| Cyfeiriad | Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT |
|---|---|
| Ffôn | 01248 353368 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Hon yw'r unig amgueddfa gyffredinol yng Ngwynedd. Mae dysgu am ffyrdd o fyw cenedlaethau y gorffennol yn ein galluogi i osod ein profiadau ni yng nghyswllt datblygiad stori. Mae'r ddealltwriaeth hon yn cyfoethogi ein bywydau. O pa ran o'r casgliadau mae eich hoff eitem yn dod? Bydd pob ymwelydd yn gadael gyda chof arbennig o hoff wrthych. Beth fydd eich atgof chi?
| Cyfeiriad | Parc Gwledig Padarn, Llanberis, Caernarfon, LL55 4TY |
|---|---|
| Ffôn | |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Roedd y gweithdai yn darparu ar gyfer yr holl waith atgyweirio, cynnal a chadw oedd yn ofynnol gan y chwarel, a fu unwaith yn cyflogi ymhell dros 3,000 o ddynion. O streic a dioddefaint i grefftwaith a chymuned, mae hwn yn gyfle unigryw i gael cipolwg ar fywyd y chwarelwyr llechi a'u teuluoedd. Mae’r atyniadau yn cynnwys ein ffilm drawiadol rhagarweiniol, I Ddwyn Mynydd, arddangosiadau hollti llechi ddyddiol gan grefftwyr chwarel a’n olwyn ddwr enfawr - y mwyaf o'i fath ar dir mawr Prydain. Cewch grwydro drwy Tai Chwarelwyr – a ail-godwyd garreg wrth garreg yn yr amgueddfa - a'i ddodrefnwyd i ddangos dyddiadau allweddol yn hanes y diwydiant llechi. Camwch yn ôl mewn amser yn y ffowndri neu ystafell fwyta’r gweithwyr neu pam na chewch eich stemio gan UNA - ein Locomotif Hunslett – a ddefnyddiwyd unwaith i gario rwbel yn y chwareli, ond yn awr – a hithau dros 100 oed – hi yw balchder a llawenydd yr Amgueddfa. Ewch yn ôl mewn amser yn Amgueddfa Lechi Cymru a datgelwch cyfrinachau llechi a'r bobl oedd yn ei gloddio. Wedi’i gysgodi gan fynyddoedd llechi anferth, mae'r Amgueddfa wedi ei gartrefi mewn Gweithdai Diwydiannol Fictoraidd a fu unwaith yn gwasanaethu a chynnal chwarel lechi enfawr Dinorwig uwch ei phen.
| Cyfeiriad | Llanystumdwy, Criccieth, LL52 0SH |
|---|---|
| Ffôn | 01766 522071 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
'Nod Amgueddfa Lloyd George a Highgate, cartref ei blentyndod yw dehongli bywyd ac amseroedd David Lloyd George 1863-1945 trwy gasglu, gofalu am ac arddangos eitemau sy'n gysylltiedig ac ef gan ddatblygu'r Amgueddfa a Highgate i fod yn ganolfan teilwng i goffau un o wladweinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif ac yn ganolbwynt gwybodaeth ac ymchwil i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r hyn a gyflawnodd ledled y byd.' Darganfyddwch fywyd ac amserau David Lloyd George yn yr Amgueddfa a Highgate. Roedd Lloyd George yn un o wladweinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif - cyflwynodd y pensiwn i'r henoed; arweiniodd y wlad fel Prif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf a rhoddodd y bleidlais i ferched - ond methodd a datrys y problemau yn Iwerddon. Yn yr Amgueddfa gwelir arddangosfa unigryw o greiriau, ffilm amdano, pen anhygoel sy'n siarad, ystafell ddosbarth Fictorianaidd, llyfrgell, pwynt mynediad i'r we a siop. Ail grëwyd Highgate fel ac yr oedd pan yr oedd Lloyd George yn byw yno yn 1864-1880 yn ogystal â'r gweithdy gwneud esgidiau ei ewythr Lloyd. Gellir hefyd fwynhau yr ardd bwthyn Fictorianaidd.
| Cyfeiriad | Llithfaen, Pwllheli, LL53 6PA |
|---|---|
| Ffôn | 01758 750334 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Awydd diwrnod allan arbennig neu wyliau byr ym Mhen-llŷn?
Ydych chi’n chwilio am leoliad heddychlon â golygfeydd godidiog?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn chwedlau cyfriniol o Gymru?
