| Cyfeiriad | Briws, Dyffryn Ardudwy, LL44 2BE |
|---|---|
| Ffôn | 01342 247 397 |
Crochenwaith a cherfluniau serameg
| Cyfeiriad | Parc Glynllifon, Llandwrog, Caernarfon, LL54 5DY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 830 515 |
Celf
| Cyfeiriad | Uned 3 & 2a Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, LL54 5DY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 830 839 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gemwaith gyfoes yn cynnwys gleiniau gwydr o'r hen ffatrioedd gwydr yng Ngorllewin yr Almaen a Siapan.
Lleoliadau Gwerthu: Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog ger Caernarfon. I weld y gwaith neu i drefnu dyluniad, cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.
| Cyfeiriad | Yr Efail, Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, LL54 5DY |
|---|---|
| Ffôn | 07904 600 476 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Dylunwraig yn gweithio ers 19 mlynedd ar prosiectau amrywiol, o emwaith i gelf maint pensaerniol. Yn fyd enwog am ei cherfluniau trawiadol a churwyr drysau unigryw.
Lleoliad Gwerthu: Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog ger Caernarfon.
| Cyfeiriad | 22 Erw Las Estate, Bethesda, LL57 7ER |
|---|---|
| Ffôn | 01248 601 599 |
Tegannau meddal a gweuwaith
| Cyfeiriad | Oriel y Beudy, Ty'n Mynydd, Nasareth, LL54 6DR |
|---|---|
| Ffôn | 07967 273 367 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Peintiwr, gwneuthurwr printiau, ffotograffydd. Creu tirluniau mawr ar sidan, printiadau lino, pren a ffotograffiaeth.
| Cyfeiriad | Pen y Bwlch, Rhiw, Pwllheli, LL53 8AF |
|---|---|
| Ffôn | 01758 780 288 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gweithiau creadigol mewn gwydr ar gyfer amrywiaeth eang o sefyllfaoedd.
| Cyfeiriad | Ty'n y Parc, Llangwnnadl, Pwllheli, LL53 8NY |
|---|---|
| Ffôn | 01758 770 492 |
Cynnyrch o'r ddaear. Ar ol ei ffwrndanio ar wres uchel peintir y gwaith clai a phaent acrylig. Mae'r gwaith ffigyrol a thraethiadol yn eich gwaith i fyd sydd a grym i gyfareddu.
| Cyfeiriad | Ty Capel, Penisarwaen, Caernarfon, LL55 3BS |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870 942 |
Pyrsiau a bagiau wedi'u gwneud â llaw. Mae fy magiau a phyrsiau yn cael eu gwneud â llaw gan ddefnyddio amrywiaet o ffabrigau megis, cotwm sidan a melfed.
| Cyfeiriad | Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, LL54 5DY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 880 173 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Dylunydd Tecstilau
| Cyfeiriad | Glan Morfa, Porthmadog, Gwynedd |
|---|---|
| Ffôn |
Wedi ymddeol, ailgydiodd Arthur yn ei ddiddordeb mewn gwaith pren, gan ganolbwyntio ar greu ffyn cerdded. Mae wedi adeiladu sied gydag offer bwrpasol yng ngwaelod ei ardd, gan ei fod yn defnyddio'i law chwith i weithio. Mae ganddo gwsmeriaid amrywiol, ac mae'n brysur yn creu ffyn yn ddyddiol. Mae camau penodol sy'n rhaid eu dilyn i greu unrhyw ffon, ac mae Arthur wedi creu ei declyn ei hun er mwyn sythu'r pren. Mae Arthur yn prynu'r deunydd ar y we fel arfer ac mae'n medru creu amrywiaeth o ffyn gan ddefnyddio pren gwahanol. Mae gan Arthur gasgliad o ffyn gan gynnwys ffyn cerdded traddodiadol, ffyn â chorn bual, ffyn â phen mewn siâp esgid a siâp pysgodyn i enwi ond rhai!
| Cyfeiriad | Gweithdy Pattern Store, Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, LL54 5DY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 673 160 |
Artist creadigol a darlunydd, addysg celf cynradd.
| Cyfeiriad | Turnpike Cottage, Traeth, Beddgelert, LL55 4YF |
|---|---|
| Ffôn | 01766 890 283 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Dros gyfnod o 20 mlynedd ysgogwyd Barry Skinner gan dirlun trawiadol Eryri. Mae'n gwethio'n bennaf gyda inc ac yn defnyddio paent acrylig ar gyfer ei beintiadau. Yn ogystal a pheintio mae gan Barry hefyd enw fel turniwr coed gan ddefnyddio coed cynhenid.
| Cyfeiriad | Fingerprint-Jewellery Studio, 27 High Street, Caernarfon, LL55 1HR |
|---|---|
| Ffôn | 07861 246 707 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gemwaith olion bysedd gemwaith, Mwclis deilen priodas unigryw, gemwaith enamel emwaith, comisiynau.
| Cyfeiriad | Oriel Lleuad Arian, Bryn, Penrhyndeudraeth, LL48 6AQ |
|---|---|
| Ffôn | 01766 771 678 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gwaith acrylig hanner-haniaethol, gemwiath wedi'i wneud a gleiniau.
| Cyfeiriad | Stiwdio Glaslyn, Ffordd Glaslyn, Porthmadog, LL46 9EG |
|---|---|
| Ffôn | 01766 515 428 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gwydr grisial lliw mewn plwm wedi'i gyflwyno'n unigryw fel croglenni, cerfluniau a thlysau cyfoes ac sydd wedi'u harddangos yn Efrog Newydd, Tocio, Hambwrg a'r Haag yn yr Iseldiroedd.
| Cyfeiriad | Y Bryn, Grugan, Groeslon, Caernarfon, LL54 7TA |
|---|---|
| Ffôn | 01286 830 571 |
Cardiau Cyfarch
| Cyfeiriad | Glanydon, Pwllheli, LL53 5YT |
|---|---|
| Ffôn | 01758 612 645 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gweithgynhyrchu Cerrig
| Cyfeiriad | Tan y Ffridd, Llangower, Bala, LL23 7DA |
|---|---|
| Ffôn | 01678 520 390 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Fy nhynfas yw llestr a phorslen. Rwy'n mwynhau peintio'r blodau, sy'n tyfu yn fy ardd llechweddog, ar y llestr yn ysgafn gan greu llun lliwgar a bywiog. Caiff y llestr eu ffwrndanio rhwng 3-5 gwaith gan greu haenau lled dryloyw.
| Cyfeiriad | The Gallery, Aberdyfi, LL35 0EH |
|---|---|
| Ffôn | 01654 767 319 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Claire a Glyn Davies yn peintio dyfrluniau ac werthi'n datblygu amrywiaeth o luniau inc acrylig bywiog, printiadau, cardiau yn ogystal a ffotograffau. Ar y cyd a'u merch Rowena sydd hefyd yn artist, maent yn cynnig agwedd newydd ar dir a mor Cymru.
| Cyfeiriad | Moelfre Mawr, Llanalhaearn, Caernarfon, LL54 5BE |
|---|---|
| Ffôn | 01758 750333 /07887 558521 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Eich ceginau, eich dodrefn eich cartrefi chi: steiliau modern, clasurol neu draddodiadol. Eich chwaeth, eich dull, eich dewis.
Mae Coeden yn fusnes saernïo sy’n gweithio cant y cant i archeb; sy'n defnyddio sgiliau saernïo traddodiadol i greu comisiynau unigryw, wedi eu cynllunio'n arbennig i chi, law yn llaw a’n harbenigedd ni. Gallwn ddefnyddio coed derw, onnen, cneuen Ffrengig, masarnen, neu unrhyw goed arall a ystyriwn yn addas ar gyfer y briff os yw at eich blas.
Mae popeth a gaiff ei wneud gan Coeden yn cael ei wneud â llaw (droriau tryfalu, drysau â fframiau mortais a thynnon); popeth wedi ei wneud i ffitio eich cartref chi ac wedi ei grefftio â llaw.
| Cyfeiriad | Uned 3 , Canolfan Grefftau , Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 349 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae crochenwaith ‘Quarry Pottery’ wedi bod yn gweithredu yng Nghanolfan Crefft Corris ers iddo ei agor yn 1982. Mae’r serameg i gyd yn cael eu taflu a’i tanio ar y safle. Mae’r siop yn gwerthu serameg amrywiol gan gynnwys tylwyth teg a ffurfiwyd wrth ddefnyddio gwahanol glai hyd at llestr pridd wedi eu harddurno gyda llaw mewn amrediad o liwiau a dyluniau. Mae’r dreigiau smygu’n boblogaidd iawn.
Lleoliad Gwerthu: Gweithdai Crefft Corris, Ar agor yn ddyddiol 10y.b. - 5y.p.
| Cyfeiriad | Trefor, Caernarfon, LL54 5NB |
|---|---|
| Ffôn | 01286 660 545 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Crochenwaith caled wedi'i gynhyrchu a thanio lleihaol.
| Cyfeiriad | Uned 12, Canolfan Grefftau Corris, Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 617 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Amrywiaeth o gardiau, bagiau, anrhegion a llyfrau lloffion wedi'u gwneud â llaw. Maent yn arbenigo mewn deunydd ysgrifennu ar gyfer priodasau. O fewn y gweithdy, mae yna ardal grefft plant sy'n ddelfrydol ar gyfer partïon penblwydd. Maent hefyd yn gwneud gweithdai cardiau.
Lleoliad Gwerthu: Gweithdai Crefft Corris, Corris ger Machynlleth. Ar agor yn ddyddiol 10y.b. - 5y.p.
| Cyfeiriad | Cae Siencyn, Ceunant, Llanrug, Caernarfon, LL55 5RU |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870330 |
Ganwyd Dewi Jones ym mhlwy Llanfachreth, Dolgellau yn 1938. Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Dolgellau aeth i weithio i’r Comisiwn Coedwigaeth fel ei dad. Yna yn 1956 roedd rhaid mynd i’r fyddin am ddwy flynedd ac yna yn ôl i weithio gyda coed hyd at 1971. Penderfynodd fynd i Awstralia diwedd y flwyddyn gyda gwraig a dau fab erbyn hyn. Arhosodd yno am tua dwy flynedd a hanner; ond mae’n debyg ei fod yn hiraethu am yr hen wlad!
Fel saer coed bu Dewi yn gweithio wedyn tan ymddeol bedair mlynedd yn ôl. Newidiodd ardal yn 1974 ac aeth i fyw i Ceunant ger Llanrug a chael pedair mlynedd a hanner o waith yn Dinorwig. Ar ôl hynny bu ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt i glawdd Offa.
Gweithiodd Dewi yng Nghaergybi hyd at tua deuddeg mlynedd yn ôl gyda Albanwr a oedd yn turnio ac yn aelod o Glwb Turnio Gwynedd. Dyma hyn yn ail danio ei ddiddordeb mewn turnio coed ar ôl llawer o flynyddoedd. Nawr mae Dewi yn diddanu ei hun gyda’r grefft ar ôl ymddeol.
Lleoliadau Gwerthu: Crefftau Glynllifon, Parc Glynllifon, ger Caernarfon Ar agor yn ddyddiol 10y.b.-5y.p. Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog ger Pwllheli Ar agor yn ddyddiol 10y.b. – 5y.p.
| Cyfeiriad | 21 Stryd Fawr, Talsarnau, Harlech, LL47 6TY |
|---|---|
| Ffôn | 01766771560 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Dillad plant organig unigryw yn Gymraeg ac yn Saesneg. Wedi'u hargraffu yn lleol yng Nghymru ar gotwm Fair Wear gydag inciau organig eco gyfeillgar, maent yn eithriadol o feddal ond eto yn para'n dda, yn arbennig o gysurus ac yn gwbl unigryw. Meddyliodd Liz Stringer am y syniad o Dragon Babies yn 2009 pan aned ei phumed baban drwy fenthyg croth, enw'r baban oedd Isabelle. Er bod rhieni Isabelle o Loegr, cafodd hi ei geni yma yng Nghymru ac roedd Liz am brynu rhywbeth hyfryd iddi i ddathlu’r ffaith honno. Mae'r sgrin-brintio ar gyfer Dragon Babies yn cael ei wneud gan Peris a Corr, Nantlle, sydd ond yn gweithio gydag inciau eco gyfeillgar sy'n seiliedig ar ddŵr
Lleoliadau Gwerthu: www.dragonbabies.co.uk Babi Pur, Porthmadog The Summer House Trading Company, Pwllheli Milk 'n' Honey in Cricieth
| Cyfeiriad | Llwyn Talcen, Brithdir, Dolgellau, LL40 2RY |
|---|---|
| Ffôn | 01341 450 276 |
Fel athrawes gwyddor ty dechreuodd ei diddordeb mewn ffelt drwy frodweithio cyn mynd ymlaen at glytweithio, chwiltio ac yna ffeltio. Gellir defnyddio ffelt ar gyfer hetiau, dillad, bocsus storio, matiau a hyd yn oed pebyll.
| Cyfeiriad | Hafan Melangell, 15 Cae'r Dderwen, Dolgellau, LL40 1GE |
|---|---|
| Ffôn | 01341 421 781 |
Cynhyrchu tecstiliau aml-gyfryngol i'w crogi ar furiau, gan osod edau, peintio deunydd a brodwaith gyda llaw a pheiriant gwnio i greu cyfanwaith.
| Cyfeiriad | Hendre, Cefnddwysarn, Bala, LL23 7LN |
|---|---|
| Ffôn |
Mae Eilir Rowlands o fferm yr Hendre yng Nghefnddwysarn, rhyw bedair milltir o ganol tref Y Bala. Mae'n enwog ar hyd y fro am y cerfluniau rhyfeddol mae'n eu creu gan ddefnyddio llif-gadwyn. O ddydd i ddydd, mae Eilir yn gweithio fel contractiwr ac yn ail gynllunio gerddi, felly cadwch lygaid am ei waith sydd yn frith o gwmpas yr ardal.
| Cyfeiriad | Erw Wen, Dinas Mawddwy, Gwynedd, SY20 9LX |
|---|---|
| Ffôn | 01650 531517 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Eirian Wyn yn gwmni cyfeillgar a phroffesiynol sy’n cynllunio a chynhyrchu cardiau o waith llaw yn Ninas Mawddwy, yng Nghanolbarth Cymru.
Gellir creu cardiau ar gyfer pob achlysur neu ddeunydd ysgrifennu priodasol o safon uchel yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog gan ddefnyddio amrywiaeth o liwiau er mwyn ateb eich anghenion.
Lleoliadau Gwerthu: www.eirianwyn.co.uk
| Cyfeiriad | Uned 3 Antur Aberuchaf, Lon Garmon, Abersoch, LL53 7UG |
|---|---|
| Ffôn | 01758 710 032 |
Rhoddion organig i faban, teganau traddodiadol, pecynnau'n seiliedig ar weithgareddau ac itemau arian poced ar gyfer plant o bob oed.
| Cyfeiriad | Uned 6 Antur Aberuchaf, Lon Garmon, Abersoch, LL53 7UG |
|---|---|
| Ffôn | 01758 713 641 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae ein holl luniau wedi'u fframio a lluniau cynfas o Abersoch a Phen Llyn yn cael eu gwneud gyda chariad mawr a gofal gan fy hun a'm cynorthwy-ydd Nicole yn ein gweithdy / oriel yn Abersoch. Rydym yn falch bod ein holl nwyddau a deunyddiau o'r safon uchaf.
| Cyfeiriad | Uned 1-2, Antur Aberuchaf, Lon Garmon, Abersoch, LL53 7UG |
|---|---|
| Ffôn | 01758 712772 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gemwaith a wnaed â llaw wedi eu dilysnodi
| Cyfeiriad | Gwanas Fawr, Brithdir, Dolgellau, LL40 2SH |
|---|---|
| Ffôn | 01341 422 825 |
Cynhyrchir printiadau o dirluniau, creiriau diwydiannol a gwaith ffigyrol ac yna'n eu gwerthu o'i stiwdio a'i gartref yn Gwanas Fawr - hen ffermdy hanesyddol. Mae ei waith yn cynnwys ffotograffiaeth du a gwyn wedi'u datblygu a llaw.
| Cyfeiriad | Ebrandy, Mallwyd, Machynlleth, SY20 9AE |
|---|---|
| Ffôn | 01650 531662 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Creir gemwaith unigryw o lechen, pren a cherrig gan eu cyfuno â metalau gwerthfawr. Wrth weithio’r deunyddiau maent yn datgelu lliwiau a phatrymau trawiadol a gorffeniad llyfn dymunol.
Magwyd Mari ar fferm Tyddyn Du, Cwm Hafod Oer ar gyrion Dolgellau ac yn fuan iawn gwelwyd bod ganddi ddawn greadigol naturiol. Datblygodd y ddawn hon yn ystod ei chyfnod ysgol a choleg ac erbyn hyn mae wedi llwyddo i wneud gyrfa ohonno. Wedi i Mari ennill gradd Dosbarth Cyntaf fel gemweithydd ym Mhrifysgol Loughborough yn 2006 fe sefydlodd weithdy yn ei chartref yn Ebrandy, Mallwyd.
Lleoliadau Gwerthu: Oriel Plas Glyn y Weddw. Llanbedrog, Llyfrgell Genedlaethol. Aberystwyth, Amgueddfa Lechi, Llanberis. Llechwedd, Blaenau Ffestiniog.
Rhiannon, Tregaron. Eluned, Pwllheli. Elfair, Rhuthin. Ria, Bala. Cole + Co, Biwmares. www.adrahome.com
| Cyfeiriad | Caffi Ffynnon, Stryd y Ffynnon, Nefyn, LL53 6HW |
|---|---|
| Ffôn | 01758 720 252 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gemwaith a Tecstiliau
| Cyfeiriad | Tan-y-Graig, Cwm y Glo, Caernarfon, LL55 4DN |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870 724 |
Rwy’n hoffi arlunio y tirlun a’r golygfeydd oherwydd ei bod yn newid yn gyson
| Cyfeiriad | Ty'r Ardd, Tremadog, Porthmadog, LL49 9PS |
|---|---|
| Ffôn | 01766 512 094 |
Canhwyllau
| Cyfeiriad | Cadnant, Llanberis, LL55 4HB |
|---|---|
| Ffôn | 07792 663 413 |
Gwaith celf yn defnyddio piwter
| Cyfeiriad | Artro House, Gwynfryn, Llanbedr, Harlech, LL45 2PA |
|---|---|
| Ffôn | 01341 241 538 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Yn wreiddiol cymerodd Dave Newbould luniau i gofnodi ei ddiddordeb mynydda ac yna datblygu i fod yn fwy creadigol. Mae Dave yn byw yn Eryri dros 25 mlynedd, bu’n gweithio fel hyfforddwr a rheolwr yn y Canolfan Mentrau Awyr Agored yn Pensarn a Llanbedr.
