Pwynt Gwybodaeth Darganfod Gwynedd

Brigands Inn

CyfeiriadMallwyd, Nr Machynlleth, Powys, SY20 9HJ
Ffôn01650 511 999
GwefanCliciwch Yma

Mae’r Brigands Inn yn dafarn goetsis o’r bymthegfed ganrif sydd wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar, ac fe saif mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol sy’n swyno llawer o ymwelwyr a ddaw i fwynhau gwyliau byr neu wneud busnes yn yr ardal. Lleolir y dafarn goetsis nodweddiadol ac arobryn hon yng nghanol Uwchdiroedd Cymru, ger dyfroedd uchaf Afon Dyfi, ac yno, gall ymwelwyr ddychmygu eu bod mewn oes sydd wedi hen fynd heibio, ac anghofio am ofidiau beunyddiol. Mae’r Brigands Inn yn fusnes teuluol, sy’n cynnig awyrgylch hamddenol ble gallwch fwynhau gwyliau byr, bwyd da neu ddathlu achlysur arbennig.

Brigands Inn

Manylion Ewch i'r map

Caffi Fitzpatricks

Cyfeiriad9 Ogwen Terrace, High St, Bethesda, Gwynedd, LL57 3AY
Ffôn01248 602416

Caffi Fitzpatrick, Bethesda, lle gwych i fwynhau expresso neu lond plât o fwyd blasus ar y teras glan yr afon sy’n edrych i lawr ar Afon Ogwen.

Nant Ffrancon Glyder Fach Llyn Ogwen Cwm Idwal Carneddau

Manylion Ewch i'r map

Canolfan Nefyn

Cyfeiriad
Ffôn

Canolfan Nefyn yn y Ganolfan Gymunedol newydd ar gyfer Nefyn cynnal rhaglen osesiynau celf a darparu cyfleusterau ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadaucymunedol.

Canolfan Nefyn

Ewch i'r map

CanolfanTryweryn

CyfeiriadFrongoch, Bala, Gwynedd, LL23 7NU
Ffôn01678 521083
GwefanCliciwch Yma

Datblygodd Canolfan Tryweryn fenter rafftio dŵr gwyn masnachol cyntaf y Deyrnas Unedig ym 1986, ac ers hynny, mae’r ganolfan wedi ehangu, a bellach, dyma’r sefydliad rafftio dŵr gwyn mwyaf a’r mwyaf ei barch yn y Deyrnas Unedig. Mae Afon Tryweryn yn afon sy’n cael ei gollwng o argae, felly bydd yr afon yn aml yn llifo pan fydd afonydd eraill Prydain wedi sychu, gan gynnig man unigryw i fwynhau rafftio dŵr gwyn trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys penwythnos gwyliau antur rafftio dŵr gwyn, canŵio a chaiacio a gweithgareddau adeiladu tîm ar gyfer cwmnïau.

Canolfan Tryweryn Afon Tryweryn Llyn Tegid Rheilffordd Llyn Tegid/Bala Lake Railway O ben Cwm Cynllwyd/Above Cwm Cynllwyd

Manylion Ewch i'r map

Eglwys Pennal

CyfeiriadPennal
Ffôn

Saif eglwys ganoloesol Sant Pedr Ad Vincula ym mhentref hardd Pennal yng Ngorllewin Cymru. Sefydlwyd yr eglwys yn y 6ed ganrif gan genhadon Celtaidd o Lydaw. Dyma’r unig eglwys yng Nghymru i gael ei chysegru i Sant Pedr mewn Cadwyni (ad Vincula), y gellir darllen ei hanes yn Actau’r Apostolion, pennod saith. Er bod gan yr eglwys hanes sy’n ymestyn yn ôl tua 1500 mlynedd, mae’n fwyaf adnabyddus am ei chysylltiad ag Owain Glyndŵr, a ddaeth i Bennal ym 1406. Yma, ysgrifennodd Glyndŵr ei "Lythyr Pennal" enwog, ac mae copi ohono yn yr eglwys. Mae llun olew mawr o ymweliad Glyndŵr â Phennal i’w weld yn yr eglwys hefyd.

Manylion Ewch i'r map

Gwesty Tŷ Newydd

CyfeiriadAberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BE
Ffôn01758 760207
GwefanCliciwch Yma

Lleolir Gwesty Tŷ Newydd ym mhentref hardd a hanesyddol Aberdaron ym Mhen Llŷn. Mae Gwesty Tŷ Newydd yn edrych yn uniongyrchol dros fae a thraeth tywodlyd Aberdaron, un o draethau gorau a mwyaf diogel Pen Llŷn. Gallwch aros yn y Gwesty ‘Pedair Seren’ moethus hwn, mwynhau golygfeydd godidog, blasu danteithion megis cimwch a chranc ffres o Ynys Enlli a the prynhawn yn cynnwys cacennau wedi’u pobi gartref, a gwylio machlud yr haul o’r teras gan fwynhau gwydriad neu ddau o’n bar trwyddedig.

Gwesty Tŷ Newydd Traeth Aberdaron Beach Aberdaron Uwchmynydd (Ynys Enlli/Bardsey Island) Uwchmynydd

Manylion Ewch i'r map

Inigo Jones

CyfeiriadTudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon, LL54 7UE
Ffôn01286 830242
GwefanCliciwch Yma

Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones yn 1861, i gynhyrchu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion yn y lle cyntaf. Bellach, mae’r cwmni’n cynhyrchu crefftwaith coffa pensaernïol ac eitemau gardd o lechfaen naturiol Cymru. Mae’n arbenigo mewn cynhyrchu placiau llechen wedi’u hysgythru, ac mae’r rhain yn dal i gael eu cynhyrchu’n ôl y galw. Yn sgil y galw, mae Inigo Jones bellach yn cynnig taith di-dywysydd o’r Gweithfeydd, sy’n gyfle i weld y broses rhagsaernïo. Mae gweithfeydd Inigo Jones bellach yn atyniad ymwelwyr pwysig, ac mae ar agor yn ddyddiol trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys penwythnosau.