Beth am ymweld â hen bentref chwareli ithfaen Nant Gwrtheyrn, ble mae digonnedd i ddiddannu’r teulu cyfan:
• Camwch yn ôl mewn amser yn y tŷ cyfnod er mwyn darganfod sut fywyd oedd gan deulu chwarelyddol yn oes Fictoria
• Dilynwch hanes y Nant trwy amser yn ein Canolfan Dreftadaeth, yng Nghapel Seilo
• Dysgwch am chwedlau cyfriniol y Nant fel sarhad y Brenin Brythonig - Gwrtheyrn, tair melltith y Nant a stori rhamantus a thrasig Rhys a Meinir?
• Mwynhewch damaid i fwyta yn ein tŷ bwyta ar y safle, Caffi Meinir tra’n cadw llygad allan am yr amrywiaeth eang o greaduriaeth y byd natur sydd wedi ymgartrefu yn y dyffryn a’r moroedd cyfagos
I’r rhai ohonoch sy’n dymuno aros ychydig yn hirach:
• Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau preswyl i ddysgu Cymraeg
• Darperir llety i safon 4* gydag en suite yn hen fythynnod y chwarelwyr
• Mae’r pentref yn lleoliad trawiadol ar gyfer priodasau a chynadleddau
Edrychwn ymlaen at eich gweld cyn bo’ hir!
| Cyfeiriad | Tŷ Meirion, Sgwar Eldon, Dolgellau, LL40 1PU |
|---|---|
| Ffôn | 01341 424680 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Darganfyddwch hanes cymuned y Crynwyr a fu unwaith yn byw yma a'r erlidigaeth a orfododd nifer i ymfudo i Bennsyflania.
| Cyfeiriad | SY20 9AZ |
|---|---|
| Ffôn | 01654 705950 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) dros 7 acer o arddangosfeydd ymarferol a gerddi a dros 35 mlynedd o brofiad o arferion cynaliadwy, ac mae’n ysbrydoli miloedd o ymwelwyr yn flynyddol. Mae’r Ganolfan wedi’i lleoli yn harddwch Canolbarth Cymru, ac mae’n edrych i lawr ar Barc Cenedlaethol Eryri, sy’n enwog am ei olygfeydd syfrdanol a gweithgareddau awyr agored. Ymunwch â ni gyda’ch teulu a’ch ffrindiau neu ar eich pen eich hun, a darganfyddwch beth allwch chi ei wneud!
| Cyfeiriad | Caernarfon, LL55 2AY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 677617 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Bwriadai'r Brenin Edward I i'r castell fod yn gartref brenhinol a chanolfan llywodraeth yng ngogledd Cymru. Tair arddangosfa ar y safle, Amgueddfa Gatrodol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, arddangosfa glyweledol Yr Eryr a'r Ddraig. Safle Treftadaeth y Byd.
| Cyfeiriad | Llanberis, LL55 4TY |
|---|---|
| Ffôn | |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Comisiynodd Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) adeiladu Castell Dolbadarn rhyw dro cyn 1230. Lleolir y castell ar safle strategol ar domen uwchben Llyn Padarn yn Llanberis, ac oddi yma, gellid gwarchod Eryri gan unrhyw fygythiad o gyfeiriad Bwlch Peris. Roedd y ffordd drwy Fwlch Peris yn brif heol drwy Gymru, ac felly roedd safle Castell Dolbadarn yn galluogi’r Tywysogion i reoli a goruwchwylio symudiadau trwy ogledd Cymru gyfan.
| Cyfeiriad | Castle Square, Harlech, 01766 780552 |
|---|---|
| Ffôn | 01766 780552 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae gan Gastell Harlech hanes cyffrous ac ymladdwyd sawl brwydr yno. Fe'i hadeiladwyd gan y Brenin Edward I o Loegr fel rhan o'i gylch o gestyll cryf yng ngogledd Cymru, oll o fewn pellter cerdded diwrnod i'w gilydd ac yn gallu cael cyflenwadau o'r môr. Meistr Iago o San Siors, Meistr Gwaith y Brenin yng Nghymru, oedd yn gyfrifol am adeiladu'r castell. Dechreuodd y gwaith yn ystod gwanwyn 1283 a chwblhawyd y castell erbyn diwedd 1289. Yn 1290, fel gwobr am ei wasanaethau, penodwyd Meistr Iago yn gwnstabl y castell a bu'n byw yno tra'n gweithio i'r brenin.
| Cyfeiriad | Castell Penrhyn Castle, Bangor, LL57 4HN |
|---|---|
| Ffôn | 01248 353084 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Adeiladwyd y castell 19fed ganrif neo-Normanaidd ar ffortiwn y teulu Pennant a gwneud o siwgr, caethweision a llechi.
Yn llawn dop o greiriau, mae’r ty moethus yn peintio darlun addurnedig o gyfoeth Fictoraidd, tra bod y ceginau Fictoraidd yn cynnig cipolwg ar fywyd o dan y grisiau yn ystod y cyfnod.
Gyda golygfeydd ysblennydd dros Eryri a'r Afon Menai, mae’r gerddi hudolus yn hyfrydwch i’r hen ac ifanc gyda pharcdir sydd yn hafan i fywyd gwyllt, casgliad egsotig o goed a phrysgwydd yn ogystal â gardd furiog ffurfiol trawiadol.
| Cyfeiriad | Blaenau Ffestiniog, LL41 3NB |
|---|---|
| Ffôn | 01766 830306 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Ceudyllau Llechwedd yn cynnig dewis o ddau reid ysblennydd i fewn i chwareli enfawr Blaenau Ffestiniog. Teithiwch ar Daith Tramffordd y Chwarelwyr mewn cerbydau sy’n cael eu tynnu gan locomotif batri i mewn i rwydwaith o geudyllau tanddaearol o waith dyn. Mae hon yn daith dywys ac mewn mannau amrywiol byddwch ar dân i ddysgu am y sgiliau sydd eu hangen i dynnu llechi – wedi’i lleoli’n gyfleus rhwng haenau o wenithfaen fel gornfaen, sy'n rhoi nerth i 16 llawr y chwarel. Neu disgynnwch i mewn i'r Chwarel Dwfn am dro 25 munud drwy deg dilyniannau sain a golau trwy siambrau dan y ddaear. Cwrddwch â 'Sion Dolgarregddu', y chwarelwr deuddeg oed a fydd yn eich tywys trwy'r bywyd cymdeithasol cymuned y chwarelwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
| Cyfeiriad | Ysgubor Isaf, Lon y Cariadon , Y Bala , LL23 7NW |
|---|---|
| Ffôn | 01678 520920 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Canolfan Bywyd Gwledig Newydd Y Bala, Gogledd Cymru.
Mae Cywain yn darparu gwledd o arddangosfeydd dan do ac awyr agored sy'n dathlu sgiliau gwledig. Mae gan Cywain galendr lliwgar o berfformiadau, sioeau a gwyliau, ynghyd ag arddangosfa o weithiau rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru.
| Cyfeiriad | Y Felinheli, Y Felinheli, Bangor, LL56 4QN |
|---|---|
| Ffôn | 01248 671493 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
O gaws llyffant enfawr i glustogau mawr bowndiog, mae Gelli Gyffwrdd yn atyniad teuluol llawn o ryfeddodau eco. Dilynwch y llwybrau deiliog i ddarganfod reidiau a gweithgareddau gyda gwahaniaeth - CHI sy’n darparu’r ynni! Neidiwch ar y rollercoaster cyntaf yn y byd i’w bweru gan bobl a gwibiwch lawr rhediad sled hiraf Cymru. Gwnewch eich traed yn hapus ar Lwybr Troednoeth cyntaf Cymru a neidiwch ar fwrdd am antur Cychod Jwngl. Concrwch Drysfa y Crocodil, archwiliwch Tyrau Pencoed ac adeiladwch caer goedwig yn Codi Cuddfan. Newydd ar gyfer plant bach yw Chwaraefan y FforestFechan, paradwys chwarae meddal ar gyfer plant bach a babanod sy’n cropian. Yn arbennig yn ystod y tymor gwyliau, eisteddwch yn yr awyr agored yn Theatr y Goedwig a mwynhewch adloniant wefreiddiol gan ddewiniaid a môr-ladron. Dewch o hyd i amrywiaeth o grefftau i gadw dwylo bach yn brysur: gwneud Rygiau Rag, Masgiau Hyll neu Blodau Sipsiwn - a gwyliwch ein Artist Pyro wrth ei waith. Dewch o hyd i’ch talent cudd wrth Ddawnsio Bedwen Fai neu droi tric neu ddau yn y gweithdy Sgiliau Syrcas. Beth bynnag bo’r tywydd, mae taith i Gelli Gyffwrdd yn sicrhau gwên mawr ar wynebau geiswyr hwyl o bob oed!