Sefydlodd Gwreidddiau yn 1993, wrth ddechrau gyda amrediad o 18 grwp o wahanol gardiau cyfarch ac yna datblygodd i gynhyrchu posteri a calendrau.
| Cyfeiriad | Uned 9 , Canolfan Grefftau, Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 763 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae'r eitemau sy'n cael ei gwneud yn Delyn Glass yn cael ei creu o ansawdd uchel. Eitemau'n cynnwys dreigiau, bywyd gwyllt, blodau a photeli persawr.
Lleoliad Gwerthu: Gweithdai Crefft Corris, ar agor yn ddyddiol 10y.b. - 5y.p.
| Cyfeiriad | 1 Tai Newyddion, Ynys, Talsarnau, LL47 6TN |
|---|---|
| Ffôn | 01766 781 332 |
Gwydr wedi'u arddurno'n unigryw â llaw. Cynlluniau traddodiadol a chyfoes, gwaith trwsio ac atgyweirio.
| Cyfeiriad | Morlais, Llanbedrog, LL53 7PS |
|---|---|
| Ffôn | 01758 740 454 |
Gemwaith a bagiau 'designer'
| Cyfeiriad | The Roundhouse Studio, Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, LL53 8HS |
|---|---|
| Ffôn | 07789 973 850 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Ffurfiau clai, wedi'u castio mewn plastr.
| Cyfeiriad | Pengwern , Lon Sarn Bach, Abersoch, LL53 7ER |
|---|---|
| Ffôn | 01758 713 600 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gemwaith Celtaidd, gemwaith ac anrhegion fforddiadwy Cymreig a gynlluniwyd gan JM Crafts, gan ymgorffori dyluniadau Celtaidd traddodiadol.
| Cyfeiriad | Clifodyn Isaf, Carmel, Caernarfon, LL54 7AG |
|---|---|
| Ffôn | 08451 574 895 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae ffotograffiaeth Jane O'Dwyer yn portreadu ystod eang o fywyd gwyllt - yn anifeiliad a phlanhigion sy'n gynhenid i wledydd Prydain.
| Cyfeiriad | Yr Hen Fendy, Ty'r Gawen, Llanegryn, Tywyn, LL36 9UG |
|---|---|
| Ffôn | 01654 710 914 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Defnyddir haenau o bapur tryloyw, gwaedog, ac wedi'i liwio gyda golosg i gynhyrchu lluniau sylweddol wedi'u hysbrydoli gan ansawdd enigmatig y tirwedd a'r arfordir lleol. Weithiau cyfynir geiriau a lluniau - gan gynhyrchu cardiau, dyfrliwiau a lluniau.
| Cyfeiriad | Ceris, 8 Y Grugan , Groeslon, LL54 7TD |
|---|---|
| Ffôn | 07899 771 576 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Cerameg, anrhegion a ffigyrau ffelt o wneuthuriad llaw.
Stiwdio ar agor gydol y flwyddyn trwy drefniant ymlaen llaw
| Cyfeiriad | Gwynys, Heol Dulyn, Tremadog, LL49 9RN |
|---|---|
| Ffôn | 01766 512 507 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Yn enedigol o Lanrhystud, Ceredigion. Astudiodd Gelf yng Nghaerdydd, Bryste a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Bu’n athro Celf yn Buxton, Ystradgynlais ac Aberystwyth cyn gweithio fel Swyddog Addysg Celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enillodd Goron Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid ym 1986. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o’i eiddo gan Y Lolfa- ANNWYL ARHOLWR ac ABER. Ar hyn o bryd mae'n byw yn Nhremadog, Gwynedd.
| Cyfeiriad | Bodeilias, Pistyll, Pwllheli, LL53 6LW |
|---|---|
| Ffôn | 01758 720 447 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Ffrogiau Priodas Celtaidd
| Cyfeiriad | 154 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9NU |
|---|---|
| Ffôn | 07783120262 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Argraffir eitemau personol megis crysau T, mygiau, blychau gwin a llawer mwy. Gellir archebu newyddau wedu eu creu i chwi'n bersonol oddi ar y wefan neu mewn amryw o siopau Cymraeg lleol. Dechreuodd Dafydd Elgan Lake wethio i’r busnes teuluol Siop Eifionydd ym Mhorthmadog cyn sefydlu ei fusnes Lake Digital yn Ebrill 2008. Mae cwsmeriaid presennol yn cynnwys Clwb y Terfeliaid, Ysgol y Gorlan, Elusen ‘Action for Children’ a Gwesty Spa yn Barbados! Cyflenwir 14 o siopau ar hyd a lled Cymru.
Lleoliad Gwerthu: Siop Eifionyddd, Porthmadog , 8.00yb-5.00yp. Siop Eluned, Pwllheli. Bys a Bawd, Llanrwst. Siop Elfair, Rhuthin. Oriel Plas Glyn y Weddw.
| Cyfeiriad | Gilfach Wen, Bronaber, Trawsfynydd, LL41 4UY |
|---|---|
| Ffôn | 01766 540 237 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Artist serameg yn gwethio'n bennaf a phorslen gan wneud defnydd cyfoes o dechnegau traddodiadol. Mae ei gwaith yn cynnwys powlenni, llestri, gemwaith a mobiliau clychsain.
| Cyfeiriad | Bear Print, 118 Stryd Fawr, Porthmadog, LL49 9NW |
|---|---|
| Ffôn | 01766 884669 |
Lizzie yw perchennog y cwmni Tailored Teddies sy'n creu tedis amrywiol ar gyfer cwsmeriaid ar hyd a lled y wlad. Mae'r tedis yma'n cael eu gwerthu yn y Galeri yng Nghriccieth hefyd ac mae Lizzie'n creu tedis penodol ar gyfer achlysuron arbennig yn ôl y galw gan ddefnyddio tua 300 darn o "mohair". Mae angen 15-20 awr i greu un tedi. Mae gan Lizzie gwmni argraffu masnachol yn Ystad Ddiwydiannol Porthmadog hefyd a gall ei chwsmeriaid lungopїo a chreu cardiau busnes personol yng nghefn y siop deganau ar y Stryd Fawr. Mae gan Lizzie ystafell uwchben y siop lle mae'n creu'r tedis a Shân sy'n cael cwrdd â'r tedis i gyd ac eisiau mynd ag un ffrind newydd arbennig iawn adref gyda hi!
