| Cyfeiriad | 4 Crosby Buildings, Eldon Square, Dolgellau, LL40 1PS |
|---|---|
| Ffôn | 01341 422195 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Wedi’i lleoli yng nghanol tref Dolgellau, Cader Idris Outdoor Gear yw’r siop awyr agored allweddol yn ne Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r siop mewn lleoliad da rhwng tri mynydd, Cader Idris, Cromen Harlech a’r Aran.Agorwyd y siop am y tro cyntaf yn 1990 ond fe’i prynwyd gan berchnogion newydd yn fuan yn 2003 a pharhaodd i esblygu er mwyn diwallu gofynion y rhai sy’n frwd ynghylch awyr agored yn y rhanbarth. Os mai crwydro, dringo, gwersylla neu ddim ond mwynhau’r awyr agored sy’n mynd â’ch bryd, yna mae gan Cader Idris Outdoor Gear rywbeth at chwaeth ac anghenion pawb. Ceir amrywiaeth cynhwysfawr o frandiau modern yn y siop, mwy na 60 steil o esgidiau cerdded ac esgidiau eraill, amrywiaeth o ddillad dal dŵr yn addas i unrhyw gyllideb, dillad ar gyfer cerdded, teithio neu fyw a phob math o nwyddau ac ategolion eraill ar gyfer yr awyr agored.
| Cyfeiriad | 58 High Street, Llanberis, Caernarfon, LL55 4EU |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870777 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Siop awyr agored dda wrth droed yr Wyddfa’n gwerthu dillad awyr agored, esgidiau cerdded ac offer gwersylla. Yn arbenigo mewn brandiau o safon am brisiau rhesymol, yn cynnwys Icepeak, Trekmates, Keela, Craghoppers, Gelert, Dare2B a Regatta.
| Cyfeiriad | Menai Hall, High Street, Llanberis, Caernarfon, LL55 4HA |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870327 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Siop Joe Brown yw un o’r siopau awyr agored hynaf yn yr ardal. Yn 1966, agorodd Joe y siop yn Llanberis gyda’i wraig Val ac yn fuan iawn sicrhaodd enw da iddi’i hun fel un o’r siopau gorau yn y DG yn arbenigo mewn offer dringo ac awyr agored. Roedd Joe Brown, sy’n dal i fyw yn Llanberis, yn cael ei ystyried fel dringwr creigiau a mynyddwr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth, ac efallai mai ef yw’r mynyddwr gorau a fu erioed o ystyried pob elfen. Y dyddiau hyn, mae’r siop yn fwrlwm o fywyd yng nghanol y pentref ac mae’n ymfalchïo mewn darparu cyngor gonest a phersonol, yn ogystal ag amrywiaeth rhagorol o offer mynydda, dringo creigiau, dringo iâ, teithiau a dringo alpaidd. Mae hefyd yn cadw amrywiaeth rhagorol o esgidiau rhedeg mynyddoedd.
| Cyfeiriad | The Old Baptist Chapel, High Street, Llanberis, Caernarfon, LL55 4EN |
|---|---|
| Ffôn | 01286 871534 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae gan V12 Outdoor enw da fel un o’r siopau awyr agored technegol gorau yn y DG. Mae’n eiddo i ac yn cael ei rheoli gan griw o ddringwyr lleol a phobl sy’n frwd ynghylch yr awyr agored. Daethant i reoli’r busnes yn 2003. Mae’r siop yn cadw amrywiaeth gwych o offer technegol (yn cynnwys amrywiaeth helaeth o gynhyrchion gan y gwneuthurwr offer o Lanberis, DMM), yr amrywiaeth ehangaf o esgidiau creigiau yn y DG (mwy na 50!), a’r holl offer dringo diweddaraf i ddynion a merched. Ceir hefyd storfa Mammut yn y siop, yn gwerthu amrywiaeth eang o ddillad ac offer gan y brand awyr agored safonol o’r Swisdir.
Wedi’i lleoli ym mhentref dringo byd enwog Llanberis, mae gan V12 Outdoor gysylltiadau cryf â’r byd dringo yng Ngogledd Cymru; mae’r Cyfarwyddwr, Simon Panton, hefyd yn rhedeg y cwmni cynhyrchu llyfrau tywys, Ground Up (groundupclimbing.com) ac mae’n olygydd ar wefan northwalesbouldering.com. Mae’r caffi yn y siop (sydd, fel mae’n digwydd, yn gwerthu coffi ffres o’r safon uchaf a chacennau cartref hyfryd) hefyd yn boblogaidd fel man cyfarfod i ddringwyr cyn cychwyn ar eu hantur.
| Cyfeiriad | 71, High Street, Bangor, LL57 1NR |
|---|---|
| Ffôn | 01248 352710 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Lleolir Great Arete ar y Stryd Fawr ac mae’n agos at yr orsaf drenau yng nghanol tref brifysgol brysur Bangor. Mae’r siop yn arbenigo mewn offer chwaraeon mynydd ac mae wedi bod yn gweithredu o ardal yr Wyddfa ers dros 20 mlynedd. Mae’r staff i gyd yn bobl frwd iawn ynghylch yr awyr agored, gyda gwybodaeth leol dda ac arbenigedd technegol. Mae’r siop yn cadw amrywiaeth dethol o frandiau awyr agored o’r safon uchaf sy’n gysylltiedig â cherdded a dringo. Waeth beth rydych yn chwilio amdano, boed yn esgidiau cerdded, esgidiau eraill, dillad cerdded, dillad dal dŵr, bagiau cefn, offer dringo a diogelwch, rhaffau, ategolion, sbectol haul, tortsys pen, canllaw-lyfrau a dvds etc., mae digonedd ar gael yma. Ceir hefyd wasanaeth cwyro ac atgywieirio byrddau sgïo ac eirafyrddio yn y siop, a detholiad eang o sgis ail law.
| Cyfeiriad | Beddgelert, Caernarfon, LL55 4UY |
|---|---|
| Ffôn | 01766 890416 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Saif siop Y Warws ar gyrion pentref hardd Beddgelert, yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Yn arbenigo ar bob agwedd ar yr awyr agored, mae’n darparu ar gyfer pawb, o deuluoedd yn gwersylla i’r bobl frwd a mentrus yn yr awyr agored, ac mae cynhyrchion y siop yn adlewyrchu’r ethos yma. Mae Y Warws yn enwog am werthu amrywiaeth eang o gynhyrchion gan y gwneuthurwr offer a dillad o Borthmadog, Gelert. Gallwch ddisgwyl amrywiaeth trawiadol o bebyll, systemau cysgu, bagiau cefn, dillad ac esgidiau yma, ar gyfer teuluoedd yn gwersylla a cherddwyr mynyddoedd. Yn fyr: cynnyrch technegol o safon am brisiau fforddiadwy. Hefyd darperir ar gyfer y cerddwr anturus gyda nifer o ddillad awyr agored ac esgidiau o bob math, yn cynnwys brandiau fel: Berghaus, Lowe Alpine, Mountain Equipment, Meindl, Zamberlan a Brasher.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau