiwn fyrrach. Gellir ymuno â’r llwybr mewn sawl lleoliad, fel Pont y Wernddu, Penmaenpŵl, Arthog a Morfa Mawddach, gan gynnig teithiau llai heriol os ydych yn dymuno. Beth bynnag fydd eich dewis, mae’r llwybr beicio’n gorffen drwy groesi’r bont reilffordd drawiadol sy’n 1km o hyd dros aber yr afon ac i Abermaw.

Mae’r llwybr yn boblogaidd ymhlith cerddwyr a gwylwyr adar hefyd; mae gan yr RSPB warchodfa adar yng Nghors Arthog a rheolir gwarchodfa Coetiroedd Abergwynant gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Mawddach

Manylion Ewch i'r map

Flickr