| Cyfeiriad | Wrysgan Fawr, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, LL41 3BS |
|---|---|
| Ffôn | 01766 831460 |
Cynhyrchir crefftau amrywiol o lechi Cymreig. Defnyddir llechen las Ffestiniog rhan amlaf ond weithiau defnyddir lechen werdd neu lechen biws Dyffryn Nantlle. Cynhyrchir arwyddion, potiau blodau, matiau bwrdd, matiau diod, byrddau caws, raciau gwin, bowlenni, cerrig beddi cwn a derbynir ceisiadau ar gyfer gwneud anrhegion personnol.
Bu Alan D Hicks yn gweithio yn yn chwarlei Blaenau Ffestiniog ers 1970. Dechreuodd fel prentis rybelwr yn Llechwedd cyn symud ymlaen i weithio yn Gloddfa Ganol hyd at blwyddyn 2000. Hefyd, bu ei wraig Ianto yn gweithio gyda chrefftau yn chwarel Gloddfa am tua 5 mlynedd sydd wedi bod o fudd i sefydlu’r busnes. Cychwynodd busnes Llechen Las yn 2003.
Lleoliadau Gwerthu: Pwlldefaid, Pwllheli. Tonnau, Pwllheli. Gray Thomas, Caernarfon. Celtica, Caernarfon. Anna Davies, Betws-y-coed. Galeri, Betws-y-coed. Crib Goch, Llanberis. Siop Elfair, Ruthin. Siop Dot’s, Aberystwyth.
| Cyfeiriad | Uned 5 , Canolfan Grefftau , Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 618 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Crefftwyr lledr addurnol a traddodiadol gan gynnwys clociau, barometers, bagiau, beltiau, hetiau, pyrsiau, waledau a llyfrnodau.
Lleoliad Gwerthu: Gweithdai Crefft Corris, Ar agor yn ddyddiol 10y.b. - 5y.p.
| Cyfeiriad | Gorwel, Llanegryn, Tywyn, LL36 9SG |
|---|---|
| Ffôn | 01654 710 971 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gweithiau ffigurol ar bapur a chynfas. Comisiynau ar gyfr portreadau.
| Cyfeiriad | Tri Brynwcws, Llanaber, Bermo, LL42 1RR |
|---|---|
| Ffôn | 01341 280 691 |
Tirluniau mynegiadol mewn amrywiaeth o gyfryngau.
| Cyfeiriad | Cysgod y Coed, Llanfor, Bala, LL23 7DU |
|---|---|
| Ffôn | 01678 520 036 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Rwyf wedi byw yng Ngogledd Cymru ers fy mhlentyndod, a symudais i’r Bala wyth mlynedd ar hugain yn ôl. Fy ysbrydoliaeth yw prydferthwch naturiol rhyfeddol Parc Cenedlaethol Eryri. Rwyf wastad wedi mwynhau bod yn greadigol a thros y blynyddoedd gweithiais yn bennaf drwy gyfrwng dyfrliw. Yn ddiweddar rwyf wedi ymddiddori’n arw mewn lliw, gwead a phatrymau a thrwy hyn wedi troi at waith celf cwyr.
| Cyfeiriad | Ty Bach Glas, Rhoshirwaun, Pwllheli, LL53 8HN |
|---|---|
| Ffôn | 07919 952 356 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Yn ogystal a gwaith celf cain gwreiddiol, cynllunir a chynhyrchir a llaw nifer cyfyngedig o garpedi a llenni, dilladau, clogenni, cardiau cyfarch a phapur 'sgwennu personol.
| Cyfeiriad | |
|---|---|
| Ffôn | 07768 862 596 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Mynyddoedd Creadigol yn cynhyrchu modelau cyfuchlinedd 3D wrth raddfa o gadwyni o fynyddoedd sy'n unigryw ac yn syfrdanol. Dechreuodd Paul y busnes yn 1992 yn dilyn gyrfa yn y fyddin. Dechreuodd fynydda a thra'n darllen map dechreuodd gael syniad i greu modelau o'r mynyddoedd. Ymchwiliodd y farchnad a sylweddoli nad oedd modelau ar gael. Cydweithiodd gyda OS a chael trwydded i ddechrau ar y grefft. Wedi'u gorffen a llaw mewn amrywiaeth o fetalau deniadol gan gynnwys efydd castiad oer ac arian nicel, modelau Mynyddoedd Creadigol yw'r anrheg personol neu gorfforaethol delfrydol.
Lleoliadau Gwerthu: Amgueddfa Llanberis, Anna Davies Betws-y-Coed, Oriel Glyn y Weddw, Oriel Ynys Môn, Gray Thomas Caernarfon, Celtica Caernarfon, Conwy Outdoor, Parc Glynllifon.
| Cyfeiriad | Bangor |
|---|---|
| Ffôn | 01248 372 797 |
Paentiadau, printiau a chardiau gwreiddiol
| Cyfeiriad | Y Berllan , Lon Isaf, Morfa Nefyn, LL53 6BW |
|---|---|
| Ffôn | 07919621823 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Casgliad o luniau yn arddangos wynebau pobl leol.
| Cyfeiriad | Stryd Yr Wyddfa, Penygroes, LL54 6NG |
|---|---|
| Ffôn | 01286 882 056 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Croeso i Oriel Llun Mewn Ffrâm. 'Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau fframio o’n safle ym Mhenygroes. Dewch i’n gweld ni – galwch draw am baned a sgwrs, bydd croeso cynnes i bawb!