| Cyfeiriad | Groeslon, Caernarfon, LL54 7UE |
|---|---|
| Ffôn | 01286 830242 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Cyn dyddiau cyfrifiaduron, a phan roedd plant tlawd methu fforddio papur, defnyddiwyd llechen tenau a sialc yn yr ysgol. Yn 1861, sefydlwyd cwmni Inigo Jones yn bennaf i gyflenwi’r angen am y llechi ysgrifennu. Cynhyrchiwyd yn eu miloedd yn ei gweithdy. Yn ogystal a’r llechi bach, cynhyrchwyd darnau o lechi enfawr. Y darn mwyaf oedd i gwmni ICI ac ‘roedd yn 6.9 m x 2.1m. Llechi Inigo Jones cafodd eu defnyddio ar gyfer panelau trydanol ar longau enwog y cwmni Cunard; Mauritania, Brenhines Elizabeth 1 a’r Frenhines Mary. Gellir gweld y paneli llechi ar fwrdd y Frenhines Mary sydd yn atyniad i ymwelwyr yn Long Beach, California. Heddiw, mae’r cwmni yn defnyddio yr un defnydd, llechi lleol sydd dros 500,000,000 o flynyddoedd oed, i greu cofebion, cynnyrch pensaernïol, tirwedd a chrefft. Mae ymweliad âg Inigo Jones yn eich galluogi i gael cip olwg ar hanes y diwydiant llechi yn ogystal âr broses gyfredol o ragffurfio cynnyrch llechi gwahanol. Mae’r caffi yno yn gyfleus os ydych yn beicio ar hyd Lôn Eifion o Gaernarfon i Criccieth. Mae’r caffi a’r ystafell ymddangos ar agor 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn.
| Cyfeiriad | Corris, Machynlleth, SY20 9RF |
|---|---|
| Ffôn | 01654 761584 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Casglwch eich het galed a gwneud eich ffordd i fynediad y Labyrinth i ymuno a’ch geid; y dirgel cychwr â chwfl. Dringwch ar fwrdd y cwch, a hwyliwch o dan y ddaear ar daith sy'n mynd â chi ar hyd twnelau troellog, drwy rhaeadr gwych ac ar draws filoedd o flynyddoedd. Yn ddwfn y tu mewn i'r Labyrinth ac yn bell yn ôl mewn amser, byddwch yn gadael y cwch gyda'ch cychwr. Edrychwch ar y lleoliad ysblennydd o dan y ddaear. Wrth i chi ddarganfod y labyrinth mae chwedlau gwefreiddiol y Brenin Arthur a chwedlau hynafol Cymreig eraill yn cael eu hadrodd, ynghyd a golygfeydd dramatig, mae effeithiau golau a sain yn ychwanegu at yr antur anhygoel o dan y ddaear.
| Cyfeiriad | Llanberis, Caernarfon, LL55 4UR |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870636 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Pan gafodd ei gomisiynu yn 1984, ystyriwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn un prosiectau peirianyddol ac amgylcheddol mwyaf dychmygus yn y byd.
Heddiw, mae nodweddion gweithredol a'r gallu ymateb dynamig yn dal i gael ei gydnabod ledled y byd. Dinorwig yw'r cynllun mwyaf o'i fath yn Ewrop.
| Cyfeiriad | Llanbedrog, Pwllheli, LL53 7TT |
|---|---|
| Ffôn | 01758 740 763 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Oriel Plas Glyn y Weddw yw un o orielau hynaf Cymru. Adeiladwyd y plasty yn 1856/57 i gadw casgliadau celf y Fonesig Elizabeth Love Jones Parry, Madryn. Yn dilyn marwolaeth y Fonesig, bu’r plas yn nwylo’r teulu Angerstein cyn ei werthu yn 1896 i deulu Solomon Andrews o Gaerdydd. Bu’r teulu Andrews yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau busnes yn Llŷn, gan gynnwys agor y plasty i’r cyhoedd fel canolfan adloniant a chelfyddyd i ymwelwyr a phobl leol. Prynwyd y plas yn 1979 gan Dafydd a Gwyneth ap Tomos a thrwy lafur cariad adnewyddwyd yr Oriel yn yr 80au a’r 90au cynnar gan ffurfio corff o Gyfeillion yr Oriel. Yn 1996, prynwyd yr Oriel gan Ymddiriedolaeth Elusennol o blith y Cyfeillion ac ymgymerwyd â rhaglen sylweddol o adnewyddu pellach. Heddiw, mae’r Plas yn ganolfan gelfyddydol ffyniannus, gyda’i chasgliad ei hun o gelf, ac arddangosfa bwysig o borslen Abertawe a Nantgarw ar fenthyg gan deulu’r Andrews. Mae’r Plas ei hun yn gampwaith pensaernïol, gyda tho trawsgordd a grisiau Jacobeaidd mawreddog. Fe’i rhestrir gan CADW fel adeilad Gradd II*.
