Bwyty / Caffi

Caffi Caban

CyfeiriadBrynrefail, Caernarfon, LL55 3NR
Ffôn01286 685500
GwefanCliciwch Yma

Menter Cymdeithasol yw Caban Cyf, wedi ei sefydlu i hwyluso datblygiad economaidd cefn gwlad yn y llecyn hynod brydferth hwn o Ogledd Cymru. Wedi ei leoli ym mhentref bach Brynrefail, ar drothwy’r Wyddfa, mae Caffi Caban yn cynnig bwyd o’r safon orau am brisiau fforddiadwy. Mae cogyddion Caban yn defnyddio dychymyg, cynnyrch lleol a llysiau o’n ardd ni i greu prydau gwych ac enw da gyda’n cwsmeriaid. Mae'r caffi ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 9am - 4pm.

Caban Building

Ewch i'r map

Caffi Caban Pen y Pass

CyfeiriadPen y Pass, Nant Gwynant, Caernarfon, LL55 4NY
Ffôn01286 870500
GwefanCliciwch Yma

Caffi newydd mewn man delfrydol wrth droed yr Wyddfa, yn darparu bwyd cartref i dwymo’r galon yng nghalon Eryri. Prun ai eich bod yn dringo llwybrau PyG neu’r Mwynwyr i fyny’r Wyddfa, yn cerdded i Gastell y Gwynt ar y Glyder, yn seiclo dros fwlch enwog Pen-y-Pass, neu dim ond yn treulio diwrnod ar y bryniau , mae Pen-y-Pass yn cynnig te, coffi a chacennau cartref o’r ansawdd gorau yn ogystal â bwydlen brecwast ac amser cinio helaeth.

Ewch i'r map

Caffi Parc Glasfryn

CyfeiriadY Ffôr, Pwllheli, LL53 6PG
Ffôn01766 810 202
GwefanCliciwch Yma

Prydau a byrbrydau cartref blasus wedi’u paratoi gan ddefnyddio cynnyrch lleol, ffres, ym Mharc Glasfryn.

Prydau cartref ffres (yn cynnwys dewisiadau llysieuol) sy’n defnyddio cynnyrch lleol, gan gynnwys cig o’n FFERM ni!
Dewch i fwynhau byrbryd ysgafn, brechdanau neu bryd mwy sylweddol ar ôl rasio’r go-certi neu reidio’r beiciau cwad.

Caffi Glasfryn

Ewch i'r map

Gwesty Maes y Neuadd

CyfeiriadTalsarnau, Harlech, LL47 6YA
Ffôn01766 780200
GwefanCliciwch Yma

Un o fwytai gorau Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan y llyfrau tywys pwysicaf a llu o wobrau.

Plasty gwledig, ger Castell Harlech, ym Mynyddoedd Eryri.

Fe’i dewiswyd yn Westy Plasty Gwledig Cymreig y Flwyddyn 2003, gan y Good Hotel Guide

Dyfarnwyd Gwobr Aur Croeso Cymru iddo yn 2010.

Cafodd Wobr Aur Croeso Cymru yn 2011

Ewch i'r map

Medi Cafe Bar

CyfeiriadOld Corn Exchange, Stryd Palas, Caernarfon, LL55 1RR
Ffôn01286 674 383
GwefanCliciwch Yma

Bar Medi ger Castell Caernarfon, ystafell gynfas ar gyfer cyfarfodydd preifat, bwffes a phartïon, bwyd cartref a choctels yn y prif far, dewis o dri bar sydd ar agor tan 2am ar benwythnos ynghyd â mynediad rhad ac am ddim.

Medi Building

Ewch i'r map

Oriel Caffi Croesor

CyfeiriadWeirglodd Bach, Croesor, Penrhyndeudraeth, LL48 6SS
Ffôn01766 770 524
GwefanCliciwch Yma

Mae Oriel Caffi Croesor yn rhan o brosiect cymunedol mwy, sy’n cael ei redeg yn rhannol gan wirfoddolwyr er less yr economi lleol. Saif y caffi a’r galeri mewn pentref anghysbell yn un o gymoedd harddaf Eryri. Y nod yw hyrwyddo gwaith artistiaid Gogledd Cymru. Yn ogystal â mwynhau gweithiau celf diddorol a golygfeydd syfrdanol, gall ymwelwyr fwynhau cacennau cartref a choffi go iawn yn y caffi.

Oriel Caffi Croesor

Ewch i'r map

Taro Deg

CyfeiriadLôn Dywod, Pwllheli, LL53 5HH
Ffôn01758 701 271
GwefanCliciwch Yma

Mae TARO DEG yn cynnig coffis hyfryd, te a diodydd ynghyd a brecwast a phrydau ysgafn gan gynnwys pwdinau a chacennau blasus mewn awyrgylch ysgafn, cyfoes a chymreig. Mae'r prydau i gyd ynghyd a'r pwdinau a chacennau yn cael eu paratoi a'u gweini yn y caffi ac yn flasus dros ben.

Taro Deg

Ewch i'r map

Y Daflod @ Tafarn y Fic

CyfeiriadTafarn Y Fic, Llithfaen, Pwllheli, LL53 6PA
Ffôn01758 750473
GwefanCliciwch Yma

Lleolir yr ystafell fwyta yn 'Y Daflod'; yn nhafarn gymunedol Y Fic yn Llithfaen. Mae'r pwyslais ar gynnig bwyd ffres, tymhorol gan ddefnyddio cynnyrch lleol a bydd y fwydlen yn adlewyrchu hyn. Mae Hefina yn barod iawn i arbrofi gyda cynhyrchwyr lleol a newydd. Ceir naws Gymreig yn y bwyty hefyd, o'r gerddoriaeth yn y cefndir i'r lluniau ar y waliau.

Ewch i'r map

Flickr