Rhan o gwmni recordiau Sain yn Llandwrog oedd Llun Mewn Ffrâm ar y cychwyn a bum yn gweithio i’r cwmni am 6 mlynedd yn fframio caneuon, cerddi, penillion a disgiau aur. Yn 2004 fe brynais y busnes gan Sain ac agor gweithdy fframio yn Hen Gapel Salem, Talysarn. Mae Llun Mewn Ffrâm bellach wedi symud i Stryd yr Wyddfa ym Mhenygroes ac erbyn hyn mae Oriel ynghlwm â’r gweithdy fframio. Agorwyd yr Oriel a’r gweithdy newydd yn swyddogol ym mis Mawrth 2009 gan ein Gweinidog Treftadaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol, Mr Alun Ffred Jones.
| Cyfeiriad | Uned 4, Y Barics, Nantlle, LL54 6BD |
|---|---|
| Ffôn | 01286 881 787 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae cwmni Peris a Corr, yn fusnes argraffu â llaw a thecstilau ecogyfeillgar yn Eryri. Maent wedi ymrwymo i redeg busnes ecogyfeillgar a chlir ei gydwybod. Maent yn gweithio’n barhaus i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Maent yn cynnig gwasanaeth argraffu â sgrîn ag inciau dwr, argraffu ar grysau T, bagiau cynfas a chreu amrywiaeth o decstilau a chardiau cyfarch â llaw.
Mae’r cwmni’n cael ei redeg gan Dyfrig Peris a Jennie Corr. Cyfarfododd y ddau yn ystod eu gradd ym Mhrifysgol Cheltenham. Ar ôl teithio De America a byw yn Manceinion am gyfnod penderfynwyd dechrau busens yn Nantlle ym Medi 2008.
Lleoliadau Gwerthu:www.perisandcorr.com www.adrahome.com Galeri, Betws-y-coed. Lotti & Wren, Caernarfon.
| Cyfeiriad | Pencaenewydd, Pwllheli, LL53 6RF |
|---|---|
| Ffôn | 01766819014 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Yn dilyn cwblhau gradd mewn Meddyginiaeth Perlysieuol ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd yn 2004, sefydlodd Lee Calderwood a’i wraig Ellie fusnes Perlysiau Llŷn i gynhyrchu perlysiau ar gyfer meddyginiaeth a nwyddau o ansawdd o dan yr enw “Petha’ Pur” yn un o adeiladau’r fferm. Cynhyrchir y nwyddau â llaw, ac mae’r sebonau, hufennau a chynnyrch perlysiau'n cael eu creu er llês iechyd, i edrych yn dda a theimlo’n wych.
Lleoliadau Gwerthu: Ac Albert, Bethesda Clinig Harbourside, Porthmadog Amgueddfa Lechi, Llanberis Oriel Plas Glyn y Weddw, Pwllheli Oriel Tonnau, Pwllheli Parc Glynllifon, Llanwnda . " www.llynherbs.co.uk gwerthu@llynherbs.co.uk
| Cyfeiriad | Pen-Y-Gongl Cottage, Mynytho, Pwllheli, LL53 7RR |
|---|---|
| Ffôn | 01758 740023 |
Serameg
| Cyfeiriad | Bryn Hyfryd, Seion, Caernarfon, LL55 3AF |
|---|---|
| Ffôn | 01248 371 116 |
Dysgodd fod yn artist, cynllunydd a gweithiwr metal o'u pen a'u pastwn ei hun gan ganolbwyntio'n bennaf ar gerflunwaith dur ac archebion penodol. Mae hefyd wedi arddangos lluniau a gwaith aml-gyfryngol. Croesawir ymweliadau, wedi'u trefnu o flaen llaw.
| Cyfeiriad | Stryd yr Wyddfa, Porthmadog, LL49 9BT |
|---|---|
| Ffôn | 01766 513 833 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Wedi ei sefydlu yn 1986, oriel sy'n cael ei redeg gan arlunydd yw Oriel Rob Piercy, a saif yng nghanol tref Porthmadog. Lleolir y bedair ystafell arddangos o amgylch cwrt tawel. Addaswyd yr oriel o hen warws y Bwrdd Dŵr yn 1986. Mae'r oriel yn arddangos casgliad helaeth o ddyfrliwiau Rob Piercy yn ogystal a detholiad o brintiau cyfyngedig, argraffiadau agored a chardiau cyfarchion o'r ardal. Mae yma gasgliad unigryw o waith crefft a gemwaith hefyd. Mae Rob Piercy, sy'n aelod o Academi Frenhinol Cambria a Chymdeithas Dyfrlliw Cymru, wedi bod yn peintio tirluniau yn broffesiynol ers yr wythdegau cynnar. Fe'i hyfforddwyd fel athro arlunio a bu'n dysgu tan 1989 pan adawodd i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar ei beintio. Yn aelod o Glwb Alpaidd Prydain, mae Rob hefyd yn fynyddwr profiadol sydd wedi dringo a cherdded mynyddoedd ledled Ewrop. Yn naturiol, ei hoff destun peintio yw'r mynyddoedd. Mae'n cael ei gydnabod bellach fel un o brif arlunwyr mynydd Prydain, a gwelir ei waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus trwy'r byd. Mae wedi arddangos ei waith mewn nifer o brif gystadlaethau Prydain, yn bennaf Cystadleuaeth Dyfrlliw Singer and Friedlander / Sunday Times, lle derbyniwyd ei waith i'w arddangos bob blwyddyn ers 1997. Yn 2002 cafodd y fraint o fod yn Arlunydd Cymreig y Flwyddyn ac yn 2000 fe'i dewiswyd i fod ar restr fer Gwobr Gelf Garrick Milne. Shân sy'n cael mynediad egscliwsif i stiwdio Rob Piercy i ddysgu mwy am ei hanes a'i grefft.
| Cyfeiriad | Berllan Gron, Llanycil, Bala, LL23 7YG |
|---|---|
| Ffôn | 01678 521 348 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae gan Rowenna flynyddoed o brofiad o weithio yn y gymuned ac yn credu bod rhannu sgiliau yn ran hanfodol o gymdeithas ac yn anog ein cwsmeriaid i enhangu eu archwiliad mewn celf, yr amgylchfyd a garddio organig.
Mae’r mwynhad o redeg digwyddiadau i drosglwyddo sgiliau sylfaenol i ysbrydoli cwsmeriaid i ehangu eu profiadau gwaith celf, eu bywydau a’u amgylchfyd yn hanfodol i’r cwmni.
| Cyfeiriad | Fflat 62 Stryd Fawr, Pwllheli, LL53 5RR |
|---|---|
| Ffôn | 07528 542 740 |
Peintiad acrylic ar ganfas. Peintiad gwead deiniadol wedi’i seilio ar blanhigion a ffurf naturiol
| Cyfeiriad | Wendon, Pen y Garth, Caernarfon, LL55 1EY |
|---|---|
| Ffôn | |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Tecstiliau
| Cyfeiriad | Llandwrog, Caernarfon |
|---|---|
| Ffôn | 01286 831 439 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Cefais yr ysfa i ddechrau’r busnes tra ar gyfnod mamolaeth o fy swydd fel athrawes. Fel mam i dri o blant bach, teimlais fod arna’ i angen gwneud rhywbeth oedd yn asio’n dda â bywyd teulu. Y dechreuad oedd gwneud anrhegion ‘personol’ yn cynnwys bocs cofrodd, llyfr lloffion, albwm lluniau a blanced babi – yn bennaf ar gyfer teulu a ffrindiau.
Gan i’r rhain fod mor boblogaidd, penderfynais fynd ati i sefydlu fy musnes fy hun.
Anrhegion unigryw wedi eu personoli. Rhywbeth ar gyfer pawb – babi newydd, bedydd, plant ifanc, mam, dad, nain neu taid. Defnyddir croes-bwyth i addurno bocsys cofrodd, albwm lluniau, blancedi a llyfrau lloffion.
Lleoliadau gwerthu: sionedhywel.co.uk, Oriel Mon, Oriel Glynllifon, adrahome.com.
| Cyfeiriad | 71 Stryd Fawr, Bala, Gwynedd, LL23 7AE |
|---|---|
| Ffôn | 01678 521800 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Ria yn rhedeg siop ei hun ar brif stryd Y Bala, yn gwerthu pob math o drugareddau o emwaith i fframiau i'r cardiau mae Ria yn eu creu gyda llaw yn ei gweithdy bach y tu cefn i'r siop, sydd yn enwog ar hyd y fro. Mae Ria'n ferch leol i ardal Y Bala a theimlodd dynfa i ddychwelyd i'w gwreiddiau ar ôl cyfnod i ffwrdd yn y coleg.
| Cyfeiriad | Gweithdy Pentre Bach, Heol Idris, Bermo, LL42 1HU |
|---|---|
| Ffôn | 01341 280 848 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Slatetech yn gwmni arloesol sydd wedi ei leoli yn Abermaw, Gogledd Cymru. Mae ei dull unigryw o gynhyrchu dodrefn yn cynnwys proses dan batent o enosod llechi o Gymru mewn pren ar sawl patrwm gwahanol. Mae hyn yn arwain at ddarnau trawiadol, pwrpasol o ddodrefn sydd wir yn ysgogi ysbryd Cymru a’i hadnoddau naturiol. Boed yn draddodiadol neu’n gyfoes, mae Slatetech yn darparu ar gyfer pob chwaeth.
Lleoliadau Gwerthu: Gweithdy Pentre Bach, Heol Idris, Abermaw ( 01341 280 848).
| Cyfeiriad | Ty'n Llan, Llanelltyd, Dolgellau, LL40 2SU |
|---|---|
| Ffôn | 01341 423 537 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Artisit haniaethol gan gyfleu bywyd a thirwedd yn y lluniau, brasluniau a chynlluniau. Mae croeso i ymwelwyr alw i weld y brasluniau a dilyn y broses sy'n arwein at y gweith celf gorffenedig.
| Cyfeiriad | Uned 4 , Canolfan Grefftau, Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 777 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gemwyr annibynnol sy'n gallu cynnig gwasanaethau llawn, gwerthu, fitiadau a gwasanaeth atgyweirio. Rydym bob amser yn hapus i chi ymweld â ni lle gallwch edrych o gwmpas a siaradwch â'r gof aur.
| Cyfeiriad | Uned 6 , Canolfan Grefftau , Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 489 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae'r mrywiaeth eang yma o ganhwyllau yn cael eu cerfio â llaw, yn y Candle Studio. Cynnigir ystod gwahanol o aroglau a chynlluniau gan Kym Francis wedi iddi ddysgu'r grefft iddi hi ei hun.
Lleoliadau Gwerthu: Gweithdai Crefft Corris. Ar agor yn ddyddiol 10y.b. - 5y.p.
| Cyfeiriad | Gwynt y Mor, 1a Bro Cymerau, Pwllheli, LL53 5PY |
|---|---|
| Ffôn | 01758 613 495 |
Arlunydd sy'n defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau a chyfryngau, wedi'w selio ar ffurfiau naturiol ac agweddau ar lenyddiaeth Cymru a De Affrica. Croesawir ymwelwyr i'r stiwdio gyda threfniant o flaen llaw.
| Cyfeiriad | Uned 10 , Canolfan Grefftau , Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 614 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Ysbrydolir y busnes teuluol bychain hwn gan natur ac maent yn arbenigo mewn gwneud dodrefn unigryw â llaw gan effeithio cyn lleied a phosib ar yr amgylchedd. Eitemau'n cynnwys byrddau, cadeiriau, byrddau coffi, silfoedd llyfrau, gwelyau a llawer mwy.
Lleoliadau Gwerthu: Gweithdai Crefft Corris, ar agor yn ddyddiol 10y.b. - 5y.p.
| Cyfeiriad | Uned 2 , Canolfan Grefftau , Corris, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 234 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Tawny Owl yn creu teganau pren traddodiadol di-fatri o ansawdd uchel. Darganfyddwch lu o raffau sgipio, blociau adeiladu, tŷ dol ac amryw o deganau neu anrhegion wedi'u gwneuthur o bren.
Lleoliad Gwerthu: Gweithdai Crefft Corris ar agor yn ddyddiol 10:00yb - 5:00yh.
| Cyfeiriad | Uned 4 Antur Aberuchaf, Lon Garmon, Abersoch, LL53 7UG |
|---|---|
| Ffôn | 01758 713 307 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae gennym ystod eang o argraffiadau cyfyngedig pastel a dyfrlliw wedi eu llofnodi.
| Cyfeiriad | Uned 2, Tan-Y-Castell Business Park, Harlech, LL46 2UE |
|---|---|
| Ffôn | 01766 781 234 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Wedi’i gwneud o ddeunyddiau naturiol cynaliadwy, sy'n addas i'r peiriant golchi. Cynhyrchir mewn steil maharen neu ddafad. Mae’r ddafad siglo yn ddewis amgen gwlanog i’r ceffyl siglo. Simon Wolfers a gafodd y syniad o greu dafad siglo pan oedd yn byw yn Rhydymain, y Bala a gwelodd ddefaid yn pori yn y caeau o’i ffenestr. Yma gwelodd yr opsiwn i greu dafad siglo yn hytrach na cheffyl yn 1992. Symudodd i fyw i’r Bermo ac yna i Llanbedr ac mae ei fusnes wedi ei leoli yn Harlech ers 2003.
Lleoliadau Gwerthu: www.therockingsheepcompany.co.uk Babi Pur, Bank Place, Porthmadog.
| Cyfeiriad | Uned 11 Canolfan Grefftau Corris, Corris, Machynlleth, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761 333 |
Ystod unigryw o eitemau wedi'u gwneud â llaw, gan ddefnyddio pren o goedwigoedd cynaladwy Cymru. Nid oes dim yn cael ei fasgynhyrchu, mae'r eintemau'n cynnwys byrddau caws, lampau, drychau, stolion, llwyau caru a llawer mwy.
Lleoliadau gwerthu: Gweithdai Crefft Corris, Corris ger Machynlleth ar agor yn ddyddiol 10y.b. - 5y.p.
| Cyfeiriad | Adwy Ddu Isaf, Stryd y Castell, Penrhyndeudraeth, LL48 6AL |
|---|---|
| Ffôn | 01766 771 172 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Ei dwylo sy'n gwneud y gwaith drwy rwygo papur clai i greu ffurfiau dynol. Mae'n broses greadigol ddigymell ac mae'n gallu ymateb i'r clai ac mae'r clai'n ymateb iddi hithau.
| Cyfeiriad | Pen-yr-Allt, Fachwen, Caernarfon, LL55 3HA |
|---|---|
| Ffôn | 01286 872 367 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Bu'n creu tlysau arian yn ei gweithdy yn eryri ers 1975. Mae'r tlysau yn cynnwys mwclis, breichledi, clustdlysau, dolennau llewys a modrwyau - pob un wedi'i gynllunio ar wahan on y gellir eu cyfuno'n set.
Lleoliadau Gwerthu: Oriel Ynys Mon, Llangefni, Ynys Môn. Cole & co, Beaumaris, Ynys Môn. Galeri, Betws-y-coed. Castell Bodelwyddan, Clwyd. Rhiannon,Tregaron.
| Cyfeiriad | Uned 6 Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, LL54 5DY |
|---|---|
| Ffôn | 07881 806 960 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Tom yn creu corchenwaith o'i weithdy ym Mharc Glynllifon. Yn wreiddiol o Birmingham, mae wedi dysgu Cymraeg ac wedi bod yn byw i mewn ac allan o Gymru ers ei blentyndod. Astudiodd gwrs 'Applied Arts' ym Mhrifysgol Derby am dair blynedd, gan weithio ar waith coed, metel, castio metel, gwydr, gwaith print, gwaith dylunio cyfrifiadurol ac arbenigo mewn crochenwaith yn ei flwyddyn olaf. Mae cyfuno'r ystod eang yma o feysydd wedi rhoi dealltwriaeth eang iddo o wahanol ddeunyddiau a thechnegau. Erbyn hyn mae Tom yn enwog am ei grochenwaith yma yng Nghymru a thu hwnt, ac yn gwerthu ei waith ar y we ac o'i weithdy.
| Cyfeiriad | Fronwydd, Rhydymain, Dolgellau, LL40 2AY |
|---|---|
| Ffôn | 01341 450 324 |
Peintiwr portreadau a ffigurol. Mae fy stiwdio ar agor ar gyfer ymweliadau drwy drefniant.
| Cyfeiriad | Gweithdy Clocsiau / The Clog Workshop, Heol Henbont, Cricieth, LL52 0DG |
|---|---|
| Ffôn | 01766 523695 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gwneir clocsiau amrywiol ar gyfer dawns, gweithio a hamdden. Mae gwasanaeth adnewyddu a thrwsio hefyd ar gael. Trefor Owen yw’r gwneithurwr olaf proffesiynol llawn amser sy'n gwneud clocsiau traddodiadol yng Nghymru gyda llaw.
Dechreuodd Trefor Owen ei yrfa fel Athro ac yna Swyddog Prawf / Gweithiwr Cymdeithasol. Mae ganddo ddiddordeb mewn dawns draddodiadol erioed, ers oedd yn 6 oed. Gwnaeth waith ymchwil i glocsiau yn nghanol y 1970au a sylwi mai mas gynhyrchu oedd ar gael. Dechreuodd wneud clocsiau fel diddordeb i ddechrau hyd nes iddo dderbyn archebion. Wedi hyn sefydlwyd y busnes yn 1978 yn Swydd Efrog i ddechrau cyn symud i Gricieth.
Lleoliad Gwerhu: Yn uniongyrchol o’r gweithdy clocsiau, Cricieth. Archebion post. Sioeau amrywiol.
| Cyfeiriad | Isfryn, Penybryn Terrace, Dolgellau, LL38 2NZ |
|---|---|
| Ffôn | 01341 250 017 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Lluniau manwl, mewn gouche a dyfrlliw, sy'n cyfleu goleuni'n adlewyrchu ar ddwr, ar greigiau a thrwy ganghennau'r coed. Mae golygfeydd Valerie'n nodweddiadol Gymreig gyda'r duedd o ddehongli awyrgylch yn fwy na lleoliad penodol.
| Cyfeiriad | 42 Newton Street, Llanberis, LL55 4HN |
|---|---|
| Ffôn | 07747 634 886 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Ffotograffydd creadigol ac arbrofol.
| Cyfeiriad | Uned 5 Antur Aberuchaf, Lon Garmon, Abersoch, LL53 7UG |
|---|---|
| Ffôn | 01758 712161 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Yma yn Wildwood Designs rydym wedi bod yn gweithgynhyrchu dodrefn pwrpasol brydferth am dros dair blynedd ar ddeg. Rydym yn awyddus i weithio gyda'r nodweddion unigryw pren naturiol, yn enwedig derw.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau