| Sefydliad / Cwmni | Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Kate Roberts oedd un o awduron gorau a mwyaf toreithiog Cymru. Cafodd ei geni yn 1891 a'i magu yn ferch i chwarelwr yn ardal Rhosgadfan ar gyrion Caernarfon. Yn ogystal âchael ei chydnabod fel ‘Brenhines Ein Llên’, yr oedd Kate Roberts hefyd yn feirniad llenyddol a chenedlaetholwraig, ond yn bennaf oll, dyma awdures a lwyddodd i gofnodi hanes cymuned arbennig ardaloedd y chwareli ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Yn 1965 prynodd Kate Roberts ei hen gartref sef Cae'r Gors, Rhosgadfan, a oedd erbyn hynny yn adfail, ac aethpwyd ati i ddiogelu'r adeilad. Yn 1969 cyflwynodd Kate Roberts y safle i'r genedl a diolch i ymrwymiad a gwaith diflino Cyfeillion Cae'r Gors, ynghyd âgrant o gronfa Dreftadaeth y Loteri, agorwyd Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn 2007 i wasanaethu Rhosgadfan, Cymru a thu hwnt.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Mae’r caer hon o’r Oes Haearn yn dyddio o 600CC. Yn amddiffyn y gaer mae dau dwmpath enfawr o gerrig a phridd yn cau dros 3 erw o dir o fewn terfynau’r amddif¬fynfa, ac mae’n olygfa drawiadol hyd yn oed heddiw. Yn yr Oes Haearn buasai’r bryn (a’r Caer) wedi eu hamgylchynu ar dair ochr gan dir gwlyb iawn neu hyd yn oed afonydd, a dyna pam fod gennym ffermdai sy’n dwyn yr enwau R’Ynys a Rhydau yn y cyffiniau hyd heddiw. Gadawyd y Gaer yn gynnar ar ôl dyfodiad y Rhufeiniaid a symudodd y bobl i safle llai yng Nghae Metta hanner milltir i ffwrdd
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Boddwyd pentref Capel Celyn ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl. Boddwyd y capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd. Yn 1957 cyflwynwyd mesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) oedd yn golygu gallai Corfforaeth Dinas Lerpwl brynu’r tir heb ofyn caniatâd gan y perchnogion lleol. Gwrthwynebwyd y cynllun gan y pleidiau gwleidyddol i gyd yng Nghymru. Cafwyd gorymdaith yn Lerpwl gyda Gwynfor Evans yn arwain 70 o bentrefwyr er mwyn dangos gwrthwynebiad i’r cynllun ond pleidleisiodd cynghorwyr Lerpwl i barhau. Canodd llawer o feirdd a cherddorion am foddi Cwm Tryweryn ac yn eu plith, Dafydd Iwan:
"Mae argae ar draws Cwm Tryweryn
Yn gofgolofn i'n llyfdra ni;
Dyw'r werin ddim digon o ddynion, bois,
I fyny ein rhyddid ni."
Daeth yr enw Tryweryn yn symbol pwerus yn hanes Cymru, ac arweiniodd anghyfiawnder boddi’r cwm at adferiad cenedlaethol. Agorwyd cronfa ddŵr Llyn Celyn ym 1965 ac yn 1966 etholwyd Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru. 31 mlynedd yn ddiweddarach pleidleisiodd Cymru dros ddatganoli a sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
| Sefydliad / Cwmni | CADW |
|---|---|
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Cychwynnwyd y gwaith o adeiladu Castell Cricieth yn y 1230au gan Llywelyn ap Iorwerth, a datblygwyd ymhellach gan Llywelyn ap Gruffydd, Edward I ac Edward II. Defnyddiwyd y castell hefyd yn achlysurol fel carchar – carcharwyd Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i fab Owain gan Dafydd ap Llywelyn yno yn 1239. Cipiwyd y castell gan y Saeson yn 1282-3. Serch hynny, roedd rhai o’r Cymry am gipio’i yn ôl. Yn 1294, bu gwarchae ar y castell dan arweiniad Madog ap Llywelyn ond ni lwyddodd. Oherwydd lleoliad strategol y castell, roedd modd i longau o Iwerddon gludo cyflenwadau pwysig yno. Erbyn 1403, roedd gan y Saeson wrthryfel arall i boeni amdano, sef Gwrthryfel Glyndŵr. Erbyn diwedd 1403 roedd y castell eto dan warchae gan filwyr Glyndŵr. Oherwydd diffyg cymorth a chyflenwadau, llwyddodd y gwarchae y tro hwn gyda chefnogaeth llynges Ffrainc. Gorfodwyd y Saeson i ildio’r castell yng Ngwanwyn 1404.
Sicrhaodd Glyndŵr a’i ddilynwyr na fyddai'r castell yn cael ei ddefnyddio fel cadarnle yn erbyn y Cymry fyth eto, gan ddymchwel y muriau a rhoi'r lle ar dân.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Mae Cefn Caer yn Dŷ Neuadd Canoloesol a adeiladwyd ar Gaer Rufeinig yn adnabyddus am ei chysylltiad hanesyddol gydag Owain Glyndŵr, y Cymro olaf I ddal y teitl Tywysog Cymru. Er mwyn sefydlu ei hun fel arweinydd ar Gymru gyfan roedd rhaid ffurfio cynghreiriau â gwledydd sofran eraill, yn enwedig Ffrainc. Ar 31 Mawrth 1406, ceisiodd ffurfioli’r cysylltiad rhwng Cymru a Ffrainc trwy ddatgan ei deyrngarwch i Bab Avignon, Benedict XIII. Gwnaed hyn mewn llythyr a elwir ‘Llythyr Pennal’, ac mae’n debyg mai yn Cefn Caer yr ysgrifennwyd y llythyr. Yr oedd y Babaeth yn y cyfnod hwn wedi ymrannu, gydag un Pab yn Rhufain ac un arall yn Avignon. Roedd Charles VI o Ffrainc, yn awyddus i sicrhau fod ei holl gynghreiriaid yn deyrngar i Bab Avignon. Ceir dwy ran i’r llythyr, y naill llaw mae’n datgan bwriad Owain i ufuddhau i Bab Avignon, ac ar y llaw arall mae’n ddogfen ffurfiol wedi’i selio â’i sêl fawr sy’n gosod telerau ei deyrngarwch, gan gynnwys sefydlu eglwys annibynnol a dwy brifysgol yng Nghymru.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Yr oedd chwareli bach yn cael eu gweithio yn Ninorwig mor gynnar â’r 1770au. Pan sylweddolodd perchennog Ystâd y Faenol, Asheton-Smith, bod arian mawr i’w wneud wrth gloddio llechi penderfynodd yn 1809 sefydlu chwarel enfawr yn Ninorwig a’i rhedeg ei hun. Tyfodd y chwarel (a’r pentrefi o’i chwmpas) yn raddol dros y degawdau. Oes aur y chwarel oedd yr 1880au pan gyflogwyd bron i 3000 o ddynion yno. Dirywiodd y farchnad trwy gydol yr 20ed ganrif a chaewyd y chwarel ym 1969.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Methusalem Jones, chwarelwr o’r Cilgwyn, oedd y cyntaf i fynd ati o ddifri i gloddio yn yr ardal yn y1760au. Yn 1831 diddymwyd y doll ar lechi, a rhoddwyd hwb i’r diwydiant. Adeiladwyd rheilffordd Ffestiniog yn1833 i gludo llechi i borthladd Porthmadog. Oherwydd i ran o ddinas Hamburg gael ei dinistrio gan dan yn 1842, daeth yr Almaen yn farchnad bwysig i lechi Blaenau Ffestiniog. Yn 1846 tarodd J. W. Greaves ar yr ‘Old Vein’ enwog, sef cychwyn chwarel Llechwedd. Er