| Cyfeiriad | Y Ffôr, Pwllheli, LL53 6PG |
|---|---|
| Ffôn | 01766 810 202 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Dewch i fwynhau diwrnod gwych i’r teulu yng Ngogledd Cymru, a phrofwch y llu o weithgareddau sydd ar gael ym Mharc Gweithgareddau Glasfryn, y Ganolfan Fowlio a’r Parc Tonfyrddio Cebl ger tref Pwllheli ym Mhen Llŷn, Pwllheli.
| Cyfeiriad | Llandwrog, Caernarfon, LL54 5DY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 830222 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Yn cuddio yn y gerddi hardd mae nifer o atyniadau o gyfnod teulu Newborough, megis y tŷ cychod a chell y meudwy, yn ogystal â cherfluniau ac atyniadau sydd wedi'u hysbrydoli gan lenorion enwog fel Kate Roberts, Caradog Pritchard a T.Rowland Hughes.
| Cyfeiriad | Quarry Hospital, Llanberis, Caernarfon, LL55 4TY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870892 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae’r Parc 800 acer aruthrol hwn yn cynnwys Llyn Padarn, coetir derw hynafol Coed Dinorwig a Chwarel Vivian. Ewch i ymweld â hen Ysbyty’r Chwarel, sydd bellach yn atyniad twristiaid, i weld yr ystafell llawdriniaeth a’r ward adferedig, yn ogystal â chelfi erchyll ac arddangosion eraill sy’n gysylltiedig â’r Parc. Neu gallwch grwydro’r coetiroedd, glannau’r llyn a’r llwybrau treftadaeth ddiwydiannol, ac ymweld ag atyniadau amrywiol eraill y safle – mae digon i’w wneud yma! Mae digonedd o le parcio a chyfleusterau eraill ar y safle.
| Cyfeiriad | Porthmadog, LL48 6ET |
|---|---|
| Ffôn | 01766 770000 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Lle perffaith am ddiwrnod allan gyda'r teulu - parcio am ddim, teithiau tywys am ddim, sioe glyweled, bwytai, siopau, gerddi, traethau.
| Cyfeiriad | Gilfach Ddu, Llanberis, Gwynedd, LL55 3ES |
|---|---|
| Ffôn | 01286 872 310 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Rhaffau ac Ysgolion eich gwahodd i antur cofiadwy wrth droed yr Wyddfa ar gyfer plant ac oedolion. Leap, cydbwysedd, dringo a siglo ar ein gweithgareddau awyr yn y diogelwch eich harnais. Mae unigolion, teuluoedd a grwpiau Mae croeso i brofi eu hunain yn erbyn yr heriau a mwynhewch y golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd a llynnoedd.Nid oes angen i'r plant iau i golli allan. Eu cael i mewn i harneisio a helmed ac i ffwrdd iddynt fynd ar eu hantur.
Mae'r holl offer diogelwch a ddarperir.Eisiau dringo Wyddfa neu ddringo wyneb craig? Rydym yn darparu cerdded mynyddoedd y cyfarwyddyd a'r creigiau dringo awyr agored / abseilio. Dewiswch o ddiwrnod allan gyda'ch hyfforddwr hun neu arwyddo ar i un o'n dyddiau a drefnwyd.
| Cyfeiriad | Gilfach Ddu, Llanberis, Caernarfon, LL55 4TY |
|---|---|
| Ffôn | 01286 870549 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Dewch i ddarganfod apêl bythol ein trenau bychain - ffordd fwy hamddenol o deithio, a ffordd ddelfrydol i fwynhau harddwch Eryri.
Yn cychwyn o orsaf Gilfach Ddu, mae'r daith yn eich tywys heibio castell Dolbadarn ar draws, o bosib, yr afon fyraf ym Mhrydain a rhwng dau lyn Llanberis wrth i'r drên deithio ar hyd yr estyniad (â agorwyd yn 2003) i bentref Llanberis. Oddi yno aiff y drên yn syth drwy Barc Gwledig Padarn, gan ymuno â'r hen lein llechi o 1845 i redeg ar hyd glan Llyn Padarn i Benllyn, ble gwelir rai o'r golygfeydd gorau o'r Wyddfa.
| Cyfeiriad | Beach Road, Fairbourne, LL38 2EX |
|---|---|
| Ffôn | 01341 250 362 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae'r Rheilffordd wedi rhedeg o bentref Fairbourne i Borth Penrhyn ers 1895.
Gyda dyfodiad Rheilffordd Arfordir y Cambrian, roedd cynlluniau i ddatblygu'r ardal ar gyfer ymwelwyr. Roedd yna nifer o dramffyrdd geffylau adeiladu yn yr ardal, y dramffordd a ddefnyddiwyd i adeiladu pentref a ddatblygodd i Rheilffordd Fairbourne.
| Cyfeiriad | Wharf Station, Tywyn, LL36 9EY |
|---|---|
| Ffôn | 01654 710472 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gobeithiwn y dewch i fwynhau ein rheilffordd stem hanesyddol a chwrdd â’r gwirfoddolwyr cyfeillgar. Mae’r rheilffordd yn rhedeg am saith milltir a chwarter (11.8 cilomedr) trwy Ddyffryn hardd a dinewid Afon Fathew.
| Cyfeiriad | Tremadog Road, Porthmadog, LL49 9DY |
|---|---|
| Ffôn | 01766 513402 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Fe awn â chi ar daith trên fer, ac yna fe awn i’r Cytiau Injans, ble cewch ddringo i mewn i gabiau’r locomotifau a gweld sut mae pethau’n gweithio.
Gallwch ddarganfod mwy am leiniau bach cul Porthmadog a sut y daethant yn fyd-enwog trwy ddarllen y llyfryn tywys rhad ac sm ddim ar gyfer ymwelwyr.
| Cyfeiriad | Llanberis, Caernarfon, LL55 4TY |
|---|---|
| Ffôn | 0844 493 8120 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Gadewch i Reilffordd yr Wyddfa fynd â chi ar daith unigryw i lecyn uchaf Cymru. Mae’r Wyddfa 3,560tr yn tra-arglwyddiaethu dros dirwedd Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru. Hawliwch y copa hwn, yr uchaf yng Nghymru, fel cyflawniad oes. Mae’r golygfeydd syfrdanol yn golygu y cewch chi a’ch teulu ddiwrnod gwych yng Ngogledd Cymru.
| Cyfeiriad | |
|---|---|
| Ffôn | 01678-521109 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Y mae yna ystod eang o siopau yn y Bala, gyda’r pwyslais ar gynnyrch lleol o ansawdd y gall yr ymwelydd craff ei ddarganfod. Bydd y siopau hyn yn gallu cyflawni eich anghenion a chynnig amrywiaeth diddorol o gynnyrch cartref, anrhegion a nwyddau ar gyfer yr awyr agored, yn ogystal â’r ystod arferol o siopau a banciau sy’n nodweddiadol o dref farchnad fechan.
Mae yna ddwy siop gigydd draddodiadol yn y dre, yn gwerthu cynnyrch lleol sy wedi ennill gwobrau, yn ogystal â chynnyrch ‘deli’, hefyd siop groser draddodiadol sy wedi ennill gwobrau am ei bara, ei chacennau a’i chynnyrch sawrus.
Ar gyfer y rhai sy’n treulio amser yn yr awyr agored mae yna siop yn gwerthu offer canwio a cherdded, y mae yna hefyd siop feics yn y dref. Ar gyfer y rhai sy’n chwilio am anrhegion mae yna ddewis o siopau yn cynnwys oriel ddarluniau a siopau sy’n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg.
| Cyfeiriad | Neuadd Idris, Eldon Square, Dolgellau, LL40 1PU |
|---|---|
| Ffôn | 01341 421800 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Mae Tŷ Siamas wedi ei leoli yn un o brif adeiladu tref hynafol Dolgellau, Meirionnydd.
| Cyfeiriad | Christchurch, Bangor Street, Caernarfon, LL55 1AR |
|---|---|
| Ffôn | 01286 671911 |
| Gwefan | Cliciwch Yma |
Tra bydd y plant yn gollwng stem ar y sleidiau cwymp anferth, pyllau peli, tiwbiau, pontydd, drysfa, waliau dringo, rhwydi a rhaffau..... Gall yr oedolion ymlacio yn y bwyty trwyddedig, mwynhau’r patio allanol neu ymuno â’r plant yn y man chwarae.
Cysylltwch a ni | Polisi Preifatrwydd | Termau ac Amodau