Inigo Jones Dyffryn Nantlle Cwm Silyn Craig y Bera

Manylion Ewch i'r map

McColls Convenience Store

Cyfeiriad39-41 Church Street, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3HD
Ffôn01766 832158
GwefanCliciwch Yma

Archfarchnad fechan a siop bapur y gymdogaeth, sy’n gwerthu eich holl anghenion dyddiol.

McColls Dyffryn Ffestiniog/Vale of Ffestiniog Cnicht Moelwynion

Manylion Ewch i'r map

Parc Gwledig Padarn

CyfeiriadLlanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4TY
Ffôn01286 870892
GwefanCliciwch Yma

Gwarchodfa natur 800 erw sy’n cynnwys Llyn Padarn, coedlan dderw hynafol Coed Dinorwig a Chwarel Vivian. Gellir troedio llwybrau coedwig a llwybrau treftadaeth ddiwydiannol, yn ogystal â nifer o atyniadau hudolus, megis hen drenau stêm a theithiau mewn cwch ar y llyn. Mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol arobryn yma hefyd.

Gilfach Ddu Llyn Padarn Castell Dolbadarn Dyffryn Peris/Llanberis Pass Rheilffordd yr Wyddfa/Snowdon Railway Copa'r Wyddfa/Snowdon Summit

Manylion Ewch i'r map

Plas Glyn y Weddw

CyfeiriadLlanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7TT
Ffôn01758 740 763
GwefanCliciwch Yma

Mae'r Galeri yn Ganolfan Celfyddydau ffyniannus, sydd â chasgliad o luniau a phrintiau, ac arddangosfa bwysig o lestri Nantgarw ar fenthyg oddi wrth y teulu Andrews (disgynyddion Solomon Andrews a agorodd y Galeri i'r cyhoedd. Mae yno hefyd ddau gofadail angladdol adnabyddus dau o seintiau Cymreig lleol o'r 6ed Ganrif, ac arddangosfa o hanes y plasty.

O ben Llanbedrog/Above Llanbedrog Traeth Llanbedrog Beach Traeth Llanbedrog Beach O ben Llanbedrog/Above Llanbedrog Traeth Llanbedrog Beach

Manylion Ewch i'r map

Pwynt Gwybodaeth Caban

CyfeiriadBrynrefail, Caernarfon, LL55 3NR
Ffôn01286 685500
GwefanCliciwch Yma

Mae Caban Cyf yn gaffi trwyddedig sy’n cael ei rhedeg gan fudiad cydweithredol, ac yn gwerthu bwyd o’r ansawdd uchaf am bris fforddiadwy. Mae cogyddion Caban yn defnyddio amrywiaeth o gynnyrch organig iach gan gyflenwyr lleol, a ffrwythau a llysiau o’r ardd sydd ar safle’r caffi. Mae’r caffi wedi’i lleoli ym mhentref Brynrefail ger troed yr Wyddfa.

Caban Pen Llyn Castell Dolbadarn Dyffryn Peris/Llanberis Pass Rheilffordd yr Wyddfa/Snowdon Railway Copa'r Wyddfa/Snowdon Summit Llyn Padarn

Manylion Ewch i'r map

Rheilffordd Talyllyn

CyfeiriadWharf Station , Tywyn, Gwynedd, LL36 9EY
Ffôn01654 710472
GwefanCliciwch Yma

Mae Rheilffordd Tal-y-llyn yn lein fach gul hanesyddol, yn harddwch cefn gwlad Canolbarth Cymru. Mae’r rhedeg o Dywyn i Abergynolwyn a Nant Gwernol, ac mae’n mynd heibio rhaeadr odidog Dolgoch. Gellir mwynhau teithiau cerdded rhagorol trwy’r goedwig yn Nant Gwernol.

Talyllyn Railway

Manylion Ewch i'r map

Sŵn y Môr

CyfeiriadLon Felin, Criccieth, Gwynedd, LL52 0HL
Ffôn01766523038

Yr ydym yn fwyty sy’n croesawu teuluoedd ac yn cynnig dewis helaeth o fwyd wedi’i goginio’n ffres. Yr ydym yn dewis ein cynhwysion yn ddoeth, e.e. mae ein holl gyflenwyr wedi’u lleoli yng Nghymru, ac yr ydym yn cynnig coffi masnach deg, wyau maes, steciau Gwartheg Duon Cymreig ynghyd â phrisiau rhesymol bob amser. Mae’r fwydlen wastad yn cynnig dewis o brydau llysieuol a phrydau i blant. Lleolir y bwyty ger y môr, ac mae digon o le parcio rhad ac am ddim. Mae’r gan y traeth cyfagos faner las, ac mae’r bwyty’n wynebu’r de. Yn ystod yr haf, cawn ymweliadau rheolaidd gan ddolffiniaid a llamhidyddion, a bydd cyfle gwych i bysgota o’r morglawdd os bydd mecryll o gwmpas. Y n ystod yr haf, byddwn ar agor rhwng hanner dydd a 9.00 yp, ond bydd ein chwaer gaffi drws nesaf (Blue China) yn cynnig brecwast o 9.00 yb ymlaen. Mae ein busnes yn lleihau’n sylweddol yn ystod y gaeaf, felly byddwn yn cwtogi ein horiau agor yn unol â hynny. Byddwn ar gau yn ddieithriad yn ystod mis Ionawr.

Swn y Môr Swn y Môr Swn y Môr

Manylion Ewch i'r map

Flickr