i’r diwydiant dyfu yn ystod y 19G, daeth dirywiad sydyn. Caewyd 8 o chwareli’r ardal rhwng 1908 a 1913, ac oherwydd y Rhyfel Byd cyntaf collwyd y farchnad Almaeneg. Ar y cyfan, dirywio ddaru chwareli Gogledd Cymru yn ystod yr 20G. Yn yr Ail Ryfel Byd, gwnaed defnydd o chwarel Manod i warchod trysorau’r Oriel Genedlaethol ac Oriel y Tate. Erbyn heddiw mae chwarel Llechwedd wedi ei droi’n arddangosfa enfawr, lle gall ymwelwyr ddisgyn i ddyfnderoedd y Chwarel Ddofn ac edrych ar sut roedd yr hen chwarelwyr yn byw ac yn gweithio.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Ganed Lloyd George ym Manceinion ar 17 Ionawr 1863. Ar ôl marwolaeth ei dad yn 1864, symudodd ei fam a’i phlant i fyw gyda'i brawd, Richard Lloyd, yn Highgate, Llanystumdwy. Cychwynnodd ar ei yrfa fel cyfreithiwr yng Nghricieth yn 1885. Erbyn dechrau’r Ugeinfed ganrif, roedd yn ymwneud llawer mwy â gwleidyddiaeth genedlaethol. Yn annisgwyl, ar ôl dal sawl swydd gweinidog yn y llywodraeth, fe’i penodwyd yn Brif Weinidog yn Rhagfyr 1916, pan ymddiswyddodd Asquith. Fel Prif Weinidog, enillodd glod fel ‘y gŵr a enillodd y rhyfel’. Ym mis Hydref 1922 bu raid i Lloyd George ymddiswyddo oherwydd i’r glymblaid â’r Ceidwadwyr ddod i ben. Er iddo barhau fel gwleidydd hyd at Ionawr 1945, ni ddaliodd unrhyw swydd wedyn. Hyd yn hyn, ef yw’r unig brif weinidog i fedru’r Gymraeg fel iaith gyntaf, gyda Saesneg yn ail iaith. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr pwysicaf y wladwriaeth les. Bu farw ar 26 Mawrth 1945. Claddwyd ef ar lechwedd goediog uwchlaw afon Dwyfor, Llanystumdwy.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Ymlidwyd mynach o’r enw Cadfan o Lydaw. Glaniodd yn Nhywyn, Meirionydd, sefydlu eglwys yno ac yn y man, croesodd o Fae Ceredigion i Lŷn a dod yn abad cyntaf y fynachlog ar Enlli. Digwyddodd hyn rhwng 516 a 542 O.C. yn yr union gyfnod y bu’r Brenin Arthur yn ymladd ym mrwydr Camlan….. Roedd Gwenonwy yn chwaer i’r Brenin Arthur ac ar gyrion Porth Cadlan ger Aberdaron mae craig enfawr amlwg iawn o’r enw Maen Gwenonwy. Priododd Gwenonwy â Gwyndaf Hen ac fe’I claddwyd yntau ar Enlli.
Mab i Gwyndaf Hen a Gwenonwy oedd Henwyn, sef Hywyn, nawddsant eglwys Aberdaron. Hyfforddwyd ef yn Llanilltud Fawr a death yn beriglor i Cadfan.
Dyfyniad o lyfr 'Llŷn' gan Elfed Gruffydd (Wasg Carreg Gwalch 01492 642031)
Adeiladwyd eglwys Llanddeiniolen yn wreiddiol fel ‘cell’ gan Sant Deiniolen, mab Deiniol Sant yn 585OC. Mae oed y coed yn y fynwent yn dangos oed y safle, a defnyddiwyd technegau dendrocronoleg yn ddiweddar i’w dyddio a chafwyd eu bod yn 2000 o flynyddoedd oed. Ailadeiladwyd yr eglwys bresennol yn gyfan gwbl ym 1843 a dywedir mai’r adeilad hwn oedd y bedwaredd eglwys ar y safle. Mae traddodiad lleol yn dweud bod yr eglwys wreiddiol wedi’i hadeiladu o bren a’i bod wedi llosgi i’r llawr. Ymysg gweddillion yr hen adeilad mae arysgrif ar y giât sy’n dyddio o 1692 a gwrthrychau eraill fel y bowlenni cerrig ar y naill ochr i’r fynedfa, sydd o bosibl yn dyddio o’r 16fed ganrif. Yn y fynwent ger y fynedfa mae carreg fedd ddiddorol dros ben gyda ‘phenglog ac esgyrn croes’ wedi eu cerfio arni. Nid bedd morleidr sydd yma ond carreg fedd Pierce Lloyd, Porthmon, a fu farw ym 1712. Gwnaethpwyd copi o’r garreg rai blynyddoedd yn ôl (gweler llun, dde) i ddehongli’r wybodaeth a geir arni. Bu farw Pierce o’r frech wen ac roedd yn draddodiad ers dyddiau’r Pla Mawr i gerfio ‘penglog ac esgyrn croes’ ar feddau. Yr hyn sy’n ddiddorol hefyd yw mai Porthmon o Swydd Henffordd oedd Pierce Lloyd sy’n awgrymu bod Ffordd Porthmyn yn mynd trwy blwyf Llanddeiniolen ar y pryd.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Sefydlwyd yn wreiddiol fel bragdy wisgi gan R.J. Lloyd Price, Y Rhiwlas, ond wedi cau’r gwaith fe’i gwnaed yn safle i ddal carcharorion rhyfel. Hyd at 1916, fe’i defnyddiwyd fel carchar ar gyfer milwyr Almaeneg o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ond ar ôl Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, caethiwyd hyd at 1,800 wirfoddolwyr yr IRA yno. Ymysg y carcharorion roedd dynion fel Michael Collins ac Arthur Griffith, a ddaeth yn enwog am eu rhan yn y gwrthryfel Gwyddelig. Roedd Frongoch yn gyfle arbennig i’r IRA ddatblygu eu syniadau chwyldroadol, ac mae sôn am Michael Collins a’i gymrodyr yn rhoi gwersi ymladd a milwria i’w cyd-garcharorion. Wedi i nifer ohonynt ddychwelyd i Iwerddon, aethant ati i o ddifri i herio’r Ymerodraeth Brydeinig mewn rhyfel annibyniaeth. Daeth nifer o gyn garcharorion Frongoch yn arweinwyr ar y rhyfel hwnnw, i’r fath raddau fel y galwyd Frongoch yn ‘Brifysgol Sinn Féin’ neu ‘Brifysgol y Chwyldro’.
Cofeb Frongoch
Bhí 1,800 Eireannach i / ngéibheann anseo / tar eis Éirí Amach na Cásca, / Baile Átha Cliath 1916
Carcharwyd yma 1,800 o / Wyddelod wedi / Gwrthryfel y Pasg, Dulyn, 1916
Meddiannwyd y safle hwn trwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid gan y bobl a oedd wedi gadael Caer Dinas Dinorwig ar ddechrau goresgyniad y Rhufeiniaid. Yn wir, mae’r ‘pentref’, er ei fod wedi parhau i ddefnyddio cytiau crwn fel anheddau, yn dangos nodweddion sy’n efelychu Filâu y Rhufeiniaid. Dygwyd llawer o’r cerrig o’r safle i adeiladu Saron, Bethel yn y 1860au. Mae’n debyg bod y gaer a’i dyfrffos yn Nhŷ Mawr a’r cytiau crwn ym Mhenygroes (mewn cae a adwaenir fel Gof Uchaf) ger Dinas Dinorwig hefyd yn dyddio o’r un cyfnod. Mae tystiolaeth o’r safleoedd hyn i gyd yn awgrymu bod y bobl frodorol wedi mwynhau bywydau llewyrchus.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Yn 1406, llywyddodd Owain Glyndŵr dros y Cynulliad diwethaf Cymru annibynnol. Credir iddo gael ei gynnal yn Eglwys St Peter ad Vincula, Pennal a oedd, ar y pryd yn Eglwys Brenhinol iddo. Credir y lofnodwyd Llythyr Pennal yn yr Eglwys.
Mae'r llythyr gwreiddiol wedi ei leoli yn yr Archives Nationales, Paris. Mae 'ffacsimili' o'r llythyr i'w gweld yn yr Eglwys ynghyd â'r darlun gan Aneurin Jones, "Llywodraeth Cynulliad Cymru ym 1406" sy'n dathlu arwyddo’r llythyr.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Mae 15 parc cenedlaethol ym Mhrydain, ac Eryri oedd un o’r rhai cyntaf i gael ei greu ym 1951. Ar wahân i Ardal y Brigau (Peak District), dyma’r unig un i gael canolfan hyfforddi broffesiynol. Lleoli’r hwn ym Mhlas Tan y Bwlch, sy’n cyfieithu i’r Saesneg fel, “the mansion beneath the pass”.
Mae’r hyn a welwn o’r Plas heddiw yn ganlyniad i’r ail-adeiladu sylweddol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae ei hanes yn mynd yn ôl llawer ymhellach. Cafodd y tŷ cyntaf ei adeiladu yn ystod blynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg. © Huw Jenkins
Cliciwch ar y ddolen uchod i gael mwy o hanes Plas Tan y Bwlch gan Huw Jenkins
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Un o henebion mwyaf trawiadol Cymru. Wedi ei lleoli ar gopa mwyaf dwyreiniol yr Eifl, edrychai allan ar Fôr yr Iwerydd a Bae Caernarfon. Oherwydd ei lleoliad anghysbell a’i cherrig mawrion, credwyd am ganrifoedd mai hen bentref cewri oedd y gaer, ac felly fe’i henwyd Tre’r Ceiri, sef Tref y Cewri. O fewn i’w muriau saif tua 150 o gytiau crynion o wahanol faint a adeiladwyd rhywbryd rhwng 140 a 400 AD – sef ar ganol y cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain. Mae bryngaerau eraill i’w gweld yn yr ardal hefyd, sef ar Garn Boduan a Garn Fadryn. Perthyn y rhain i gyfnod rhai canrifoedd yn gynharach na Thre’r Ceiri. Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid Ogledd Cymru, roedd y rhanbarth yn cael ei rheoli gan Yr Ordovices, (neu ‘Ymladdwyr y Morthwylion’), sef ymherodraeth o lwythi Celtaidd llai. Mae’n debyg mai’r Deceangli oedd y llwyth a oedd yn byw yn Nhre’r Ceiri a’r bryngaerau cyfagos. Mae wedi bod yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr, yn enwedig ers i Thomas Pennant sôn amdani yn ei lyfr Tours of Wales a gyhoeddwyd yn 1813.
| Gwefan | Cliciwch Yma |
|---|
Sefydlwyd yn y Bedwaredd Ganrif O.C. - mae Eglwys Sant Rhedyw yn un o'r Eglwysi hynaf yng Nghymru.
Nawddsant Eglwys Llanllyfni yw Rhedyw - neu Redicus yn Lladin, oedd yn ei anterth tua 316 O.C. Does dim hanes cynnar ysgrifenedig, ond mae traddodiad cadarn y ganwyd ef yn Arfon neu mai ef a sefydlodd yr eglwys gyntaf yn yr ardal yma. Yn ôl y sôn, swyddog pwysig ydoedd yn Eglwys Augustodunum yn Gâl (Autun yn Ffrainc fodern). Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pryd cynhelir Ffair Llanllyfni bob blwyddyn.
Safle Baganaidd ffynnon Rhedyw, a gafodd ei chysegru gan Gristnogion cynnar yn ôl pob tebyg, un o’r rhai hynaf yng Nghymru. Deuai pererinion yma ar eu ffordd i Enlli.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau